Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £220m o gyllid yn cael ei roi i Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y cyllid ei ddefnyddio i wneud rhagor o waith i ailwampio’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, sydd eisoes wedi elwa ar fuddsoddiad o £56m gan Lywodraeth Cymru i gwblhau camau blaenorol y rhaglen.

Bydd y cam hwn o’r prosiect yn ymwneud ag ailgynllunio ac adleoli adrannau er mwyn creu amgylchedd mwy effeithlon a modern.

Ymysg y gwasanaethau a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn mae:

  • Prif Theatrau
  • Gofal Critigol
  • Radioleg
  • Cleifion Allanol
  • Gwasanaethau Gên ac Wyneb
  • Endoscopi
  • Theatrau dydd
  • Niwroffisioleg
  • Patholeg
  • Adrannau Trallwyso Gwaed
  • Gwasanaethau Cardio-Anadlol (COPD)
  • Gwasanaethau Diabetes
  • Therapïau

Y bwriad yw dechrau ar y gwaith ym mis Tachwedd a’i gwblhau erbyn 2026, a bydd yr ysbyty’n parhau’n weithredol yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd y cynllun yn rhoi hwb sylweddol i’r economi leol. Bydd yn creu dros 80 o brentisiaethau, a bydd dros 60% o’r gweithlu a gyflogir yn dod o Gymru.  Hefyd bydd y buddsoddiad yn golygu y bydd 60% o werth y rhaglen adeiladu yn cael ei wario yng Nghymru.  

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn gwella’r gofal a roddir i gleifion a’r amgylchedd gweithio yn yr ysbyty. Mae’r ysbyty’n darparu gofal hanfodol yn ardal Cwm Taf Morgannwg a thu hwnt i hynny, yn enwedig i nifer o drigolion Powys.

“Yn ogystal â’r llu o fanteision iechyd a llesiant a ddaw o’r cyllid hwn, bydd y cyllid hefyd yn rhoi hwb economaidd i’r gymuned drwy gyflogi gweithwyr ac is-gontractwyr lleol.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cwm Taf Morgannwg Paul Mears:

"Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn yr arian hwn gan Lywodraeth Cymru.  Mae ailddatblygu Ysbyty'r Tywysog Siarl yn flaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd Iechyd o ran sicrhau y gallwn ddarparu gofal o ansawdd uchel i'r gymuned leol ac amgylchedd gwell i'n staff weithio ynddo."

Dywedodd Marcus Longley, cadeirydd Cwm Taf Morgannwg:

"Mae hyn yn newyddion ardderchog. Mae sawl blwyddyn o waith mawr i'w wneud o hyd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac mae'r buddsoddiad hwn yn rhoi hwb newydd i'r gwaith hwnnw. Pan fydd y gwaith wedi’i orffen, bydd gennym ysbyty a fydd yn wirioneddol addas am genedlaethau i ddod."