Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi amlinellu'r camau nesaf i gyflwyno system newydd o gymorth i ffermydd a fydd yn gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn elwa i’r eithaf ar bŵer amddiffynnol natur drwy ffermio a bydd yn allweddol i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu â thros 2,000 o ffermwyr a rhanddeiliaid yng ngham cyntaf y broses o gyd-gynllunio’r cynllun newydd a bydd y cam nesaf yn digwydd yn ystod haf 2022.
Mae'r Gweinidog wedi datgelu y bydd amlinelliad o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf a bydd hyn yn cynnwys y camau y gofynnir i ffermwyr eu cymryd. Bydd dadansoddiad o'r gost amcangyfrifol i'r busnes fferm a'r sector ehangach o'u cyflawni a'r manteision amgylcheddol dilynol hefyd yn cael ei gyhoeddi er mwyn galluogi ffermwyr i roi adborth gwybodus.
Cynhelir ymgynghoriad terfynol ar fanylion y cynllun, a'r broses o drosglwyddo i'r cynllun newydd, yng ngwanwyn 2023.
Bydd ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth ar y Cynllun terfynol yn digwydd y flwyddyn ganlynol.
Mae disgwyl i’r cynllun agor ym mis Ionawr 2025.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Fel y nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, mae mynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon.
Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ar 6 Gorffennaf. Cadarnhaodd y Rhaglen hon y byddwn yn cyflwyno Bil Amaethyddiaeth newydd ym mlwyddyn gyntaf y Senedd. Bydd hwn yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth a fydd yn diwygio degawdau o gymorth i ffermydd gan yr UE ac yn cynrychioli newid sylweddol i'r sector.
Mae papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn nodi ein cynigion i gefnogi ffermwyr fel y gallant fabwysiadu dull cynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau dyfodol hirdymor i ffermio sy'n cydnabod ei bwysigrwydd i gymdeithas yng Nghymru.
Mae'r sector ffermio wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn gwbl benderfynol o gefnogi ffermwyr i addasu i newidiadau yn y dyfodol.
Rwyf wedi nodi o’r dechrau’n deg y byddwn yn gweithio'n agos gyda ffermwyr i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed wrth i gefnogaeth yn y dyfodol gael ei chynllunio.
Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw adroddiad ar gam cyntaf y gwaith cyd-gynllunio ac ymrwymo i adeiladu ar y gwaith hwn mewn ail gam y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhan o broses barhaus i ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid a fydd yn ein harwain at ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'n cyfnod pontio i'r Cynllun newydd, yng ngwanwyn 2023.
Drwy gydol 2024 byddwn yn ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth. Bydd hyn yn sicrhau y byddwn yn barod i agor y cynllun ym mis Ionawr 2025.