Neidio i'r prif gynnwy

Bu’r Gweinidog Plant yn cwrdd â grŵp o blant yn Abertawe heddiw i gael eu barn ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu Huw Irranca-Davies yn ymweld ag Ysgol Pontybrenin yng Ngorseinon, Abertawe, i drafod y cynigion gyda’r disgyblion, y pennaeth ac aelodau eraill o staff yr ysgol sydd wrthi’n sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnwys yn y gwaith beunyddiol o redeg yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i greu llefydd diogel sy’n ysbrydoli plant i ddysgu, lle cânt eu parchu, eu hannog, a lle gallant ffynnu. Enillodd yr ysgol Wobr Aur yng Ngwobrau Parchu Hawliau 2015, gwobrau sy’n cydnabod ymdrechion i roi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth galon gwaith yr ysgol.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Braf oedd cwrdd â’r plant yn Abertawe heddiw i glywed eu barn am ein cynlluniau i ddod â chosbi plant yn gorfforol i ben drwy ddiddymu’r amddiffyniad cosb resymol.

“Fel Llywodraeth, rydym am i holl blant Cymru gael y dechrau gorau posibl i fywyd. Rydym am gefnogi rhieni i fagu plant hapus, iach a hyderus. Bydd diddymu’r amddiffyniad cosb resymol yn gweddu â’r newid yr ydym eisoes wedi’i weld o ran agweddau rhieni.

“Bydd gwahardd cosb gorfforol yn anfon neges gref fod ffyrdd amgen a mwy cadarnhaol o fagu plant – ffyrdd sy’n well i les ein plant. Roedd y plant a gwrddais yn Abertawe yn ategu’r neges hon.

“Dw i am annog gymaint o bobl â phosib i ddweud eu dweud am ein cynlluniau drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad.”

Mae’r ymgynghoriad ar gynnig deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar agor tan 2 Ebrill.