Neidio i'r prif gynnwy

Mae Huw Irranca-Davies, wedi cyhoeddi fod ynghorau ledled Cymru wedi cael £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ehangu a gwella cyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc ar hyd a lled y wlad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar chwarae. O dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu cyfleoedd chwarae i blant a sicrhau bod digon ohonynt yn eu hardaloedd.

Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried anghenion amrywiol pob plentyn a pherson ifanc yn eu hardal, yn cynnwys y rheini sydd ag anableddau.

Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn mynd i brosiectau ledled Cymru, yn cynnwys:

  • Cyfleusterau ac offer newydd, fel y cynnig gan Gyngor Blaenau Gwent i ddatblygu parc sblash ym Mharc Brynbach yn Nhredegar;
  • Technoleg newydd, fel offer olrhain geogelcio, a fydd yn galluogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol a namau i gymryd rhan mewn helfeydd trysor a gemau eraill gyda chymorth eu teuluoedd, gofalwyr a staff cymorth;
  • Gwelliannau i fannau chwarae agored, yn cynnwys gwelliannau i barciau, coetiroedd i sicrhau’r defnydd gorau o fannau agored, yn cynnwys mynediad ar gyfer pobl anabl;
  • Mentrau a chynlluniau chwarae dan ofal y trydydd sector ar gyfer plant a phobl ifanc, yn cynnwys darpariaeth lle mae teuluoedd plant anabl yn gallu galw heibio unrhyw bryd a chynnig cymorth i’w gilydd tra bod eu plant yn chwarae;
  • Llyfrgelloedd chwarae sy’n galluogi plant ag anableddau i fenthyca teganau therapiwtig ac arbenigol;
  • Mynediad am ddim i ddarpariaeth hamdden ar gyfer plant a phobl ifanc anabl yn cynnwys sesiynau nofio am ddim;
  • Gweithdai celf i annog gwaith tîm a chynyddu cyfranogiad plant ag anawsterau dysgu, plant sipsiwn a theithwyr a phlant o gefndir lluoedd arfog.

Bydd cyllid hefyd ar gyfer hyfforddiant ar adnabod arwyddion awtistiaeth a hyfforddiant gweithgarwch arbenigol i alluogi gweithwyr chwarae i weithio gyda phlant a phobl ifanc anabl.

Yn ogystal, mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi cyllid o £ 30,000 ar gyfer Chwarae Cymru i ddatblygu a chyflwyno ymgyrch gymdeithasol sydd wedi'i anelu at rieni a chymunedau i helpu i greu awyrgylch o chaware yn eu cymunedau.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies:

“Rydw i eisiau i Gymru fod yn wlad lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd heriol a diddorol i chwarae a mwynhau eu hamser hamdden.

“Mae yna bryder cynyddol am iechyd meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc. Ar yr un pryd, mae tystiolaeth gynyddol fod chwarae’n gwneud cyfraniad sylweddol at ffitrwydd a llesiant plant ac yn gwella canfyddiadau llesiant ymysg plant a’u teuluoedd.

“Bydd y cyllid ychwanegol o £1.7 miliwn yn helpu awdurdodau lleol ledled Cymru i wella cyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru - gan ein helpu i gyrraedd y nod o greu gwlad sy’n rhoi blaenoriaeth i chwarae.”