Neidio i'r prif gynnwy

Bu Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, wrthi’n dosbarthu brecwast yn ystod y bore i bobl sy'n cysgu allan yn Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog wedi ymuno â thîm ymyrraeth y Wallich sy’n helpu i leihau achosion o gysgu allan. Elusen sy'n mynd i'r afael â digartrefedd yw'r Wallich, sydd wedi'i lleoli yn Ninas Fechan yng nghanol Abertawe.  

Mae'r Wallich yn derbyn dros £256,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal timau ymyrraeth sy'n gweithio i ddod o hyd bobl sy'n cysgu allan, cynnig cymorth iddynt, a'u rhoi nhw mewn cysylltiad â gwasanaethau sy'n gallu eu helpu i symud oddi ar y strydoedd. Mae'r timau'n gweithio yn y mannau hynny y mae pobl yn cysgu allan ynddynt yn aml ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe.  

Dywedodd Rebecca Evans: 

“Roedd hi'n bwysig iawn imi siarad â'r bobl sy'n derbyn y gwasanaethau hyn, a gwrando ar eu storïau. Roedd hi hefyd yn bwysig imi glywed gan y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau i helpu pobl i symud oddi ar y strydoedd. 

“I nifer o bobl sydd wedi dechrau cysgu allan, y pwynt cyswllt cyntaf yw'r tîm hwn. A gall y tîm eu helpu i gael cymorth a mynediad at y gwasanaethau hynny sy'n gallu eu helpu nhw. 

“Yn Abertawe, mae'r tîm yn gweithredu gwasanaeth galw heibio sy'n gallu rhoi cyngor, gwybodaeth, gwasanaethau iechyd a chymorth i hawlio budd-daliadau i bobl, yn ogystal â chyfle iddynt ddefnyddio ffôn a chyfrifiadur - pethau sy'n gallu gwneud byd o wahaniaeth.

“Rydyn ni'n rhoi £10m o gyllid ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd ym mhob un o'r ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Ar hyn o bryd rydyn ni'n cefnogi Dinas a Sir Abertawe, drwy weithio â'r Wallich, i gynyddu darpariaeth llety argyfwng yn lleol. 

“Mae ein Cynllun Gweithredu Cysgu Allan yn gynllun dwy flynedd a gafodd ei ddatblygu ar y cyd â sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl sy'n cysgu allan a phobl sydd mewn llety anaddas.  Rydyn ni'n gweithio ar y cyd fel sector i ddiwallu anghenion ymarferol, emosiynol, corfforol a seicolegol unigolion sy'n cysgu allan, ac yn eu cefnogi i ailintegreiddio i gymdeithas.

“Mae pobl yn cysgu ar y strydoedd am amrywiaeth o resymau cymhleth. Ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w helpu i ddod o hyd i gartrefi diogel a fforddiadwy, fel y gallan nhw gyflawni eu potensial llawn."

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, prif weithredwr y Wallich: 

“Mae galw cynyddol am wasanaethau digartrefedd, ac mae hynny wedi bod yn duedd cyson sy'n destun pryder dros y blynyddoedd diweddar. Yn 2017, roedd ein timau ymyrraeth sy'n ymwneud â phobl sy'n cysgu allan wedi cynyddu nifer y bobl yr ydyn ni'n rhoi cymorth iddyn nhw gan 55% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol - drwy weithio gyda 526 o bobl yn Abertawe yn unig. 

“Mae ein timau ymyrraeth wedi bod yn hanfodol o ran ennill ffydd pobl sy'n cysgu allan a'u helpu i symud i lety arall neu i brosiect dysgu a datblygu sy'n helpu pobl i dorri'r cylch o ddigartrefedd. 

“Mae yna bobl yng Nghymru sy'n ei chael hi'n anodd i symud oddi ar y strydoedd, ac mae yna eraill sy'n byw mewn llety anaddas; ond mae sefyllfa pob unigolyn yn wahanol. Mae gyda ni amrywiaeth o brosiectau arloesol, ond yn sicr mae angen gwneud mwy o waith i greu mwy o ddewis i'r bobl yr ydyn ni'n ceisio eu helpu. 

“Mae'n arwydd cadarnhaol bod y Gweinidog yn dangos diddordeb byw yn y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud a'r bobl yr ydyn ni'n eu helpu. Mae'n arwydd cadarnhaol bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy o gyllid i gefnogi pobl sy'n agored i niwed. Ac mae'n arwydd cadarnhaol ein bod ni'n gweld bod gan y cyhoedd fwy o gydymdeimlad â phobl sy'n profi digartrefedd. Mae hynny'n rhoi mwy o obaith inni, fel elusen, allu helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel, mwy sefydlog ac hapusach  am gyfnod hir."