Ar ben-blwydd y GIG, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at bob un o Brif Swyddogion Gweithredol, Prif Weithredwyr a staff y GIG, gan gynnwys y rheini sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion drwy gydol y pandemig.
Dywedodd Eluned Morgan:
Mae staff wedi gwneud gwaith anhygoel dros nifer o fisoedd, yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes y GIG. Hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonoch am yr arloesedd a’r agwedd broffesiynol a phenderfynol rydych wedi dangos.
Gwn eich bod wedi gweithio oriau hynod o hir a’ch bod chi a’ch teuluoedd wedi teimlo pwysau mawr dan yr amgylchiadau heriol hyn.
Rydych chi wedi bod gyda chleifion pan nad oedd modd i’w teulu fod yno. Rydych chi wedi cynnal rhaglen frechu y mae ein cenedl yn falch ohoni, ac rydw i am ddiolch i bob un ohonoch chi.
Wrth inni ganolbwyntio ar adfer, byddwn yn wynebu nifer o heriau eraill. Gwn nad yw’r ateb mor syml â gweithio’n hirach ac yn galetach, ac rwy’n sylwi y bydd angen amser a chefnogaeth arnoch i adfer.
Drwy weithio gyda’n gilydd, fe ddown o hyd i syniadau newydd a chreadigol o sut i fynd i’r afael â’r rhestr hir o bobl sy’n aros am driniaeth allai newid eu bywydau, a symud ein gwasanaethau ymlaen. Mae’r pandemig wei dangos ein bod yn gallu trawsnewid pethau pan fo angen, a gweithio’n gyflym ac yn effeithlon.
Tu ôl i bob ystadegyn ar restr aros, rhaid i ni gofio bod person, sydd yn aml iawn yn byw mewn poen. Rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r dioddefaint hwn a gwneud ein gorau i leihau’r amser y mae angen i bobl aros am driniaeth.
Rwy’n hynod o ymwybodol o’r cyfrifoldeb enfawr sydd ar f’ysgwyddau wrth inni wynebu’r cam diweddaraf yn y pandemig, a dechrau ailadeiladu ac adfer ein gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Rwy’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda chi dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf a, gyda’n gilydd, fe ddown ni drwy’r cyfnod mwyaf heriol yn ein hanes.