Mae Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau i roi terfyn ar y polisi cyni, i roi’r gorau i drin y gwasanaethau cyhoeddus mewn modd mor anghyfrifol ac i ddarparu’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd y mae gwir angen amdanynt.
Mewn llythyr at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Rebecca Evans wedi mynegi ei siom ynglŷn â methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei hymrwymiad i gynnal Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant tair blynedd, gan gyhoeddi yn hytrach gyllideb refeniw un flwyddyn ar gyfer 2020-21.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid:
“Er gwaethaf y cefndir heriol, rydyn ni wedi bod yn cynllunio ar sail yr ymrwymiadau a gafwyd gan Lywodraeth y DU yn y gorffennol. Cyn toriad yr haf fe wnes i drefniadau gyda’r Cynulliad i gyhoeddi ein Cyllideb yn hwyrach nag arfer eleni, er mwyn ceisio rhoi sicrwydd ariannol mwy hirdymor i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid.
“Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn rheoli cyllidebau anodd eithriadol, ac roeddwn wedi gobeithio gallu cynllunio dros gyfnod o dair blynedd. Yn hytrach, yr hyn sydd o’n blaenau yw cyfres ddigynllun o ddigwyddiadau cyllidol ar hap gan Lywodraeth y DU sy’n dwysáu’r ansicrwydd ac sy’n methu â darparu sylfaen gadarn inni ar gyfer llunio cynlluniau gwariant.”
Soniodd y Gweinidog hefyd am ei phryderon cynyddol ynglŷn â ffordd ddi-drefn ac anwadal Llywodraeth y DU o reoli ymadawiad y DU a’r UE, a galwodd ar y Prif Ysgrifennydd i ddarparu cymorth ar unwaith ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Byddai Brexit heb gytundeb yn cael effaith ddinistriol ar Gymru ac rydw i wedi dweud yn glir na fydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb yn hanner digon i’n digolledu am y niwed y bydd yn ei achosi i economi, busnesau a chymunedau ledled Cymru.
“Bydd angen cymorth ariannol er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyd yn oed gyfran o sgil-effeithiau ymadael heb gytundeb, ac ni fydd modd darparu hynny o’r cyllidebau presennol. Bydd angen cymorth ariannol ar unwaith a byddem yn disgwyl cael ein digolledu’n llawn am y costau gweithredol y byddwn yn eu hysgwyddo yng Nghymru.”
Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd fod angen cynnal cyfarfod brys rhwng y pedwar Gweinidog Cyllid i drafod trefniadau a fydd yn adlewyrchu’r berthynas wahanol y bydd gofyn ei chael ar ôl Brexit.