Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw wedi cyhoeddi pum penodiad i Fwrdd Cymwysterau Cymru.
Dyma’r penodiadau hynny:
- Sharron Lusher wedi’i phenodi’n aelod am dymor tair blynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2021
- Hannah Burch wedi’i phenodi’n aelod am dymor tair blynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2021
- Michael Griffiths wedi’i benodi’n aelod am dymor tair blynedd i ddechrau ar 15 Mehefin 2021
- Douglas Blackstock wedi’i benodi’n aelod am dymor tair blynedd i ddechrau ar 15 Mehefin 2021
- Graham Hudson wedi’i benodi’n aelod am dymor tair blynedd i ddechrau ar 15 Mehefin 2021
Caiff Aelodau o Fwrdd Cymwysterau Cymru eu talu ar gyfradd ddyddiol o £282, pob un yn adlewyrchu ymrwymiad amser o 36 o ddiwrnodau y flwyddyn o leiaf.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
Rwy’n falch o gyhoeddi bod y pump wedi’u penodi’n aelodau i Fwrdd Cymwysterau Cymru heddiw.
Mae’r aelodau hyn yn ymuno ar adeg dyngedfennol wrth i’r model gradd a bennir gan ganolfan gael ei gyflwyno ar gyfer haf 2021 ac wrth i gynnig cymwysterau’r dyfodol ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed gael ei ddatblygu i adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r Bwrdd yn ymgymryd â rôl bwysig i sicrhau bod Cymwysterau Cymru yn arwain yn effeithiol, bod ganddo gyfeiriad strategol sydd wedi’i ddiffinio’n glir, a’i fod yn ymgymryd â gweithgareddau yn effeithlon ac yn unol â’i nodau, ei amcanion a’i dargedau.