Heddiw mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cadarnhau tri phenodiad i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Mae’r Panel yn gyfrifol am bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol a roddir i aelodau etholedig cynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol, ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Dyma fanylion y tri phenodiad:
- Mae John Bader wedi’i benodi’n Gadeirydd y Panel. John yw Cadeirydd presennol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a daw ei dymor presennol yn y swydd i ben ar 31 Rhagfyr, ond bydd yn gwasanaethu fel Cadeirydd am dymor arall o ddwy flynedd gan ddechrau ar 1 Ionawr 2020.
- Mae Claire Sharp wedi’i phenodi’n Aelod o’r Panel am dymor o bedair blynedd, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2020.
- Mae Joe Stockley wedi’i benodi’n Aelod o’r Panel am dymor o bedair blynedd, gan ddechrau ar 1 Mehefin 2020.
Mae aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael eu talu yn ôl cyfradd o £337 y diwrnod (Cadeirydd) a £282 (Aelod), ar gyfer ymrwymiad amser o 12 diwrnod y flwyddyn fan leiaf.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
Mae’n bleser mawr cyhoeddi’r penodiadau hyn heddiw. Mae John wedi cytuno i barhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Panel, gan barhau i ddarparu arweinyddiaeth yn y maes gwaith pwysig hwn.
Rwy’n falch hefyd y bydd Claire a Joe yn ymuno â’r Panel. Rhyngddyn nhw mae ganddynt amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr a fydd o fantais i’r Panel.