Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans wedi ymweld â prosiect arloesol yng Nghaerdydd sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig fwynhau amrywiaeth o chwaraeon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Doorstep, sef un o brosiectau Street Games yn Nhreganna, yn gweithio gyda phobl ifanc sydd fwyaf anodd eu cyrraedd, ac sy’n byw yn ardaloedd Treganna a Glan yr Afon yng Nghaerdydd. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc leol gael hwyl a mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol rheolaidd. Nod y gweithgareddau yw gwella eu hiechyd a’u llesiant, yn ogystal â rhoi hwb i’w cymhelliant a’u hyder.

Elusen yw StreetGames sy’n gweithio i leihau anghydraddoldebau ac i herio tlodi drwy chwaraeon. Mae Clybiau Chwaraeon Doorstep yn glybiau anffurfiol sy’n cynnig hwyl a sbri, ac sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc sydd dan anfantais gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymdogaeth leol. 

Cafodd prosiectau Street Games gyllid grant craidd gwerth £125,000 gan Chwaraeon Cymru yn 2016-17.  

Gwelodd y Gweinidog drosti ei hun yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael, pan gwrddodd â Grŵp StreetStyle StreetGames -  sef grŵp o bobl ifanc o wahanol brosiectau StreetGames yng Nghymru sy’n cwrdd bob mis i ddylanwadu ar gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Roeddwn i’n falch o gael y cyfle i weld drosof i fy hun faint mae’r prosiect hwn yn ei olygu i’r bobl ifanc, a hefyd yr amrywiaeth o chwaraeon y mae’r prosiect yn ei chynnig mewn amgylchedd croesawgar a saff.

“Roedd yn dda cwrdd â Grŵp StreetStyle StreetGames, sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a thrafod y mathau o rwystrau y maen nhw’n eu hwynebu. Gwnaeth ymroddiad y gwirfoddolwyr ifanc, sy’n rhoi o’u hamser i wella bywydau pobl ifanc eraill, gryn argraff arna’i.”

Mae’n hollbwysig bod plant a phobl ifanc yn cael profiad positif o weithgarwch corfforol yn gynnar yn eu bywydau, gan fod hynny’n allweddol i sicrhau bod chwaraeon ac ymarfer corff yn dod yn rhan o’u bywyd bob dydd. Mae hyn yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a Street Games”


Dywedodd Paul Roberts, Pennaeth Rhaglenni StreetGames yng Nghymru:

“Mae gwaith y staff a’r gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Gymunedol Treganna yn destun balchder inni. Maen nhw’n darparu amrywiaeth wych o weithgareddau ar gyfer y bobl ifanc, ac maen nhw’n gweithio i feithrin cysylltiadau â’r gymuned leol. 

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o gynnal sesiynau chwaraeon nad ydyn nhw’n draddodiadol, er mwyn creu cyfleoedd hanfodol i bobl mewn cymunedau lleol. Rydyn ni’n brwydro’n galed i sicrhau bod y math hwn o ddarpariaeth yn cael ei gydnabod ac yn cael y cymorth y mae ei angen arno."