Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu £4.3 miliwn o gyllid i helpu i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru dros y 12 mis nesaf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan.
Cyhoeddodd y Gweinidog fod cyfanswm o 79 o sefydliadau wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Urdd Gobaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched y Wawr, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a'r Mentrau Iaith ymhlith y sefydliadau a fydd yn derbyn cyllid.
Sefydlwyd cronfa newydd i gefnogi gwyliau cymunedol ledled Cymru ac i barhau i ariannu 52 o bapurau bro ledled Cymru.
Roedd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno tystiolaeth ynghylch sut y byddant yn cyfrannu at amcanion Cymraeg 2050, sef strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Eluned Morgan:
“Mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi £4.3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau i hyrwyddo'r Gymraeg a chefnogi ffyniant yr iaith mewn cymunedau ledled y wlad.
“Mae'r cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i arloesi ac adeiladu ar sail arferion a phrosiectau llwyddiannus sy'n cynnig cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg o bob math i ddefnyddio, rhannu a mwynhau'r iaith dros y flwyddyn i ddod ac am flynyddoedd i ddod.”