Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwaharddiad ar ficrobelenni plastig mewn cynhyrchion i'w rinsio i ffwrdd yn dod i rym yng Nghymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn sgil hynny, bydd yn drosedd gweithgynhyrchu unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig. 
Mae microbelenni yn ronynnau plastig soled sy'n 5mm o ran maint ac nid ydynt yn toddi mewn dŵr. Maent hefyd yn rhy fach i gael eu hidlo allan mewn systemau trin carthion. Mae rhyw 680 o dunelli o ficrobelenni plastig yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion gofal personol yn y DU bob blwyddyn ac mae biliynau ohonynt yn mynd i'r môr. Mae'r pelenni bychain yn cronni oherwydd nad ydynt yn fioddiraddadwy ac mae'n amhosibl eu hadfer ar ôl iddynt gyrraedd y môr.  
Mae microbelenni plastig wedi’u hychwanegu at amrywiaeth o gynhyrchion gofal personol ers blynyddoedd, gan gynnwys cynhyrchion glanhau dwylo, sgrybiau wyneb, pastiau dannedd, geliau i'w defnyddio yn y gawod, a chosmetigau. 
Mae'r polisi i wahardd microbelenni mewn cynhyrchion cosmetig wedi ennyn cefnogaeth gan y cyhoedd, yn ogystal â'r diwydiant cosmetigau ei hunan. Bydd y gwaharddiad deddfwriaethol yn sicrhau tegwch a chysondeb yn y ffordd y caiff “microbelenni” eu diffinio er mwyn sicrhau nad yw'r holl gynhyrchion perthnasol yn eu cynnwys.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: 
"Rwy'n fach o gyflwyno'r gwaharddiad hwn yng Nghymru a fydd yn lleihau'r plastig sy'n mynd i'n moroedd ac yn atal rhagor o niwed i fywyd morol.  
"Nid oes angen microbelenni mewn cynhyrchion rinsio i ffwrdd ac mae dewisiadau addas eraill nad ydynt yn niweidio'r amgylchedd. Gall defnyddwyr fod yn hyderus bellach na fydd y cynhyrchion y maent yn eu prynu yn niweidio bywyd y môr. 
"Mae 2018 yn Flwyddyn y Môr ac yn gynharach yn y mis, llofnodais Adduned Moroedd Glân y Cenhedloedd Unedig. Rydyn ni'n cymryd camau i leihau llygredd plastig yng Nghymru, drwy ddatblygu mannau ail-lenwi dŵr mewn cymunedau allweddol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. 
"Rydyn ni am fod yn enghraifft i wledydd eraill y byd er mwyn inni leihau'r peryglon plastig sy'n wynebu bywyd y môr gyda'n gilydd." 

Dywedodd Peter Davies, Cadeirydd Grŵp Cynghori a Gweithredu ar Faterion Morol Cymru:
"Mae tystiolaeth yn dangos y niwed y gall microbelenni plastig ei achosi i'r amgylchedd morol, yn ogystal â'r risg posibl i ddiogelwch bwyd ac iechyd pobl."Rwy'n falch o weld y ddeddfwriaeth hon yn dod i rym heddiw, sy'n gam pwysig tuag at gael gwared ar y perygl o lygredd plastig i fywyd y môr."