Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi diolch i werthwyr bwyd a diod annibynnol sydd wedi cadw’r cadwyni cyflenwi lleol yn llifo ac wedi cefnogi staff y GIG yn ystod y pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Tra bod nifer o fusnesau – yn enwedig caffis a bwytai – wedi gorfod rhoi’r gorau i fasnachu yn ystod y cyfyngiadau symud, mae nifer o fusnesau eraill wedi ymateb i’r galw cynyddol wrth i gwsmeriaid sy’n hunan-ynysu newid eu harferion siopa.

Mae marchnadeodd sydd wedi’u hen sefydlu a busnesau tebyg wedi cynyddu eu gwerthiant ar-lein er mwyn cadw’r busnes i fynd – tra bo eraill wedi ymuno â’i gilydd i ddarparu prydau am ddim i staff y GIG a phobl fregus; gan gynnwys trwy’r ymgyrch Bwydo’r GIG. 

Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn Lester’s Farm Shop yn Drury, ger Bwcle, Sir y Fflint, bu’n rhaid i’r perchennog Lester Thompson gau ei gaffi a’r siop ar y safle pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud, gan gau un o brif elfennau ei fusnes.   

Ond i wneud yn siwr bod pobl leol – yn enwedig pobl fregus neu oedrannus – yn parhau i dderbyn bwyd, daeth Lester o hyd i gyflenwyr newydd a sefydlu gwasanaeth danfon newydd i gael bwyd – gan gynnwys ffrwythau, llysiau, cig a llefrith – a bwydydd hanfodol eraill allan i’r gymuned.  

Roedd hyd yn oed yn gallu cyflogi staff ychwanegol er mwyn sicrhau ei fod yn gallu bodloni’r galw.  

Meddai Lester:

Gan bod y caffi ar gau, a bod yr incwm hwnnw wedi mynd, er mwyn i’r busnes oroesi, roedd yn rhaid imi addasu.  Cyn hyn, roedd yn galed, gan bod maint yr elw ar ffrwythau a llysiau yn dynn iawn ac amodau’r farchnad yn gystadleuol iawn. 

Nid oeddwn yn trefnu danfon bwyd i’r rhai sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol yn gysylltiedig ag arian – roedd yn gysylltiedig â helpu pobl, a’r gymuned leol, a rhoi Drury ar y map.

Mae busnesau bwyd hefyd wedi ymuno drwy Bwydo GIG Cymru; menter sy’n dod â chyflenwyr, ceginau a busnesau eraill at ei gilydd, gan ganiatáu i werthwyr unigol ddarparu pob rhan o’r prydau sy’n cael eu hanfon at staff y GIG. 

Mae Matt Heaven, un o berchnogion y bwyty Môr yn y Mwmbwls, yn trefnu yr ymgyrch Bwydo GIG Cymru, gan ddod â nifer o fusnesau at ei gilydd i sicrhau bod gan staff y GIG brydau da.  

Meddai Matt:

Gwelsom rai ymgyrchoedd lleol – yn y Môr, mae gennym ffrindiau sy’n feddygon ac yn nyrsus, a gwelsom yr angen am rhywbeth wedi’i drefnu’n well, ar raddfa fwy. 

“Mae pobl yn gweithio mewn Cyfarpar Diogelu Personol llawn am 12 awr, ac mae angen gwirioneddol iddynt gael bwyd da, maethlon a safonol.

Gwelodd Matt bod yr ymgyrch hefyd yn cael ei gefnogi gan nifer o fwytai llai, annibynnol a chyflenwyr lleol llai, oedd wedi gweld yr effaith ar eu busnesau wrth i fwytai a chaffis gau.  

Ychwanegodd:

Mae nifer o staff yn gwirfoddoli, gan eu bod ar gyfnod seibiant – felly maent yn gwneud hyn eu hunain.

Ychwanegodd Matt yn ogystal â chodi bron i £100mil, ar-lein ac all-lein, mae’r ymgyrch hefyd wedi cael ei gefnogi gan yr ymgyrch Feed The NHS dros ledled y DU, sydd wedi cytuno i ariannu’r ymgyrch yng Nghymru gyda £20,000 pob wythnos yn ystod mis Mai. 

