Neidio i'r prif gynnwy

Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn rhoi i nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl a therapyddion yr offer digidol y mae arnynt eu hangen i gydweithio'n well.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn rhoi i nyrsys cymunedol, timau iechyd meddwl a therapyddion yr offer digidol y mae arnynt eu hangen i gydweithio'n well, gan ddarparu gofal o'r lefel uchaf posibl. 

Mae'n caniatáu mynediad i wybodaeth berthnasol am y gofal a ddarperir i ystod o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, i ddangos y sefyllfa ddiweddaraf o ran triniaeth claf. 

Pan fydd WCCIS wedi'i rhoi ar waith yn llawn ledled Cymru bydd yn helpu i chwalu'r ffiniau a achosir pan fydd gwahanol sefydliadau'n defnyddio gwahanol systemau TG, trwy storio'n ddiogel gwybodaeth bwysig sy'n ymwneud ag ystod o weithgareddau megis nyrsio cymunedol, ymweliadau iechyd a gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, anableddau dysgu, camddefnyddio sylweddau, anghenion gofal cymhleth a therapi gofal cymdeithasol.

Darparodd Llywodraeth Cymru £6.7m mewn arian cyfalaf ar gyfer y costau sefydlu cychwynnol i WCCIS ac mae wedi trefnu bod £4m bellach ar gael i gefnogi rhoi WCCIS ar waith trwy gyfrwng y Gronfa Gofal Integredig.

Gwelodd y Gweinidog y system ar waith wrth ymweld â Llandrindod.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

“Roeddwn i wrth fy modd yn cael gweld  System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar waith yma ym Mhowys. Powys yw’r ardal gyntaf i brofi'r system newydd yn fyw yn yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd, ac mae wir yn arloesi gyda'r system newydd gyffrous hon. 

“Mae'r system yn brawf o integreiddio go iawn rhwng ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n bwysig iawn inni wireddu'r manteision posibl sy'n cael eu cynnig gan y system newydd hon.  I ymarferwyr rheng flaen, mae'n caniatáu iddynt ddarparu gofal a chymorth mwy cyson a chydgysylltiedig i unigolion yn eu cymunedau eu hunain. Yn achos pobl sy'n cael y gofal hwnnw, mae'n sicrhau eu bod yn cael gofal o ansawdd uchel yn eu cartref eu hun neu mor agos ato â phosibl. ” 

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyfarwyddwr Strategol Interim Pobl yng Nghyngor Sir Powys:
"Rwy'n falch iawn o lwyddiant y tîm ym Mhowys wrth iddo roi System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar waith am y tro cyntaf yng Nghymru.
“Am y tro cyntaf mae modd i'r timau integredig yn ein gweithredwyr cam cyntaf gael mynediad i gofnodion sy'n cael eu rhannu ar draws Iechyd a Gofal. “I staff, bydd hyn yn cynnig un pwynt mynediad i wybodaeth i'w cefnogi i ddarparu iechyd a gofal cydgysylltiedig. Bydd yn lleihau dyblygu ac yn arbed amser y gellir ei fuddsoddi mewn gofal rheng flaen.“I ddefnyddwyr gwasanaethau ac i ofalwyr bydd hyn yn lleihau rhwystredigaeth, ac yn gwella cysondeb a dilyniant gofal.”