Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr adolygiad yn ystyried a oes modd gwneud mwy i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, gan sicrhau cymaint o adnoddau â phosibl. Caiff ei gadeirio gan Lynn Pamment, Uwch-Bartner Swyddfa Caerdydd ac Arweinydd y Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus o fewn PwC.  Mae gan Lynn flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu cyngor ariannol i gyrff yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, gan gynnwys gweithio gyda chymdeithasau tai ac eraill yn y sector tai fforddiadwy. 

Bydd yr adolygiad yn: 

  • ystyried i ba raddau y gellir cynyddu arian cyfatebol er mwyn codi mwy o gartrefi fforddiadwy, er mwyn sicrhau bod cymaint o dai cymdeithasol â phosibl yn cael eu creu drwy gyfraniad Llywodraeth Cymru
  • adolygu'r trefniadau sy'n rheoli'r gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai
  • ystyried goblygiadau mynd ati i greu cartrefi di-garbon erbyn 2020, gan gynnwys rôl gweithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern
  • adolygu'r safonau sy'n rheoli tai fforddiadwy ac ystyried a oes angen eu diweddaru
  • gwneud argymhellion ynghylch polisi rhenti cynaliadwy a fydd yn caniatáu fforddiadwyedd hirdymor i denantiaid ac yn caniatáu hyfywedd datblygiadau tai presennol a newydd.

Bydd angen llunio adroddiad o'r adolygiad a chyflwyno argymhellion i'r Gweinidog erbyn diwedd Ebrill 2019.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad clir i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac mae'r datblygiad hwn ym Mhontardawe yn dangos sut rydyn ni'n gweithredu ar sail hynny.

"Dw i eisiau i'r adolygiad hwn sicrhau ein bod ni'n cael y gwerth gorau am arian yn ein buddsoddiadau a'n polisi, gan gynnwys sut rydyn ni'n cynllunio ar gyfer dyfodol di-garbon a'r ffordd y mae'r sector yn gweithio.

"Rydyn ni'n gwybod bod yna lawer mwy o bobl yng Nghymru sydd eisiau byw mewn tai fforddiadwy. 

Mae'r sector yng Nghymru wedi galw arnon ni i edrych ar ein polisi, ac rydyn ni eisiau gweithio'n agos gyda'n holl randdeiliaid sy'n rhan o'r broses o gyflenwi tai, er mwyn sicrhau ein bod ni'n adeiladu cymaint o gartrefi â phosibl.

"Mae gan Lynn Pamment brofiad helaeth o weithio gyda'r sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyllido prosiectau, a dw i'n edrych ymlaen at ddarllen canlyniadau ei hadolygiad y flwyddyn nesaf."

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:

"Fe fyddai cymdeithasau tai yng Nghymru yn hoffi codi o leiaf 75,000 o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru dros yr ugain mlynedd nesaf - gan ddyblu'r gyfradd bresennol. Ym mis Tachwedd 2017, fe wnaethon ni lansio 'Gorwelion Tai', sef gweledigaeth ein sector i wneud lle da i fyw yn hawl sylfaenol i bawb. Allwn ni ddim cyflawni'r uchelgais pellgyrhaeddol yma heb wneud dadansoddiad llawn o bolisi tai Cymru a sut mae'n cael ei roi ar waith. Rydyn ni wrth ein bodd, felly, fod y Gweinidog wedi cefnogi ein galwad am adolygiad. 

"Drwy'r adolygiad, fe allwn ni gytuno ynghylch yr amgylchedd polisi mwyaf effeithiol er mwyn cyflawni ein huchelgais i ddarparu cartrefi fforddiadwy a chreu sylfaen gadarn ar gyfer anghenion heddiw ac ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Os cawn ni'r adolygiad yma yn iawn, fe fydd yn gam mawr ymlaen tuag at ddatrys yr argyfwng tai."

Dywedodd Matt Dicks, Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru: 

"Rydyn ni'n croesawu cyhoeddiad heddiw ynghylch adolygu'r polisi tai yng Nghymru. Bydd yn ystyried pa fath o gartrefi sydd eu hangen arnon ni yn y dyfodol a sut y gallwn ni gynnal buddsoddiad tymor hirach, gan gadw ein tai yn fforddiadwy ar yr un pryd. Dros gyfnod blwyddyn yr adolygiad, rydyn ni'n edrych ymlaen at ymgynghori'n llawn, gan ail-fyw profiadau gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r sector tai yng Nghymru i sicrhau dealltwriaeth amserol ac arbenigedd go iawn."

Mae Rebecca Evans wedi lansio’r adolygiad drwy ymweld â datblygiad Cymdeithas Dai Linc Cymru ym Mhontardawe. Dywedodd Scott Sanders, Prif Swyddog Gweithredol Linc:
“Mae’r adolygiad annibynnol ynghylch y Polisi Tai yn dod ar yr amser iawn i’r sector tai. Mae gwir uchelgais o fewn y sector am adolygiad o’r fath a byddem yn croesawu polisi sy’n cefnogi hyn a hefyd yn galluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a phartneriaid i ddarparu rhagor o gartrefi a gwasanaethau er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Bydd y sector yn awyddus i gefnogi’r adolygiad er mwyn sicrhau manteisio i’r eithaf ar y cyfle ac y bydd yn arwain at ddod o hyd i atebion cryfach ym maes tai.”