Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans wedi ymweld â phrosiect arloesol yn Wrecsam sy’n darparu amryw o wasanaethau i bobl ddigartref yn yr ardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Canolfan Gofal yn y Gymuned Wrecsam, sydd wedi ei lleoli yng Nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth, yn dwyn ynghyd nifer o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau tai a digartrefedd o dan yr un to.

Dywedodd Rebecca Evans

“Roedd yn galonogol i weld dull gweithredu’r tîm, sef ‘pawb yn yr ystafell’, gyda gwasanaethau mynediad agored yn diwallu amryw o anghenion yn yr un man. 

“Mae’r tîm yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion uniongyrchol pobl ddigartref, ac yn gwneud hynny mewn amgylchedd cyfeillgar sy’n meithrin ymddiriedaeth rhwng yr asiantaethau hynny a’r bobl sy’n derbyn y gwasanaethau. Mae darparu’r gwasanaethau hyn yn yr un lleoliad yn golygu y gall y gwasanaethau weithredu mewn ffordd fwy effeithlon a mwy costeffeithiol hefyd.”

Dywedodd Dr Karen Sankey, Arweinydd Clinigol y Ganolfan:

“Mae llwyddiant y model yn seiliedig ar y ffaith bod yr holl ddarparwyr gwasanaethau yn y ganolfan yn rhannu dyhead i wneud gwahaniaeth a helpu’r bobl hyn sy’n aml yn byw o dan amgylchiadau argyfyngus. Rydym yn darparu man diogel, anfygythiol a chyfeillgar lle gall unigolion gael y cymorth mwyaf priodol iddynt mewn modd amserol, yn ogystal â bod yn lle y caiff cydberthnasau cadarnhaol eu meithrin.”

Dyweodd Rebecca Evans:

“Rydym am weld rhagor o wasanaethau cydgysylltiedig yn cael eu darparu gan y gwasanaethau tai, iechyd, cyflogaeth a chymorth, gan ganolbwyntio ar anghenion pobl ddigartref a phobl sy’n cysgu allan er mwyn eu helpu i symud i lety addas. 

“Gall unrhyw un sy’n pryderu am unrhyw sy’n cysgu allan ddefnyddio’r ap Streetlink i hysbysu’r awdurdodau lleol a’r gwasanaethau allgymorth er mwyn i’r gwasanaethau hynny allu cynnig cymorth.”