Mae denu talent rhyngwladol newydd i Gymru er mwyn ychwanegu at ein galluoedd  ymchwil a datblygu nodedig ym maes gwyddoniaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dyna oedd neges, Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wrth iddi groesawu’r tranche diweddaraf o Gymrodyr a Chadeiryddion ymchwil rhyngwladol i Gymru mewn derbyniad arbennig yng Nghaerdydd neithiwr i ddathlu buddsoddiadau Sêr Cymru ar ddechrau ail gyfnod y rhaglen.

Mae Sêr Cymru II am adeiladu ar lwyddiant rhaglen wreiddiol Sêr Cymru a arweiniodd at sefydlu pedair Cadair Prifysgol Sêr Cymru a thri rhwydwaith ymchwil yng Nghymru ym meysydd Gwyddoniaeth, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM).

Mae cyfnod diweddaraf y rhaglen yn ymwneud â buddsoddiad o dros £45m – gyda £29m o’r buddsoddiad hwnnw yn dod o ffrwd gyllido Ewropeaidd – a bydd yn cyllido mwy o Sêr y Dyfodol’ a chymrodoriaethau ymchwil ac yn cynnig help arbennig i’r rheini sy’n dychwelyd i weithio ar ôl bwlch yn eu gyrfa.

Yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, mae rhaglen Sêr Cymru yn derbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd  (COFUND drwy Horizon 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru), Sector Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). 

Mae’r cyllid a drefnir drwy nodau’r rhaglen wedi ei anelu at ddenu a datblygu peth o dalent gorau’r byd ym maes ymchwil gwyddonol yng Nghymru, i gyflenwi twf economaidd a swyddi o ansawdd uchel.

Hyd yn hyn, mae bron £100m wedi ei fuddsoddi yn y rhaglen ers iddi gael ei lansio yn 2013.

Wrth groesawu’r tranche diweddaraf o dalent yn Sêr Cymru II , dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: 

“Mae cynyddu ein galluoedd ymchwil sydd eisoes yn anhygoel, drwy ddenu talent newydd, gwych i Gymru yn mynd i fod yn help i’n ffyniant economaidd ni gan greu swyddi cyffrous sy’n talu’n dda.  

“Mae Sêr Cymru yn bartneriaeth yng ngwir ystyr y gair, sy’n dod â Llywodraeth Cymru ac adnoddau Ewropeaidd ac academaidd ynghyd i gyflawni rhaglen sy’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn ymchwilio sydd wedi eu hanelu at fynd i’r afael â phroblemau real fel afiechyd dynol, ffynonellau newydd o egni  a thechnolegau arloesol ym maes gweithgynhyrchu a deunyddiau. 

“Mae cynyddu ein galluedd ymchwilio yn gwneud Cymru yn fwy o atyniad o ran buddsoddiadau pellach ac yn helpu i godi ein proffil ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai y bydd ein hymchwil a’n darganfyddiadau yn cael eu masnacheiddio, gan greu mwy o swyddi o ansawdd yng Nghymru. Mae’n fwriad gennym i ddatblygu’r rhain a’u cadw yma.”

Ychwanegodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Yr Athro Julie Williams: 

“Bydd y rhaglen hon yn creu newid sylweddol mewn galluedd ymchwil ac yn rhoi Cymru ar y map fel canolfan ar gyfer darganfyddiadau gwyddonol. Arweinwyr y dyfodol fydd y bobl ifanc yma.”

Dr. Catrin Williams yw un o’r rhai diweddaraf a dderbyniwyd gan raglen Sêr Cymru II, ac mae eisoes yn cael budd o’r profiad; mae’n ymchwilydd amlddisgyblaethol sydd yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd. Mae ei Chymrodoriaeth yn ymwneud ag ystod y pynciau STEMM. Sut y mae meysydd electromagnetig  yn rhyngweithio â systemau biolegol, dyna yw un o brif feysydd ymchwil Catrin.

Esboniodd Catrin yn union beth oedd hyn, gan ddweud pam ei bod yn awyddus i fod yn rhan o Sêr Cymru II. Dywedodd: 

“Yn syml, mae’r maes dwi’n gweithio ynddo, sef edrych ar sut y mae meysydd electromagnetig  yn rhyngweithio â systemau biolegol, yn golygu edrych ar yr effaith a gaiff microdonnau (o ddyfeisiadau cyffredin fel ffonau symudol, Wi-Fi a’r microdon i gyfarpar mwy soffistigedig fel y rhai a ddefnyddir mewn ysbytai i drin canserau a chlefydau’r galon) ar bethau byw.

“Mae rhai o effeithiau cyfredol y dyfeisiadau hyn yn eithaf amlwg, er enghraifft, gwell ansawdd wrth gyfathrebu, coginio’n gynt a thriniaethau meddygol sy’n fwy effeithiol. Yr hyn sy’n llai amlwg yw’r effeithiau cudd neu’r effeithiau hir dymor y caiff y microdonnau arnom ni, yn achosi newid molecwlar yn ein gwead cellog.”

Parhaodd Dr. Williams: 

“Gallai’r newidiadau hyn fod yn rhai cadarnhaol neu’n rhai negyddol a all arwain at ganlyniadau dinistriol neu ganlyniadau therapiwtig. Gall newidiadau dinistriol arwain at ganlyniadau cadarnhaol, er enghraifft, cael gwell dealltwriaeth o’r peryglon sy’n gysylltiedig â microdonnau a sut y gellir osgoi neu leihau’r peryglon hyn. Mae modd i ni, hefyd, edrych ar sut y gall canlyniad dinistriol posibl gael ei ddefnyddio er lles, wrth ddatblygu technolegau a thriniaethau newydd er enghraifft, sy’n arwain at gael gwared â chanserau neu rai clefydau ar y galon mewn ffordd effeithiol neu eu hosgoi’n gyfan gwbl.

“Ar hyn o bryd nid oes gennym syniad pa gyfleoedd na pha heriau a ddaw yn sgil microdonnau, dyna pam fod ymchwil yn y maes hwn yn gyffrous ac yn bwysig.”