Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi croesawu cynlluniau i gyflwyno system o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn Lloegr.
Heddiw, yn Nhŷ'r Arglwyddi, mae disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei basio i gyflwyno system optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau yn Lloegr, yn dilyn arweiniad Cymru a gyflwynodd gyfraith debyg yn 2015.
Dywedodd Mr Gething:
“Dw i wrth fy modd bod Lloegr yn dilyn ein harweiniad, drwy gyflwyno ei system optio allan ei hun ar gyfer rhoi organau.
“Mae manteision system o'r fath yn amlwg. Ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gymryd y cam beiddgar hwn, a thair blynedd i lawr y ffordd o'r penderfyniad pwysig hwnnw, cyfraddau cydsyniad i roi organau yng Nghymru bellach yw’r uchaf yn y Deyrnas Unedig, sef 75%."
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Dw i'n credu'n gryf ein bod wedi gwneud y penderfyniad iawn drwy gyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Mae'r system newydd wedi arwain at newid diwylliannol yma yng Nghymru, gyda mwy o deuluoedd yn holi ynghylch rhoi organau ac yn dod yn fwy ymwybodol o benderfyniadau ei gilydd. Po fwyaf o organau sy'n dod ar gael i bobl ar y rhestrau aros am drawsblaniad, gorau yn y byd ydy'r siawns o achub bywyd rhywun, neu ei alluogi i fyw'n hirach.
Yma yng Nghymru, mae'r system newydd wedi bod yn llwyddiant, diolch i gefnogaeth pobl Cymru a'n gweithwyr iechyd proffesiynol. Hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu cefnogaeth dros y tair blynedd ddiwethaf, a diolch hefyd i'r rheini sydd wedi rhoi eu horganau, sef y rhodd amhrisiadwy hwnnw a all achub bywyd rhywun arall.”