Mae’r tîm yn y bwyty bwyd môr ar Ynys Môn wedi bod yn gweithio’n galed yn cael y bwyd allan i staff y GIG a phobl fregus ledled y Gogledd.  

Mae Dylan’s, sydd â bwyty ym Mhorthaethwy, Llandudno and Criccieth, wedi gweithio ochr yn ochr â’r bartneriaeth nid er elw Menter Môn, a Larder Môn, i ddosbarthu parseli bwyd ar draws Ynys Môn a Gwynedd – gan gynnwys i staff y GIG yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd David Evans, Rheolwr-gyfarwyddwr Dylan’s, bod timau yn cael bwyd allan i’r ddwy ysbyty ar gyfradd o oddeutu 120 o brydau wedi’u pacio y dydd – ac roedd ffigurau tebyg o oddeutu 1,000 yr wythnos i bobl fregus trwy gydweithio gyda  Menter Môn.

Dywedodd:

Roeddem yn gwybod fod staff yr ysbyty yn ei chael yn anodd, ac mewn rhai achosion yn gorfod dibynnu ar beiriannau gwerthu bwyd, gan nad oeddent yn gallu mynd i’r cantîn. 

Mae wedi tyfu’n gyflym iawn – rydym wedi darparu 1,000 o brydau rhwng y ddwy ysbyty erbyn diwedd yr wythnos, rydyn ni’n danfon oddeutu 120 cinio mewn pecyn a phrydau poeth y dydd.

Ychwanegodd David bod y bwyty hefyd yn darpru bwyd i deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, diolch i gydweithio gyda chynghorau Gwynedd ac Ynys Môn. 

Ychwanegodd:

Mae’n arwydd calonogol iawn – mae’n anhygoel pa mor gyflym y gall bawb addasu a chydweithio yn ystod cyfnodau fel hyn.

Rhai sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd ar gyfer staff rheng flaen y GIG yw Cwm Farm Charcuterie yn y de-orllewin.

Cafodd Ruth Davies, perchennog Cwm Farm Charcuterie – sydd rhwng Ystradgynlais a Rhyd-y-fro – ei hysbrydoli i helpu staff ysbyty yn Ysbyty Morriston, Abertawe. 

Meddai Ruth:

Cefais fy magu oddeutu hanner awr i lawr y ffordd o Ysbyty Treforus ac mae fy nheulu wedi bod yno dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn teimlo fy mod am roi rhywbeth yn ôl.

Wrth ymweld â’r ysbyty, aeth Ruth â dros 100 o gaserolau selsig a 50 pryd reis a tsili i staff y rheng flaen, gan eu danfon i’r ysbyty ei hun. 

Rhoddais y prydau iddynt, ac roeddent mor falch.  Gwnaeth imi sylweddoli – rhywbeth bach iawn ydw i’n ei wneud, ond mae’n gwneud gwahaniaeth.  

Sefydlwyd Mam-gu Welshcakes yn Solfach, yn ymyl Hwlffordd, gan y ffrindiau Becky Hood a Thea Noble. Ond mae eu siop goffi ar gau ar hyn o bryd, a gohiriwyd eu cynlluniau i ehangu’r busnes.
Mae’r cwmni bellach wedi troi ei sylw at werthu ar-lein – a ffyrdd o gefnogi’r gymuned.

Dywedodd Thea:

Rydym ni wedi gwerthu ein pice ar y maen ar-lein ers y dechrau, ond erbyn hyn, mae’r siop ar-lein yn ein cadw ni’n fyw. Mae wedi dod yn graidd i’n busnes ac yn ein helpu i gyflogi ein staff tymhorol.

Am £1, gall cwsmeriaid gyfrannu pice ar y maen. Rydym wedi bod yn anfon bocsys o bice ar y maen i ysbytai, unedau arbenigol, meddygfeydd a chartrefi gofal lleol, ac ar draws y DU.

Fe wnaethom ni ddechrau’r cynllun cyfrannu pice ar y maen y llynedd, ond mae wedi dod yn fwy arwyddocaol erbyn hyn. Rydym ni’n anfon dau focs bob wythnos i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen, ac rydym ni wedi derbyn ambell i lythyr hyfryd gan staff yn diolch i ni.

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, byddai Pizza-Ria, yn Pont-iets ger Llanelli, sy’n cael ei redeg gan Rob a Maria Parsons, fel arfer yn tanio’r ffwrn pizza symudol mewn digwyddiadau a sioeau ar draws de a gorllewin Cymru.

Ond, gan fod eu calendr arferol wedi’i ohirio ar hyn o bryd, mae’r ddau wedi creu eu pecynnau Pizza-Ria eu hunain er mwyn i bobl eu defnyddio gartref.

Dywedodd Rob:

Gan fod yr holl ddigwyddiadau wedi eu gohirio am y dyfodol rhagweladwy, roedden ni eisiau cael ffordd arall o’n cadw ni’n brysur, a hefyd i roi gweithgaredd i deuluoedd y gallant wneud gyda’i gilydd gartref. Mae sawl un o’n cwsmeriaid wedi bod yn bobl sydd fel arfer yn bwyta cludfwyd ar y penwythnos, neu sy’n mwynhau coginio gyda’u plant.

Mae’r ymateb rydym ni wedi cael wedi bod yn hollol wych. Mae pobl wedi bod yn dweud mai dyma’r pizza gorau y maent wedi cael erioed! Maen nhw hefyd wedi mwynhau’r broses o’u gwneud!

Er mwyn cadw costau i lawr i gwsmeriaid, mae Rob a Maria wedi bod yn dosbarthu’r pecynnau am ddim o amgylch Caerfyrddin, Llandeilo, Cwm Gwendraeth, Cydweli a Llanelli.

Mae Gower Cottage Brownies, yn Reynoldston, Abertawe, wedi bod yn bwydo staff yr ysbyty drwy’r cynllun Bwydo’r GIG. 

Meddai Rob Jenkins, pobydd yn Gower Cottage, bod y cwmni wedi pobi a danfon oddeutu 25 cilo o brownnis bob yn eilddydd – tua 500 browni. 

Maent hefyd wedi codi arian ar gyfer Charities Together y GIG trwy greu gorchudd Helpu’r GIG ar gyfer eu brownis, gyda’r arian o werthiant o y gorchudd yn mynd i’r elusen. 

Gyda’r sectorau lletygarwch a gwyliau mewn limbo, mae cwmni Bubbleton Farm, ger Dinbych-y-pysgod, wedi mynd yn ôl at ei wreiddiau, gan roi pwyslais ar ddarparu cynnyrch lleol ffres.

Er mwyn bodloni gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae Bubbleton Farm wedi cyflwyno opsiwn gyrru trwodd i’w cwsmeriaid, gyda’r taliadau yn cael eu gwneud o bell. Maent hefyd yn gynnig gwasanaeth dosbarthu lleol.

Mae teulu Tom Evans wedi bod yn ffermio yn Bubbleton Farm ers pum cenhedlaeth.

Dwedodd Tom:

Mae’n system syml. Mae pobl yn gyrru atom, yn dewis beth maen nhw eisiau o’r bwrdd arddangos, yn gosod eu harcheb a thalu, cyn aros i ni gasglu’r eitemau a’u rhoi nhw yng nghist eu car. Rydym ni bellach yn defnyddio caffi’r fferm fel man i gasglu archebion ynghyd.

Yn ogystal a gwerthu amryw o gynnyrch wedi’i bobi, cig a chynnyrch llaeth, mae’r siop hefyd wedi ychwanegu eitemau megis grawnfwydydd brecwast a sebon.

Dywedodd Tom:

Rydym mor ddiolchgar am gefnogaeth ein cwsmeriaid sydd wedi ein galluogi ni i gadw ein staff yn brysur ac i aros ar agor. Mae gennym ni gwsmeriaid gwych a ffyddlon, a gobeithio, pan fydd y sefyllfa bresennol yn gwella, y byddwn wedi denu mwy fyth o gwsmeriaid.

Mae Owen a Tanya Morgan o Myrddin Heritage, yn magu amryw o fridiau moch sy’n tyfu’n araf ar eu tyddyn ger Llandysul, wedi gorfod addasu eu busnes yn gyflym i fodloni gofynion y byd newydd.

