Cafodd y Clwb 'Me, Myself and I' yn Llansawel ei sefydlu fel ymateb i'r anghenion gofal a chymorth sy'n tyfu ymhlith pobl leol sy'n byw gyda dementia sy'n dechrau'n gynnar.
Cafodd y Clwb 'Me, Myself and I' yn Llansawel ei sefydlu fel ymateb i'r anghenion gofal a chymorth sy'n tyfu ymhlith pobl leol sy'n byw gyda dementia sy'n dechrau'n gynnar.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau'n cael eu cynnig i'r rheini sy'n ymweld â'r clwb, ac mae hyfforddiant yn cael ei roi i unigolion sy'n cefnogi ac yn gofalu am oedolion dibynnol a pherthnasoedd. Maen nhw hefyd yn rhoi hyfforddiant i'r rheini sy'n dymuno meithrin gyrfa yn y sector gofal.
Yn 2016, cafodd cyfraith newydd, sef y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ei chyflwyno yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo datblygiad sefydliadau preifat dielw, fel sefydliadau cydweithredol, i ddarparu gofal a chymorth a chymorth i ofalwyr, a gwasanaethau ataliol, gyda'r nod o ddatblygu dulliau newydd o dderbyn gofal a chymorth.
Mae'r Clwb “Me, Myself and I” wedi cael cymorth drwy brosiect Canolfan Cydweithredol Cymru, ‘Cydweithredu i Ofalu’, sy'n helpu pobl i sefydlu eu grwpiau neu sefydliadau cydweithredol eu hunain i gefnogi'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau gofal cymdeithasol a llesiant yn lleol. Mae'r prosiect yn cael ei ariannu drwy Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i’r Trydydd Sector, a bydd yn cael mwy na £600,000 dros dair blynedd.
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
“Roeddwn i wrth fy modd o gael ymweld â Chlwb “Me, Myself and I” yn Llansawel i weld â'm llygaid fy hunan y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yno i gefnogi'r rheini sy'n byw â dementia sy'n dechrau'n gynnar, a'r hyfforddiant a'r gefnogaeth hanfodol maen nhw'n ei ddarparu i bobl sy'n gofalu am yr unigolion hyn.
"Mae'r clwb yn enghraifft wych o sut y mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wir yn newid pethau er gwell yn ein cymunedau. Mae'n enghraifft ragorol o sut mae prosiectau cydweithredol yn agor dulliau newydd i bobl dderbyn gofal a chymorth yn eu cymunedau eu hunain. Mae hefyd yn rhoi llais a rheolaeth glir iawn iddyn nhw yn y ffordd y mae gofal a chymorth yn cael ei siapio a'i gyflenwi.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad sy'n deall dementia, ac sy'n sicrhau bod pobl â dementia yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau eu hunain.”