Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi amlinellu y gwelliannau mae’n disgwyl gweld ar gyfer symud Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Wrth roi diweddariad i Aelodau'r Cynulliad heddiw, dywedodd Mr Gething fod cynnydd wedi ei wneud yn y meysydd a arweiniodd at uwchgyfeirio bwrdd iechyd Gogledd Cymru i statws mesurau arbennig bedair blynedd yn ôl.

Dywedodd Mr Gething:

Mae gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig erbyn hyn.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi gwneud cynnydd o ran y disgwyliadau a nodir yn y fframwaith gwella mesurau arbennig a oedd i'w bodloni erbyn mis Ebrill 2019. Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau ym meysydd llywodraethu a phrosesau ansawdd, arweinyddiaeth y bwrdd, gwasanaethau iechyd meddwl, ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth a darparu gwasanaeth meddygon teulu yn ystod oriau gwaith cynaliadwy.

Ond dywedodd y Gweinidog fod angen gwneud cynnydd o hyd i aswirio pobol Gogledd Cymru bod gwelliannau cynaliadwy yn cael ei gwneud.

Dywedodd Mr Gething:

Mae angen gwneud gwelliannau o ran rheolaeth ariannol a lefelau perfformiad gofal iechyd meddwl a gofal wedi ei drefnu a heb ei drefnu. At y diben hwnnw, rwyf wedi amlinellu heddiw yr ardaloedd dwi’n disgwyl gweld y Bwrdd canolbwyntio arno. Byddwn yn parhau i cefnogi nhw i gwneud y gwelliannau angenrheidiol. Mae'r Bwrdd eisoes wedi dangos sut gallent gwella gwasanaethau, ac mae angen iddynt bellach ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd i drawsnewid y meysydd sy'n peri pryder, a gwneud gwelliannau iddynt.

Nid yw mesurau arbennig yn 'sefyllfa arferol'.  Rwy'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r disgwyliadau sydd angen er mwyn gallu ystyried gostwng y statws uwchgyfeirio.

Bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan y grŵp teirochrog (Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru) o dan drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru.