Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Model Cymdeithasol o Anabledd ar ôl clywed gan bobl anabl am y rhwystrau y maent wedi eu hwynebu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (3 Rhagfyr), ar ôl cwrdd â phobl yng Nghanolfan Byw Annibynnol Dewis yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Gweinidog fod y diwrnod yn ein helpu i dynnu sylw at faint o bobl sy'n profi gwahaniaethu ar sail anabledd.

Aeth ymlaen i ddweud bod taliadau uniongyrchol yn hanfodol er mwyn helpu pobl anabl i fod yn annibynnol, a bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w defnyddio'n ehangach.

Cafodd y Gweinidog, ynghyd â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan, gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Dow Silicones UK Ltd ac Admiral yn ystod yr ymweliad â Dewis, er mwyn clywed gan y ddau gwmni am y ffordd y maent yn defnyddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd wrth recriwtio ac yn eu gwaith bob dydd.

Dywedodd Kim Eversham o Dow, a fu'n bresennol yn y digwyddiad gyda nifer o interniaid o Brosiect SEARCH y cwmni:

Rydyn ni wedi bod yn cynnal ein rhaglen Prosiect SEARCH ers pedair blynedd. Drwy'r rhaglen, rydyn ni wedi cynnal hyfforddiant ‘Anabledd Dysgu’ ar gyfer gweithwyr Dow er mwyn codi ymwybyddiaeth a newid meddylfryd a barn pobl tuag at anableddau dysgu.

Drwy Brosiect SEARCH rydyn ni wedi ymrwymo i newid bywydau pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ac i gefnogi unigolion i gael swyddi ystyrlon.

Dywedodd Paul Billington, Rheolwr Llesiant a Chymorth yn y Gweithle Admiral:

Rydyn ni'n gwerthfawrogi amrywiaeth o ddifrif yma, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i greu amgylchedd gwaith lle mae pawb yn cael eu clywed a'u cefnogi.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bawb drwy gael gwared ar rwystrau yn y gweithle ac ehangu'r sgwrs am gynwysoldeb a chydraddoldeb.

Mae ein tîm Llesiant a Chymorth yn y Gweithle pwrpasol ar gael i wrando ar bryderon pobl, i roi addasiadau personol ar waith, ac i ryddhau potensial llawn pob un o'n cydweithwyr nawr, ac yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'i bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pobl anabl yn gallu rheoli eu bywydau eu hunain a manteisio ar yr holl fuddion a hawliau y mae pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol.

Dywedodd:

Mae'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a'i weithgorau, sydd wedi eu sefydlu ar sail cydgynhyrchu a pharch o'r ddwy ochr, yn cyfarfod yn rheolaidd. Maen nhw'n datblygu atebion i herio'r rhwystrau strwythurol a chorfforol a'r rhwystrau o ran agwedd a wynebir gan bobl anabl. Defnyddir yr atebion hyn i lunio Cynllun Gweithredu newydd i Gymru ar gyfer Hawliau Pobl Anabl.  

Bydd y gwaith hwn yn datblygu ymhellach y fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol’. Drwy hyn, bydd modd inni fynd ati’n gadarnhaol i osod y sylfeini ar gyfer Cymru sy'n wirioneddol gynhwysol.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae hybu'r Model Cymdeithasol o Anabledd a'i wreiddio yn Llywodraeth Cymru ac mewn cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon.

Drwy helpu'r bobl hynny sy'n gwneud penderfyniadau ac sy’n datblygu polisïau i ddeall eu rôl o ran chwalu'r rhwystrau sy'n ‘anablu’ pobl, gall y gwaith o drawsnewid go iawn ddechrau.