Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi dyrannu £25 miliwn i'r Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bws yn 2019-20, gan bwysleisio'r ymrwymiad i wella rhwydweithiau trafnidiaeth ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y grant yma a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, a sefydlwyd yn 1989-99, yw ychwanegu at wariant awdurdodau lleol er mwyn cefnogi'r rhwydweithiau trafnidiaeth cymunedol a bws yn eu hardaloedd. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae nifer bach ond arwyddocaol o gynghorau wedi lleihau neu waredu'n llwyr o'u cyllidebau gyllid ar gyfer cefnogi gwasanaethau bws a thrafnidiaeth gymunedol. Golyga hyn i bob pwrpas fod dyraniadau grant gan Lywodraeth Cymru yn cymryd lle'r cyllid o gyllidebau'r awdurdodau lleol. 

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates: 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu ei gwariant ei hun er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r rhwydwaith bysiau, ac i deithwyr ar fysiau, ac yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

"Hoffwn annog yr awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn defnyddio'r grant cymorth ar gyfer gwasanaethau bws, a hynny'n ychwanegol at eu grant cymorth refeniw eu hunain, yn ofalus gan gymryd camau fel cynorthwyo pobl i gyrraedd apwyntiadau brys. 

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi hefyd y byddwn yn profi dulliau blaengar o gynnig gwasanaethau bws integredig ac ymatebol yn y Cymoedd. Bydd y cynllun peilot hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar gludo cleifion i apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys. Mae gennym hefyd gynlluniau i gynnal peilotiaid arloesol eraill yng Ngorllewin a Gogledd Cymru. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau peilot yma yn y dyfodol agos.

"Credaf y gallai gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, ac sy'n rhedeg ochr yn ochr â gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol, gynnig atebion newydd ar draws Cymru nad ydynt wedi bod ar gael o'r blaen. Bydd gofyn cyflwyno'r diwygiadau radical a amlinellir yn y Papur Gwyn er mwyn cyflawni hyn."

Mae'r  Papur Gwyn, sef Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus, yn amlinellu cynigion uchelgeisiol ar gyfer gwella'r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, a hefyd ar gyfer diwygio'r drefn drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.   
 
Mae cynigion yn y Papur Gwyn sy'n amlinellu amrywiaeth o opsiynau a fydd yn grymuso awdurdodau lleol i benderfynu ar y model mwyaf priodol ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau yn eu hardaloedd, ac ar gyfer mynd i'r afael â'r anghysonderau a'r heriau o ran trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. 

Ychwanegodd Ken Skates: 

“Gan ddefnyddio'r pwerau newydd a roddwyd inni gan Ddeddf Cymru 2017, gallwn ddatblygu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd a fydd yn ein helpu i wireddu'n huchelgais i ddenu rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac i annog teithwyr i’w ddefnyddio yn lle ceir preifat; gan leihau llygredd a thagfeydd.”  
 
Gall awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am bwerau gorfodi sifil ar gyfer parcio, lonydd bysiau neu symud tramgwyddau traffig ddefnyddio unrhyw arian sy'n weddill ar gyfer cefnogi mentrau trafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardaloedd.