Neidio i'r prif gynnwy

Oherwydd y newidiadau hyn, bydd yn bosibl darparu gwasanaethau mwy cynaliadwy ac effeithlon i drigolion Bro Gŵyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid hwn yn golygu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn gallu ailwampio ac ailddatblygu canolfannau iechyd Penclawdd a Murton, er mwyn creu cyfleusterau modern sy'n addas ar gyfer eu diben. 

O ganlyniad i'r buddsoddiad ym Mhenclawdd, bydd amrywiaeth eang o wasanaethau sylfaenol a chymunedol yn cael eu cynnig o saith ystafell clinigol cwbl fodern sy'n cyflawni amryw o swyddogaethau.

Ym Murton, bydd y gwaith ailwampio yn cynnwys gwaith allanol a mewnol sylweddol, a chaiff pedair ystafell ymgynghori/rhoi triniaeth eu hadnewyddu i gydymffurfio â'r safonau presennol. 

Oherwydd y newidiadau hyn, bydd yn bosibl darparu gwasanaethau mwy cynaliadwy ac effeithlon i drigolion Bro Gŵyr. Bydd Canolfan Penclawdd hefyd yn gallu ymdopi â rhagor o bobl os bydd rhagor yn symud i'r ardal - mae Cynllun Datblygu Lleol Abertawe yn amlinellu cynlluniau ar gyfer hyd at 5,000 o gartrefi ychwanegol yn ardal Tregŵyr.    

Disgwylir i'r gwaith ailwampio gael ei gwblhau erbyn yr haf 2019.

Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau gofal ac iechyd integredig ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad cadarn i fuddsoddi yn ein GIG, i sicrhau ei fod yn gallu cynnig y gofal gorau posibl i bobl yn Abertawe a Bro Gŵyr, yn ogystal â gweddill Cymru.

“Bydd y cyllid dw i'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i drawsnewid y canolfannau iechyd ym Mhenclawdd a Murton a'u gwneud yn gyfleusterau gofal iechyd cwbl fodern. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a hynny drwy ddarparu gofal yn agosach at gartrefi pobl.”

Dywedodd yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:

“Dw i wrth fy modd gyda'r buddsoddiad hwn yn ein gwasanaethau ym Mro Gŵyr.

“Bydd yn sicrhau y gallwn ni ddarparu cyfleusterau modern a fydd yn gwella'r amgylchedd i gleifion a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.

“Bydd y buddsoddiad yn cael croeso mawr gan ein cymuned leol.”