Heddiw, mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi bod Sarah (Saz) Willey wedi'i hailbenodi'n Aelod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
A hithau wedi’i phenodi yn wreiddiol i'r Panel ym mis Mehefin 2016, bydd Sarah (Saz) Willey yn cael ei hailbenodi'n aelod o'r panel am bedair blynedd a thri mis o 1 Ionawr 2021.
Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau etholedig cynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Telir cyfradd ddyddiol o £282 i aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy'n adlewyrchu ymrwymiad amser gofynnol o 12 diwrnod y flwyddyn.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
Rwy’n falch o gyhoeddi'r ail-benodiad hwn heddiw a bod Saz wedi cytuno i barhau yn ei rôl ar y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
“Bydd yr arbenigedd a'r sgiliau y mae Saz wedi'u datblygu wrth ymgymryd â'r rôl hon o fudd i'r Panel wrth iddo barhau â'i waith.