Heddiw, cyhoeddir adroddiad ar ddealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi yng Nghymru, cyn cynnal cyfarfod cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog Cyllid ar Drethi.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol y cwestiynau ar ddatganoli trethi a oedd wedi'u cynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 a 2017-18 ac yn Arolwg Omnibws Cymru y llynedd.
Dyma rai o brif ganfyddiadau'r adroddiad:
- ym 2017-18 dywedodd y mwyafrif o'r ymatebwyr, sef 67% mai Llywodraeth y DU sydd â'r rheolaeth fwyaf dros y trethi y maent yn eu talu yng Nghymru, gyda 10% yn unig yn dweud mai Llywodraeth Cymru sydd â'r rheolaeth fwyaf. Pobl iau oedd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn gwybod pwy sydd â'r rheolaeth fwyaf dros y trethi y maent yn eu talu, gyda 24% o bobl 16-24 oed yn dweud nad ydynt yn gwybod, o'i gymharu â 14% o’r rhai 35 oed a throsodd
- yn 2017-18 roedd ymwybyddiaeth is am dreth ar deithiau awyr o Gymru (47%) a'r dreth gwastraff tirlenwi (42%) o'i chymharu â threthi eraill, megis treth incwm (97%), y dreth gyngor (98%) a TAW (96%).
- roedd dealltwriaeth well ynghylch pwy oedd yn rheoli trethi megis treth incwm, y dreth gyngor, a TAW o'i gymharu â threth ar gyfer teithiau awyr i Gymru, gyda 34% o ymatebwyr yn 2017-18 yn credu yn anghywir mai Llywodraeth Cymru oedd â rheolaeth.
- nid oedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn gwybod bod gan Llywodraeth Cymru’r hawl i bennu rhai trethi yng Nghymru ers Ebrill 2018, gyda 38% yn dweud eu bod yn ymwybodol mai Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r Dreth Trafodiadau Tir (a ddisodlodd y Dreth Stamp yng Nghymru) a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (a ddisodlodd y Dreth Dirlenwi yng Nghymru). Yn yr un arolwg, 24% o ymatebwyr yn unig a ddywedodd eu bod yn ymwybodol y byddai Llywodraeth Cymru'n gallu pennu ei chyfraddau treth incwm ei hun o Ebrill 2019.
- ar draws y mwyafrif o'r canfyddiadau hyn, gwelwyd bod gan ymatebwyr 35 oed a throsodd, a oedd â chymwysterau ar lefel gradd neu'n uwch, ddealltwriaeth well o drethi yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:
“Mae'r adroddiad heddiw'n rhoi man cychwyn inni ar gyfer mesur ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ddatganoli trethi yng Nghymru. Mae'n glir bod gwaith i'w wneud o hyd, a byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau hyn i lywio ein hymdrechion yn y dyfodol i weithredu a datblygu trethi newydd.
“Gyda datganoli treth incwm ar 6 Ebrill rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu’r polisi trethi mewn ffordd agored a thryloyw, a hoffwn annog pobl i chwarae rhan a helpu i lywio ein polisi trethi yn y dyfodol.”
Bydd yr adroddiad i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru am 09:00awr ddydd Iau 14 Mawrth, 2019.