Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, wedi ymweld â phrosiect ar Ynys Môn sy'n helpu pobl ddigartref i ddod o hyd i lety.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Tai yn Gyntaf yn fenter arloesol effeithiol, sy'n darparu llety i'r rheini sydd mewn angen ac yn cynnig cymorth wedyn iddynt allu aros yn y llety hwnnw. 

Cyfarfu Rebecca Evans â defnyddwyr y gwasanaeth a'r staff yn y Wallich yn Llangefni, a siarad â nhw am sut mae'r prosiect, sydd wedi bod yn rhedeg am bum mlynedd, yn gweithio. 

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae'n arbennig o drawiadol bod 78% o'r bobl a gafodd gymorth gan y prosiect wedi llwyddo i aros yn eu cartrefi, ac er bod y prosiect hwn ddim ond ar raddfa fach, mae'n helpu i wella bywydau pobl ac yn cael effaith fawr.

"Fis diwethaf, gofynnodd Prif Weinidog Cymru imi gadeirio grŵp Gweinidogol newydd i gefnogi ein gwaith i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, ac i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Fe fyddwn ni'n gwerthuso'n ofalus sut mae Tai yn Gyntaf yn cyfrannu at y gwaith hwn, gan gynnwys prosiect Ynys Môn.

"Dw i'n awyddus i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth y tîm yma sy'n gymaint o ysbrydoliaeth, a'r hyn y gallwn ni ei rannu â phrosiectau peilot eraill wrth inni gydweithio â chynghorau i rannu arferion gorau a datblygu gwaith Tai yn Gyntaf ledled Cymru."

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr y Wallich:

"Roedden ni wrth ein bodd yn croesawu'r Gweinidog i ymweld â'n tîm a defnyddwyr ein gwasanaeth ar Ynys Môn.

"Rydyn ni wedi dysgu llawer yn sgil arloesi gyda Tai yn Gyntaf ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael rhannu ein harferion gorau â'r grŵp Gweinidogol.

"Mae'r Wallich yn ymdrechu i lunio prosiectau dyfeisgar i helpu pobl sy'n agored i niwed, gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf orau sydd ar gael inni. Mae ein profiad gyda Tai yn Gyntaf wedi gosod y sylfeini ar gyfer dull gweithredu sy'n ymateb i sefyllfa a chefndir y bobl ddigartref yn ein holl brosiectau.

"Mae'n galondid gwirioneddol gweld ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau bod y gwaith hwn yn cyfrannu at bolisi'r Llywodraeth."