Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a'r Arglwydd Bourne, Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi bod yn y canolbarth i glywed am y datblygiadau gyda Bargen Twf y Canolbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Trwy gyfuno y cyfarfod lefel uchel gydag ymweliadau â dau fusnes lleol llwyddiannus, Zip Clip Ltd a Invertek Drives Ltd ym Mharc Busnes Clawdd Offa, cyfarfu Gweinidog yr Economi a'r Arglwydd Bourne gydag Arweinwyr partneriaeth Datblygu y Canolbarth i glywed am y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y rhanbarth wrth ddatblygu bargen twf y Canolbarth.

Cyfarfu y Gweinidog a'r Arglwydd Bourne gyda Bwrdd Strategaeth yr Economi newydd y rhanbarthau, a sefydlwyd gan y rhanbarth i sicrhau bod gan y sector preifat rôl allweddol wrth ddatblygu Bargen Twf ar gyfer y Canolbarth. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

"Dwi'n falch bod cynnydd wedi'i wneud o ran diffinio gweledigaeth a bod amcanion strategol a threfniadau llywodraethu bellach wedi'u gwneud.

"Mae angen cynnal hyn fel bod modd cadarnhau y cynigion newydd yn fanylach.

"Mae cyfraniad y sector preifat at y fargen, wrth lunio cynigion - yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw Fargen Twf yn y dyfodol ar gyfer y Canolbarth. 

"Mae angen i'r Cynigion ar gyfer y Fargen Twf fod yn uchelgeisiol ac i  gynnwys y sector preifat wrth eu datblygu. Mae angen iddynt arddangos ychwanegedd ac ni ddylent barhau â'r un syniadau". 

"Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos ac yn adeiladol gyda Phartneriaeth Datblygu y Canolbarth, rhanddeiliaid rhanbarthol, a Llywodraeth y DU i edrych sut y gallai'r Fargen Twf fod o fudd i ranbarth y Canolbarth. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â'r Bartneriaeth ar hyn.

"Mae bargeinion yn gyfle i ryddhau rhagor o gyllid gan y Trysorlys i gefnogi ymyraethau allai sicrhau twf economaidd.

"Ond ni ddylid eu hystyried fel dulliau o ariannu prosiectau. Maent yn ddulliau hollbwysig o gynnig fframwaith, gan ganiatáu i ranbarthau ysgogi ffordd newydd o gydweithio, gan bennu blaenoriaethau fel un llais a chyflawni swyddogaethau allweddol ar lefel strategol."