Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru a’r economi ehangach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyna’r neges gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wrth iddi lansio polisi Prentisiaethau newydd Llywodraeth Cymru heddiw (7 Chwefror).

Mae Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru a’r economi ehangach ac fe’i cynlluniwyd i gynyddu lefelau sgiliau mewn meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys meysydd ble mae prinder wedi’i nodi.

Datblygwyd y polisi a’i gynllun gweithredu pum mlynedd mewn ymgynghoriad â busnesau, ac mae’n egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi cyflenwi’r ymrwymiad a wnaed yn ei maniffesto ac yn Symud Cymru Ymlaen i greu o leiaf 100,000 o brentisiaid uchel eu safon yng Nghymru dros dymor y Cynulliad hwn drwy ganolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:

  • Cynyddu’r nifer o brentisiaid 16-19 oed drwy gynyddu’r niferoedd sy’n dewis mynd i brentisiaethau ansawdd uchel wrth adael yr ysgol.
  • Mynd i’r afael â phrinder sgiliau drwy ddatblygu prentisiaethau yn benodol mewn sectorau twf a sectorau sy’n datblygu fel TGCh, Peirianneg, Adeiladu a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.
  • Datblygu sgiliau lefel uwch drwy ganolbwyntio ar brentisiaethau ar lefel 4 ac uwch lle mae’r canlyniadau’n tueddu i fod yn uwch.
  • Datblygu llwybrau sgiliau drwy integreiddio prentisiaethau i’r system addysg ehangach a’i gwneud yn haws i rywun fynd i brentisiaeth drwy lwybr dysgu arall.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James:

“Mae’r polisi hwn yn tanlinellu ein bwriad i baratoi ar gyfer swyddi’r dyfodol, fydd yn gofyn am lefelau llawer uwch o fedrusrwydd nag yn y gorffennol.

“Mae hefyd yn dwysáu’r ffocws ar y sgiliau technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i hwyluso cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel yn ein cymunedau. Bydd hyn yn anfon neges gref am werth prentisiaethau ac addysg dechnegol wrth gynorthwyo pobl i mewn i gyflogaeth a hunangyflogaeth gynaliadwy.”

Mae’r polisi a’r wybodaeth ategol hefyd yn egluro sut y caiff effaith yr Ardoll Brentisiaethau – treth ar gyflogaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a ddaw i rym ar 6 Ebrill 2017 – yn cael ei reoli yng Nghymru.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rydym ni wedi dweud ar hyd yr amser bod yr Ardoll hon yn gwrthdaro’n uniongyrchol â meysydd o gyfrifoldeb datganoledig, yn anwybyddu ac yn tanseilio’n llwyr ein hymagwedd arbennig at gefnogi prentisiaethau yng Nghymru, ac mae ei chyflwyno’n golygu na fydd unrhyw arian newydd sylweddol yn dod i Gymru.”

“I helpu i liniaru effaith yr ardoll yng Nghymru, bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu’n wahanol i’w chymheiriaid yn Lloegr a’r Alban, a hynny mewn ffordd sy’n cydweddu’n well ag anghenion cynyddol Cymru, ei phobl a’i heconomi, ac yn eu cefnogi.”

Mae cymorth i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid newydd eisoes ar gael yng Nghymru a bydd yn parhau i fod ar gael i gyflogwyr sy’n talu’r ardoll a’r rhai nad ydynt yn talu’r ardoll cyhyd â bod y cyllid yn cefnogi prentisiaid yn y meysydd blaenoriaeth a nodwyd.

Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn bydd Llywodraeth Cymru’n cynyddu ei buddsoddiad mewn prentisiaethau o £96m i £111m yn 2017-18. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm ein buddsoddiad mewn prentisiaethau a hyfforddeiaethau y flwyddyn nesaf dros £126m.

O’r cyllid ychwanegol, caiff £15.5m ei fuddsoddi eleni i sicrhau na fydd cyflogwyr sector cyhoeddus na’r sector preifat dan anfantais o ganlyniad i’r Ardoll Brentisiaethau.

Ychwanegodd Julie James:

“Mae gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol i gynnal swyddogaethau sy'n ymwneud ag addysg, gwasanaethau tân, rheoli gwastraff, gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd. Rydym ni’n ymrwymo i weithio gyda chyrff sector cyhoeddus i’w helpu i sicrhau gwell cysondeb a chwrdd â heriau’r dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi cynlluniau prentisiaethau penodol ar gyfer Awdurdodau Lleol, y GIG a'r gwasanaethau 'golau glas'.”

Caiff y cyhoeddiad hwn ei wneud yn ystod Wythnos Swyddi Llywodraeth Cymru.

Mae’r polisi: Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru, ei gynllun gweithredu pum mlynedd a gwybodaeth ategol ychwanegol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.