Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi agor Theatr Hybryd newydd o'r radd flaenaf a ward fasgwlaidd bwrpasol yn Ysbyty Glan Clwyd, yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r theatr newydd yn rhan o nifer o newidiadau sy'n cael eu gwneud i wasanaethau fasgwlaidd yn y Gogledd.  Bydd y ganolfan newydd yn Ysbyty Glan Clwyd ymhlith y gorau yn y DU, gydag arbenigeddau a chyfleusterau ar gael bob awr o'r dydd i drin achosion rhydwelïol cymhleth.  

Mae'r theatr wedi derbyn dros £2.260m o arian gan Lywodraeth Cymru a chyfraniad o £500,000 gan elusen Livsey Trust.

Bydd y theatr newydd yn galluogi Radiolegwyr Ymyriadol a Llawfeddygon Fasgwlaidd i gynnal llawdriniaethau agored, traddodiadol a thriniaethau endofasgwlaidd gyda chyn lleied o ymyrraeth â phosibl ar yr un cleifion, ar yr un pryd, yn yr un lle. 

Bydd rota achosion fasgwlaidd brys meddygon ymgynghorol yn cael ei redeg o Ysbyty Glan Clwyd, wrth i'r theatr hybryd ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i ddarparu gofal fasgwlaidd brys. 

Ynghyd â'r theatr newydd, mae nifer o fanteision eraill i ad-drefnu'r gwasanaeth fasgwlaidd yn y Gogledd, gan gynnwys -

  • 6 llawfeddyg ymgynghorol fasgwlaidd ychwanegol 
  • Radiolegydd ymyriadol ymgynghorol ychwanegol  
  • 4 meddyg fasgwlaidd iau 
  • nyrsys fasgwlaidd arbenigol ychwanegol 
  • ward 18 gwely ychwanegol sy'n benodol ar gyfer cleifion fasgwlaidd 
  • gwyddonydd delweddu fasgwlaidd ychwanegol 
  • gwely Gofal Dwys ychwanegol i sicrhau mwy o gapasiti
  • ystafelloedd Radioleg ymyriadol newydd yn Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd
  • bydd y theatr newydd hefyd yn cefnogi ac yn darparu hyfforddiant llawfeddygol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae'r theatr a'r gwasanaethau fasgwlaidd newydd yn y Gogledd wedi cael eu creu yn unol â chanllawiau'r Gymdeithas Fasgwlaidd.

"Mae buddsoddiad wedi'i wneud mewn offer a thechnoleg newydd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn ei le. Mae'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud eisoes wedi llwyddo i ddenu staff a bydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth leol a gwella canlyniadau i gleifion.  Mae'r trefniadau newydd hyn yn rhoi anghenion y cleifion yn gyntaf, drwy sicrhau gwasanaethau arbennig a fydd yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hwy."

 Dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol Rhwydwaith Fasgwlaidd Gogledd Cymru, Soroush Sohrabiwe:

"Rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Gweinidog Iechyd i Ysbyty Glan Clwyd i weld gwasanaeth a fydd yn gwella canlyniadau i gleifion ar draws y Gogledd sy’n cael triniaeth fasgwlaidd. 

“Rydyn ni wedi llwyddo’n dda iawn i recriwtio grŵp medrus o staff meddygol a nyrsio, staff therapiwtig a staff cymorth i ddarparu’r gwasanaeth yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen nawr at groesawu cleifion yma.”