Dylai fod hawl gan blentyn gynnal perthynas agos â'i ddau riant ar ôl i deulu wahanu, pan fo hynny'n ddiogel ac yn briodol er lles y plentyn ei hun.
Ar adegau bydd un rhiant yn ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi i'r plentyn ofidio, a bydd yn ymddangos bod y plentyn yn gwrthwynebu byw neu dreulio amser gyda'r rhiant arall. Mae hyn yn cael ei alw'n aml yn 'ddieithrio plentyn oddi wrth riant'.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cael eu gwahanu oddi wrth riant yn effeithio ar lawer o blant, ac ar eu teuluoedd. Pan fydd rhieni yn delio â hyn yn dda, bydd yn cael llai o effaith niweidiol ar y plentyn.
I fynd i'r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn dal i ganolbwyntio'n benodol ar rianta cadarnhaol ac mae darparu gwasanaethau cefnogi rhianta yn rhan annatod o raglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. Mae cyllid wedi cael ei ddarparu ar gyfer gwella sgiliau'r gweithlu cefnogi teuluoedd, er mwyn iddynt allu sicrhau bod cymorth ar gyfer y berthynas rhwng rhieni yn cael ei ymwreiddio yn eu gwasanaethau ymyrryd ar gyfer teuluoedd.
Yn hwyrach heddiw, bydd y Gweinidog yn ymddangos gerbron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru lle bydd yn ymateb i alwadau y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau penodol i leihau effaith dieithrio plentyn oddi wrth riant ar blant a'u teuluoedd.
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
“Mae Llywodraeth Cymru’n credu y dylai fod hawl gan blentyn, pan fo hynny'n ddiogel ac er lles y plentyn ei hun, gael perthynas agos gyda'i ddau riant pan fydd teulu’n ymwahanu. Ond rwy'n glir hefyd mai lles y plentyn ddylai fod yn ganolog yn ein meddyliau bob amser.
"Rydyn ni'n cydnabod y gall rhai rhieni ymddwyn mewn ffordd sy'n golygu bod eu plentyn yn ymddieithrio oddi wrth y rhiant arall, a bod yr ymddygiadau hyn yn gallu cael cryn effaith niweidiol ar les emosiynol y plentyn.
"Nid syndrom neu gategori o ymddygiad yw dieithrio plentyn oddi wrth riant yn ein barn ni, ond set o ymddygiadau sy'n achosi i blentyn â'i riant ymbellhau oddi wrth ei gilydd. Y mater pwysicaf inni yw bod ein rhaglenni cymorth rhianta a'r fframweithiau rheoleiddiol a chyfreithiol sy'n bodoli'n barod yn mynd i'r afael yn briodol â'r ymddygiadau hyn, pan fyddant yn codi."