Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi amlinellu cynlluniau heddiw i sicrhau mai Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf lle bydd cyfraddau gordewdra yn gostwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra. Nod y cynllun yw darparu lleoliadau ac amgylcheddau iach i alluogi pobl o bob oed i wneud dewisiadau iach.

Yng Nghymru, mae dros 60% (1.5 miliwn) o'r boblogaeth sy'n oedolion yn ordrwm neu'n ordew, a bob blwyddyn mae'r ffigur hwn yn cynyddu cymaint â 10,000. Os bydd y duedd hon yn parhau, bydd nifer yr oedolion y rhagwelir y byddant yn dod yn ordrwm neu'n ordew yn cynyddu i 64% o boblogaeth y genedl - 160,000 yn rhagor o oedolion erbyn 2030. 

Mae tystiolaeth yn dangos mai cynnal pwysau iach yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r risg o gyflyrau iechyd hirdymor fel diabetes, clefyd y galon a chanser.

Mae atal gordewdra yn her gymhleth, gyda sawl ffactor yn cyfrannu at hyn ar lefel unigol, cymunedol, cymdeithasol a byd-eang. 

Mae ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ yn rhoi pwyslais cryf ar atal a bydd cynlluniau’n cael eu cyflwyno gan y llywodraeth. Mae'r cynllun wedi'i rannu'n bedair thema:

Amgylcheddau iach: Ceisio cefnogi pobl i fedru gwneud dewisiadau iach. Bydd hyn yn canolbwyntio ar newid y ffordd yr ydym yn siopa, y ffordd yr ydym yn bwyta allan, y ffordd yr ydym yn teithio, neu sut yr ydym yn defnyddio mannau awyr agored.

Lleoliadau iach: Datblygu amgylcheddau cefnogol i hyrwyddo dewisiadau iachach. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau gofal plant, ysgolion ac addysg bellach ac uwch, gweithleoedd a lleoliadau cymunedol. 

Pobl Iach: Rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfle i bobl drafod eu dewisiadau ffordd o fyw gyda gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Arweinyddiaeth a galluogi newid: Ysgogi gwell arweinyddiaeth ac atebolrwydd er mwyn cyflawni nodau ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ ar draws pob sector.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

Rhagwelir y bydd gordewdra yn pasio ysmygu fel her iechyd y cyhoedd fwyaf y genedl. Yn llawer rhy aml, mae pobl yn wynebu dewisiadau nad ydynt yn iach ac yn cael eu llethu â negeseuon sy'n hyrwyddo dewisiadau nad ydynt yn iach. Mae'n ddiwylliant sy'n dod i’r amlwg ar draws y byd Gorllewinol, nid yng Nghymru yn unig, ac mae angen inni gywiro hyn. Gall camau bach tuag at arferion iachach sicrhau newid mawr, a dyma sail y strategaeth hon. 

Mae angen i bawb chwarae eu rhan. Ni all y Llywodraeth, y GIG nac unrhyw sector unigol arall gyflawni'r gwaith atal ar ei ben ei hun. Byddaf yn sefydlu Bwrdd Gweithredu Cenedlaethol yn ddiweddarach eleni i fwrw ymlaen â’r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer 2020-22.

Fy uchelgais yw i Gymru fod yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i weld cyfraddau gordewdra'n gostwng. Bydd hyn yn cael gwaddol sylweddol a pharhaol i genedlaethau heddiw a'r dyfodol.

Dywedodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

Fel cenedl, rydym yn mynd yn llai egnïol. Mae ein bywydau prysur yn golygu ein bod yn blaenoriaethu cyfleustra dros fwyd iach. Mae 60% o'r boblogaeth sy'n oedolion yn ordrwm neu'n ordew, ac mae'n rhaid i ni wyrdroi'r ffigwr hwn. 

Os yw'r duedd hon yn parhau, bydd gan genedlaethau'r dyfodol oes fyrrach na'r cenedlaethau o'u blaenau. Rydym yn gwybod y gall fod yn heriol i newid arferion bywyd bob dydd, ond mae'n bosibl - rydym eisiau helpu pobl i dorri hen arferion a chreu arferion newydd.