Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cysylltiad arbennig rhwng amaethyddiaeth a thwristiaeth yng Nghymru yn cael ei ddathlu gan Lywodraeth Cymru mewn digwyddiad yn y Sioe Frenhinol yr wythnos hon.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y digwyddiad Twristiaeth ac Amaethyddiaeth yn Cydweithio ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas, i gydnabod y bartneriaeth gref a pharhaus rhwng ffermio a thwristiaeth ac i ddathlu swyddogaeth ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a rheolwyr tir wrth wneud Cymru yn wyliau ac yn gyrchfan ymwelwyr sydd mor groesawgar ac o safon mor uchel.  Mae’n bartneriaeth yr oedd y Gweinidog yn bendant fyddai angen ei chynnal a’i chryfhau os oedd y ddau ddiwydiant i barhau i lewyrchu. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: 

“Mae digwyddiad heddiw yn gyfle imi yn gyntaf ddiolch i’n ffermwyr, ein cynhyrchwyr bwyd a’n rheolwr tir am eu gwaith o wneud Cymru y gyrchfan y mae heddiw, ac ar yr un pryd gobeithio yn agor ychydig o ddrysau i ddatblygu ffyrdd o gydweithio a chyfleoedd yn y dyfodol. 

“Dewisodd dros 10 miliwn o bobl eto i dreulio eu gwyliau yng Nghymru y llynedd – dros dair gwaith poblogaeth Cymru. 

“Mae llawer yn dod i Gymru oherwydd y ‘croeso’ enwog, sy’n dibynnu ar ecosystem sydd angen cydbwysedd gofalus.  Mae unigolion, cymunedau a sefydliadau yn cydweithio’n effeithiol i gadw ein llwybrau yn hygyrch, ein traethau’n lân a’n dŵr yn glir.   Cyflenwyr, cynhyrchwyr a hyrwyddwyr yn cydnabod ac  yn hyrwyddo manteision cynnyrch lleol o safon uchel.  O edrych ar y sêr i fynd ar weiren wib, o gig oen o Gymru i gwrw lleol a phopeth rhyngddynt, safon y profiad sy’n gwneud i gynifer o bobl barhau i ddewis Cymru, ac mae’r diwydiant amaethyddiaeth yn ganolog i hynny. 

“Er bod Brexit heb amheuaeth yn dod ag ansicrwydd, heriau a newid, yn enwedig o fewn y sector amaethyddiaeth yng Nghymru, yr hyn sydd y tu hwnt i bob cwestiwn yw bod yn rhaid i’r cysylltiad hanfodol rhwng amaethyddiaeth a thwristiaeth barhau.” 

“Mae ein ffocws a’n huchelgais am ddiwydiant twristiaeth ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru yn canolbwyntio ar ansawdd – ansawdd y cynnyrch ac ansawdd y profiad. 

“Mae tystiolaeth gref ledled Cymru bod codi safon yn arwain at ragor o lwyddiant, ac mae Croeso Cymru eisoes wedi dangos ei barodrwydd i gefnogi prosiectau sy’n cyflawni disgwyliadau yr ymwelwyr mwyaf dethol.  Mae’n bwysig bod ein diwydiant yn edrych ar y farchnad hefyd a byddwn yn datblygu cynnyrch newydd ac yn darparu profiadau a llety sy’n bodloni gofynion defnyddwyr y dyfodol. 

“Mae’r cymorth hwn yn fwy na chymorth ariannol, mae hefyd yn ffordd gydweithredol o farchnata Cymru, fel trwy ein blynyddoedd â themâu, a dod o hyd i ffyrdd arloesol o gyrraedd cynulleidfa newydd, a sicrhau eu bod yn cael yr amser gorau posib yma.  Bydd Ffordd Cymru, er enghraifft, yn annog pobl i ddarganfod rhannau o’r Gymru wledig na fyddent wedi ei hystyried fel arall o bosibl. 

“Dyma un enghraifft o’r gwaith caled o sicrhau bod Cymru yn wlad sy’n edrych tuag allan cymaint â phosibl, sy’n rhyngwladol ac yn hyderus.  Drwy sicrhau bod ansawdd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud, rwy’n hyderus y byddwn yn y sefyllfa orau un i oresgyn heriau Brexit, gan helpu inni fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol.  Bydd partneriaeth barhaus a chryfach rhwng twristiaeth ac amaethyddiaeth yn allweddol i gyflawni hyn ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu hyn gyda’n gilydd.”