Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, roedd Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant Llywodraeth Cymru, yn y Drenewydd i ymweld â chanolfan newydd y dref i deuluoedd sy'n cynnig gwasanaethau integredig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2017, dyfarnodd Llywodraeth Cymru £257,000 i Gyngor Sir Powys i ddatblygu hen safle Ysgol Gynradd Dafydd Llwyd yn Park Street fel canolfan integredig newydd y dref i deuluoedd. 

Bu'n bosibl, felly, cydleoli hen ganolfan Ystad Ddiwydiannol Mochdre i deuluoedd, a oedd ar gyrion y dref, a chanolfan deuluoedd Skylark mewn un man canolog, nesaf at ysgolion Hafren a Ladywell, sy'n fwy hwylus i deuluoedd.

Bydd gan y ganolfan newydd rôl hollbwysig yn y gwaith o ddarparu Dechrau'n Deg, rhaglen arloesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar, yn y dref. Bydd yn cynnig grwpiau rhieni a phlant bach, dosbarthiadau tylino babanod, rhaglenni hyfforddi rhieni, a gwasanaethau gwybodaeth, cyngor iechyd, ymwelwyr iechyd, cymorth i deuluoedd a chwnsela. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Roedd yn bleser gwirioneddol cael ymweld â'r Drenewydd heddiw a gweld drosof fy hun sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu plant a theuluoedd y dref. 

"Mae'r £257,000 rydyn ni wedi'i fuddsoddi wedi caniatáu i Gyngor Sir Powys ddatblygu cyfleuster newydd, modern a fydd yn ei gwneud yn llawer haws i blant a'u teuluoedd fanteisio ar wasanaethau.

“Fel llywodraeth, rydyn ni'n benderfynol o roi'r cychwyn gorau posib mewn bywyd i'n plant. Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi i sicrhau bod rhaglen Dechrau'n Deg yn parhau i lwyddo, ac i sicrhau ei bod yn bodloni anghenion y teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi ledled Cymru, anghenion sy'n newid yn gyson. Mae'n parhau i wneud gwahaniaeth  gwirioneddol i fywydau plant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig.”