Neidio i'r prif gynnwy

The advanced manufacturing centre currently under construction in Broughton will be officially known as AMRC Cymru, Minister for Economy and North Wales Ken Skates announced today (Wednesday, 19 June).

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gwaith adeiladu ar y ganolfan yn mynd rhagddo'n dda, a bydd yn rhoi lefel newydd o gymorth i fusnesau, ac yn hwyluso'r cydweithredu rhwng diwydiant, partneriaid academaidd ac entrepreneuriaid. Bydd yn gatalydd ar gyfer twf economaidd, gan ysgogi arloesi, masnacheiddio a datblygu sgiliau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn yn y ganolfan, fydd yn canolbwyntio ar y sectorau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys awyrofod, moduro, niwclear a bwyd, a chafwyd cadarnhad mai Airbus fydd y tenant mawr cyntaf.

Y bwriad yw ei gwblhau erbyn yr Hydref, a rhagwelir y bydd y budd i economi Cymru yn golygu cynnydd o £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros.

Cyhoeddodd Ken Skates hefyd y bydd David Jones OBE, Pennaeth presennol Coleg Cambria a Chadeirydd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, yn cadeirio'r Bwrdd Cynghori Lleol, fydd yn arolygu'r gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag AMRC Cymru, gan gynnwys cyngor ar brosiectau. Bydd Mr Jones yn cadeirio'r bwrdd am gyfnod cychwynnol o chwe mis, gan ganiatáu amser i benodi cadeirydd parhaol.

Dywedodd y Gweinidog:

"Gan bod y gwaith adeiladu ar y ganolfan ym Mrychdyn yn datblygu'n dda ac yn cadw at yr amserlen, dwi'n falch o gyhoeddi y bydd yn cael ei adnabod yn swyddogol bellach fel AMRC Cymru.

"Dwi hefyd yn ddiolchgar iawn i David Jones sydd wedi cytuno i gadeirio y Bwrdd Cynghori Lleol ac i gynnig arweiniad yn ystod y chwe mis cyntaf. Mae hon yn swydd bwysig wrth reoli'r ganolfan, gan roi cyngor ar brosiectau a sicrhau eu bod yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau ein Cynllun Gweithredu Economaidd.

"Fel y dywedais yn y gorffennol, mae AMRC Cymru yn enwid y sefyllfa economaidd yn gyfangwbl.  Bydd yn sicrhau sylfaen ffyniannus ar gyfer diwydiant, fydd yn gatalydd ar gyfer twf economaidd ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynyddu cynhyrchiant a sicrhau bod diwydiant Cymru yn fwy cystadleuol gartref a ledled y byd.

"Wrth inni baratoi i ymadael â'r UE, mae datblygiadau fel AMRC Cymru yn bwysicach nag erioed.

"Dwi'n falch o weld y cynnydd da sydd wedi'i wneud hyd yma, ac yn edrych ymlaen at gwblhau'r ganolfan yn ddiweddarach eleni.

Meddai yr Athro Keith Ridgway, Deon Gweithredol Prifysgol AMRC Sheffield:

"Mae'n wych gweld datblygiad canolfan Ymchwil a Datblygu AMRC Cymru ym Mrychdyn. Rydyn ni'n rhannu uchelgais ddewr Llywodraeth Cymru i wella enw da Gogledd Cymru o ran rhagoriaeth ym maes gweithgynhyrchu, gan greu swyddi a chyfoeth diogel, gwerth uchel i Gymru gyfan drwy ddenu buddsoddiad mewnol.

"Ein bwriad yw ysgogi arloesi o safon ryngwladol ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru. Byddwn yn canolbwyntio ar ehangu mynediad i bawb i'n arbenigedd ymchwil a'n gallu yn y maes moduro, digideiddio, dylunio gweithgynhyrchu a dilysu cynnyrch a phrosesau i helpu diwydiant yng Nghymru i ddatblygu galluoedd newydd.

"Mae Airbus yn bartner hirdymor i AMRC mewn sector pwysig o fewn economi Cymru. Drwy adeiladu ar y berthynas ymchwil sydd gennym gyda hwy, byddwn yn sicrhau bod yn cwmni yn parhau yn flaenllaw ym maes datblygu awyrofod, gan gefnogi sgiliau yn y maes a gwella sgiliau eu partneriaid o fewn y gadwyn gyflenwi weithgynhyrchu.

"Byddwn hefyd yn gweithio'n agos â phrifysgolion eraill yng Nghymru i gael cymaint o effaith â phosibl, a manteisio ar eu harbenigedd ymchwil i ddatblygu prosiectau newydd sy'n dangos sut y gall partneriaethau â'r diwydiant a llywodraeth sbarduno y gwelliannau mawr mewn llesiant economaidd a chymdeithasol.

Meddai David Jones:

"Cafodd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy ei llunio yn 2011, ac roeddwn yn falch iawn o Gadeirio'r Bwrdd gydag uwch-ddiwydianwyr y rhanbarth a thu hwnt.  Mae ffurfio AMRC Cymru, fel rhan o gyfres o argymhellion Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy i Lywodraeth Cymru, yn foment hollbwysig yng Nghymru.  Dwi'n edrych ymlaen yn arw at arwain cyfnod cychwynnol y Bwrdd Cynghori Lleol, gan weithio gydag aelodau eraill a rhanddeiliaid y Bwrdd, i fodloni anghenion y sector gweithgynhyrchu uwch.