Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, wedi rhoi sêl ei fendith ar enwebu pymtheg o orsafoedd ar draws Cymru ar gyfer gwelliannau o dan raglen Mynediad i Bawb Llywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaglen yw Mynediad i Bawb sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU ac sy'n cael ei defnyddio er mwyn creu llwybr dilyffethair, heb unrhyw rwystrau arno o fynedfa’r orsaf i'r platfform. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys darparu lifftiau neu rampiau, ynghyd â gwaith cysylltiedig i wneud gorsafoedd yn fwy hygyrch ar gyfer pobl sy'n teithio ar y rheilffyrdd.  

Cafodd y gorsafoedd, sy'n gwasanaethu'r Canolbarth a'r Gorllewin, y Gogledd a'r De-ddwyrain, eu hargymell gan grŵp diwydiant rheilffordd Cymru a'r Gororau. Mae'r cynlluniau hyn yn ychwanegol at bedwar yr ymrwymwyd iddynt yn y gorffennol ond a gafodd eu gohirio gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:  

“Mae gwneud gorsafoedd yn fwy hygyrch i deithwyr yn un o'm prif flaenoriaethau. Mae nifer annerbyniol o'n gorsafoedd yn rhai nad oes modd i rai teithwyr fynd i mewn iddyn nhw o gwbl, neu i rannau ohonyn nhw, ac mae hwn yn gyfle i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny yng Nghymru.

Er nad yw seilwaith rheilffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol amdano, mae'n contract ar gyfer gwasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau yn cynnwys buddsoddiad o £15 miliwn gan Trafnidiaeth Cymru i helpu i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd.

Rydyn ni wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddyrannu £10 miliwn o'r cyllid hwnnw i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer y gorsafoedd ar reilffordd Cymru a'r Gororau a enwebwyd ar gyfer cyllid dan raglen Mynediad i Bawb Llywodraeth y DU. Drwy gyfuno buddsoddiad fel hyn, rydyn ni wedi sicrhau y bydd teithwyr ledled Cymru ar eu hennill.”

Enwebwyd rhestr o bymtheg o orsafoedd am gyfran o'r £300 miliwn sydd ar gael o dan raglen yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer gwella gorsafoedd. Bydd y rhaglen honno ar gael o 2019 i 2024.

Os bydd y ceisiadau hynny'n llwyddiannus, bydd modd mynd i mewn i'r gorsafoedd o dan sylw heb ddefnyddio unrhyw risiau, a byddan nhw'n ychwanegu at yr 11 o orsafoedd sy'n elwa eisoes ar fuddsoddiad a gafwyd yn y gorffennol, gan gynnwys Radur, Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a Phrestatyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:

“Fy uchelgais yw gwella hygyrchedd ym mhob gorsaf, ar sail asesiad o'r angen, a sicrhau bod buddsoddiad mewn darparu mynediad heb risiau yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws pob un o ranbarthau Cymru."