Neidio i'r prif gynnwy

Mae fframwaith Ymyriad wedi'i Dargedu newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar ôl i’r mesurau arbennig gael eu codi fis Tachwedd y llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi nodi pedwar maes allweddol y mae angen eu gwella yn y bwrdd iechyd, sef:

  • Iechyd Meddwl (oedolion a phlant)
  • Strategaeth, cynllunio a pherfformiad
  • Arweinyddiaeth (gan gynnwys llywodraethu, trawsnewid a diwylliant)
  • Ymgysylltu (cleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid)

Mae'r meysydd hyn yn gydnaws â'r argymhellion a ddeillodd o waith gan gyrff proffesiynol ynghyd ag adborth cyffredinol am y bwrdd iechyd dros y 12 mis diwethaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd drwy gydol y broses Ymyriad wedi'i Dargedu gan sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ac y cytunir ar ymyriadau priodol lle bo angen. Bydd asesiad pellach yn cael ei gynnal ym mis Mai a bydd unrhyw newidiadau'n cael eu hychwanegu at y fframwaith.

Cefnogir y cynllun Ymyriad wedi'i Dargedu gan gyllid o £297 miliwn hyd at ddiwedd 2023/24 gan Lywodraeth Cymru, fel y cyhoeddwyd y llynedd. Defnyddir y buddsoddiad sylweddol hwn i wella gofal heb ei drefnu; i ddatblygu system gynaliadwy o ofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys orthopedeg; ac i sicrhau gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Wrth i'r bwrdd iechyd symud i statws o ymyriad wedi'i dargedu, mae’n hanfodol bod trawsnewid ac arloesi yn digwydd, a bod y sefydliad yn parhau i adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi’u gwneud eisoes.

Mae ymyriad wed’i dargedu yn dal i fod yn lefel uwchgyfeirio sy'n gofyn am weithredu sylweddol, ond rwy'n hyderus bod y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau datblygiad pellach. Hoffwn ddiolch i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi gwneud cynnydd, a chynnal y cynnydd hwnnw, er mwyn i’r mesurau arbennig allu dod i ben. Ac maent wedi gwneud hynny ochr yn ochr â mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws.