O 6 Ebrill ymlaen, bydd y cyfraddau treth incwm Cymreig yn cael eu datganoli i Gymru.
Mae hynny'n golygu, am y tro cyntaf, y bydd rhywfaint o'r arian sy'n cael ei godi gan dreth incwm yng Nghymru yn aros yng Nghymru i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Felly os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn talu treth incwm, bydd y cyfraddau treth incwm Cymreig yn berthnasol i chi.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian sy'n cael ei godi gan y cyfraddau treth incwm Cymreig i ariannu gwasanaethau cyhoeddus fel y GIG a'n hysgolion.
O 6 Ebrill ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyfradd ei hun o dreth incwm i'w thalu gan drethdalwyr Cymru, sy'n golygu y gallai pobl sy'n byw yng Nghymru dalu cyfradd wahanol i'r rhai sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU. Fodd bynnag, ni fydd trethdalwyr Cymru yn gweld unrhyw newid i'r dreth incwm sy'n cael ei thalu yn 2019 i 2020, gan y bydd y cyfraddau yn aros yr un fath. Ymrwymodd Gweinidogion Cymru i beidio â chodi’r cyfraddau yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Bydd CThEM yn gyfrifol am gasglu'r tollau, fel sy'n digwydd nawr. Un newid y byddwch yn sylwi arno yw eich cod treth. Bydd holl drethdalwyr Cymru bellach yn cael cod treth newydd yn dechrau â'r llythyren 'C' am Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
"Dyma gyfnod pwysig a chyffrous iawn i ddatganoli yng Nghymru. Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall yn hanes datganoli trethi.
"Bydd tua £5bn o refeniw trethi lleol a datganoledig nawr yn cael ei godi yng Nghymru ac yn aros yng Nghymru. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried yn ehangach sut gall ein polisi trethi helpu i gyflawni dyheadau cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, ysbytai a ffyrdd."
Y neges i drethdalwyr Cymru yw nad oes angen gwneud unrhyw beth oni bai eich bod wedi symud tŷ yn ddiweddar neu bod angen diweddaru eich cyfeiriad cartref. Os felly, cysylltwch â CThEM i ddiweddaru eich manylion personol.