Heddiw (15 Hydref) mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, wedi amlinellu ei nodau a'i hamcanion yn ei rôl weinidogol newydd, gyda phwyslais ar gydweithio, cydweithredu a chymuned.
Mae'r nodau yn cynnwys:
- Cynyddu amlygrwydd opsiynau ar gyfer dysgwyr ôl-16, boed yn llwybrau academaidd neu alwedigaethol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod cyfleoedd addysgol ar gael a all weithio iddyn nhw a'u teuluoedd ar bob cam o'u bywydau, waeth beth fo'u hoedran, cefndir neu amgylchiadau personol.
- Cydweithredu ar draws y llywodraeth, i sicrhau y gall addysg weithredu fel ysgogiad allweddol yn agenda'r llywodraeth a chyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog o hybu safonau, 'iechyd da' a chyfleoedd i bawb.
- Ymrwymiad i weithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod gan Gymru y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen ar gyfer gweithlu yfory.
- Sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed er mwyn darparu elfen hanfodol o brofiad y dysgwr a helpu i arwain dyfodol eu colegau. Cefnogi cyrff llywodraethu a arweinir gan ddysgwyr.
- Hyrwyddo rôl bwysig Medr.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Vikki Howells:
Fel cyn-athro ysgol uwchradd a phennaeth cynorthwyol chweched dosbarth, yn ogystal â mentor i'r rhai sydd newydd ddechrau yn y proffesiwn addysgu, mae fy mhrofiadau wedi rhoi dealltwriaeth gadarn i mi o'r llwyddiannau a'r heriau y mae dysgwyr ac ymarferwyr yn eu hwynebu, a byddaf yn ymroi i gynnig empathi a chlust i wrando wrth gyflawni'r rôl hon.
Rwyf am i bawb gael mynediad i'r un cyfleoedd ac rwyf am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r holl opsiynau ôl-16 sydd ar gael iddynt, boed yn gyrsiau academaidd neu alwedigaethol, ac nad oes rhwystrau i addysg.
Rwyf eisoes wedi dechrau ymweld â darparwyr ôl-16, gan gynnwys colegau a phrifysgolion ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at gael cyfarfod â dysgwyr, eu hathrawon a'u tiwtoriaid fel y gallaf ddeall eu dewisiadau, y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, a dathlu eu cyflawniadau.