Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn ymateb i ddata gweithgarwch a pherfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 19 Mawrth).

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Roedd mis Chwefror yn fis prysur arall i’n hadrannau brys a’n gwasanaeth ambiwlans. Roedd yn galonogol gweld gwelliant yn y targed amser aros o bedair awr mewn adrannau brys, ac unwaith eto, fe gyrhaeddwyd y targed ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Ar ôl un o’r gaeafau prysuraf ar gofnod, mae ein staff gweithgar ac ymroddgar yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol bellach yn wynebu’r her o orfod ymdopi ag achosion o coronafeirws.

Am y rheswm hwn, cyhoeddais yr wythnos diwethaf na fydd targedau’n cael eu monitro mewn modd mor llym, er mwyn lleihau rhywfaint o’r baich ar staff, cyn cyfnod sy’n debygol o fod yn eithriadol o brysur. Rwyf am i’n staff allu canolbwyntio ar ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, wrth i ni weithio i geisio atal y feirws rhag lledaenu. Hoffwn ddiolch hefyd iddyn nhw am eu gwaith ardderchog y gaeaf hwn, ac am eu hymroddiad wrth fynd i’r afael â’r heriau newydd sydd ar y gweill. Byddaf yn cyhoeddi mwy o fanylion am y data sydd i’w gyhoeddi maes o law.