Mae'r cyllid yn rhan o £30 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau'r gwaith integredig.
Ym mis Mawrth 2017, roedd 5,954 o blant mewn gofal yng Nghymru, sy'n gynnydd o 5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Tuedd sydd wedi cynyddu ledled y DU.
Bydd y cyllid i ehangu gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar y cymorth y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei ddarparu i deuluoedd a phlant yn gynnar yn y broses, er mwyn iddynt gael y gefnogaeth i aros gyda'i gilydd a lleihau'r angen yn y pendraw i blant dderbyn gofal.
Mae'r cyllid yn rhan o £30 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau'r gwaith integredig a gyhoeddwyd yng Nghyllideb ddrafft 2019-20 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
Fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant, mae Gweinidogion yn mynd i weithredu mewn ffordd uchelgeisiol, trawslywodraethol ac ar draws y sectorau er mwyn helpu i wireddu eu blaenoriaethau a chyflawni eu hymrwymiad i wella bywydau plant mewn gofal."Fel rhan o'n rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, pennwyd ymrwymiad clir gennym i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill ac addasu’r ffordd y maent yn derbyn gofal, os oes angen. Mae ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, hefyd yn disgrifio'n blaenoriaethau o ran cefnogi plant a theuluoedd sydd ar ffiniau gofal a phobl ifanc sydd mewn gofal, yn enwedig wrth iddynt droi'n oedolion.
"Felly, rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn yn buddsoddi £15 miliwn i fwrw ymlaen â'n huchelgais, sef drwy ymyrryd yn gynnar gallwn leihau'r angen i blant dderbyn gofal a darparu cymorth therapiwtig i blant mewn gofal a phlant sydd wedi’u mabwysiadu. Rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a byrddau iechyd weithio mewn partneriaeth er mwyn defnyddio'r gronfa mewn ffordd hyblyg a chreadigol ar draws eu rhanbarthau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad a'u cydweithrediad hyd yn hyn.”
Mae'r rhaglen yn mynd i ganolbwyntio'n fwy ar fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n gallu arwain at roi plant yng ngofal yr awdurdod lleol. Llynedd, gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi £9miliwn er mwyn cefnogi plant sydd wedi cael profiad o ofal. Mae hyn wedi arwain at:
- Buddsoddiad gwerth £5miliwn mewn gwasanaethau ar ffiniau gofal Awdurdodau Lleol sydd wedi golygu bod awdurdodau lleol wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol drwy weithio gyda dros 2,000 o deuluoedd
- Rhoi cyllid i dros 1,900 o blant sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru drwy Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, sydd werth £1miliwn, er mwyn eu cefnogi wrth iddynt droi'n oedolion a chael mwy o annibyniaeth
- Sefydlu Gwasanaethau Reflect rhanbarthol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaethau hyn wedi cefnogi 150 o rieni ifanc y mae eu plant wedi'u rhoi yn y system ofal. Maent wedi helpu gyda materion megis atal cenhedlu, tai, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a sgiliau rhianta ymarferol
- Darparu £1miliwn i ehangu'r ddarpariaeth o Gynghorwyr Personol fel bod pob un hyd at 25 oed sy'n gadael gofal yn cael cynnig gwasanaeth Cynghorydd Personol, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau. O ganlyniad, cafodd 20 Cynghorydd Personol ychwanegol eu recriwtio ac mae dros 500 o bobl sydd wedi gadael gofal wedi manteisio ar y cynnig estynedig
- Mae'r rhai sy'n gadael gofal wedi cael cymorth i gael mynediad at gyfleoedd o ran addysg, gwaith neu hyfforddiant - mae 70 o bobl ifanc bellach yn cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith neu gynllun hyfforddi gydag awdurdod lleol.
“Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran gwella'r canlyniadau ar gyfer plant yng Nghymru. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru yn arwain at ganlyniadau go iawn a phendant sy'n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.”