Dywedodd Owen:

Pob wythnos, roeddwn yn cyflenwi mwy na 40 busnes lletygarwch ar draws De Cymru, y De-Orllewin a Llundain. Ond, daeth tua 95% o’n harchebion i ben dros nos.

Roedden yn gwybod bod rhaid i ni symud yn gyflym – naill ai derbyn y sefyllfa neu wneud rhywbeth gwahanol, felly'r diwrnod canlynol, fe wnaethom ni gael syniad ar gyfer Myrddin Heritage & Friends.

Mae’r pâr wedi uwchraddio eu gwefan i gynnwys bocsys brecwast a brecinio, gyda amrwyiaeth o gynnyrch lleol – gan gynnwys nwyddau wedi'u pobi, cynnyrch llefrith, te a choffi - i’w dosbarthu bob dydd Gwener i gwsmeriaid yn ne a gorllewin Cymru, o Sir Benfro i Gaerdydd a’r Cymoedd.

Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn anhygoel, dywedodd Owen.

Mewn mis, rydym ni wedi mynd o ddosbarthu un bocs yr wythnos i ddosbarthu 91 ohonynt! Rydym yn defnyddio llawer o stoc, ac rydym ni’n bwriadu lansio bocs brecwast cyfandirol yn fuan hefyd.

Mae’r cynllun wedi rhoi bod yn fendith i Myrddin Heritage a’u cyd-gynhyrchwyr yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Mae’r cynhyrchwyr yn ddiolchgar tu hwnt am y gefnogaeth, rydym yn adnabod rhai ohonynt yn bersonol, ac maen nhw wedi colli tipyn o fusnes o ganlyniad i’r sefyllfa. Rydym ni wedi cadw at ein gwerthoedd o “gadw popeth yn lleol, ond gydag agwedd ychydig yn wahanol’.

Mae’r gwerthwyr wyau selsig o Gaerdydd, Holy Yolks hefyd yn helpu i gefnogi ysbytai, fel rhan o grŵp o bron i 30 o unig fasnachwyr a micro-fusnesau yn ardal Caerdydd a’r Fro.

Yn ogystal â darparu wyau selsig eu hunain i staff y GIG, mae perchennog Holy Yolks, Kev McGuckian hefyd yn helpu i drefnu i ddanfon prydau i ysbytai y tu allan i dde Cymru, gan gyflawni pum gwahanol ysbyty bob dydd Mawrth, i oddeutu 150 i 200 staff ym mhob ysbyty. 

Ychwanegodd Kev bod aelodau’r cyhoedd wedi bod yn “anhygoel” wrth ddarparu rhoddion i helpu busnesau sy’n rhan o’r cynllun dalu am gost y cynhwysion. 

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bob busnes, ond dwi’n falch o weld bod y rhai hynny o fewn y sector bwyd a diod yng Nghymru sydd wedi gallu addasu fel y gallant barhau i wasanaethu cwsmeriaid, a chefnogi’r GIG. 

Dwi am ddiolch i bawb sy’n rhan o hyn am eu gwaith caled – mae wedi bod yn ymdrech fawr i nifer o ran logisteg, ac mae’n dda iawn gweld, yn ogystal â staff ar ffyrlo yn dychwelyd i wirfoddoli eu hamser fel y gallant, bod rhai cwmnïau wedi gallu cyflogi rhagor o staff. 

Mae busnesau ledled Cymru yn dangos dyfeisgarwch, y gallu i addasu ac ymrwymiad i gymunedau lleol, sy’n elfen amlwg o sector bwyd Cymru. 

Rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn opsiwn i nifer o fusnesau, ond mae’n beth da  gweld, mewn nifer o achosion, bod rhai heb orfod rhoi’r gorau i’w busnes yn gyfangwbl, ac y gall cynhyrchwyr o Gymru, bwytai a gwerthwyr barhau i wasanaethu eu cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn.  

Ychwanegodd y Gweinidog:

Hoffwn ofyn i aelodau’r cyhoedd barhau i gefnogi eu cynhyrchwyr bwyd, eu cyflenwyr, a’u gwerthwyr ble y gallant – bydd nifer ohonynt yn parhau i ddarparu gwasanaethau megis bocsys cynnyrch neu giniawau drwy eu danfon, a byddant yn croesawu cefnogaeth eu cymunedau yn ystod y cyfnod hwn.