Y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol: llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet
Cyngor ar gydlyniad y cynigion ar gyfer y system gwella ysgolion yn y dyfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2024
Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet,
Diolch am y gwahoddiad i gadeirio’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol i gynorthwyo’r adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid ym maes addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau gwella ysgolion.
Mae’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn dod â chynrychiolwyr partneriaid allweddol ynghyd ac yn rhoi cyfle i gael sgyrsiau adeiladol am ddyfodol ein system addysg. Mae’r safbwyntiau amrywiol yn werthfawr, ac mae’r aelodau yn gwerthfawrogi’r cyfle i allu adolygu’r cynigion ehangach a gaiff eu datblygu yn rhan o’r Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion.
Rydym yn cydnabod yr holl waith sydd wedi’i wneud ar draws y sector mewn partneriaeth â chydweithwyr cenedlaethol a lleol ac mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn ysgolion i gyrraedd y sefyllfa hon, ac yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud ers i’r adolygiad gael ei gynnal gan yr Athro Dylan Jones. Rydym hefyd yn cydnabod mai adeg benodol ar y siwrnai yw hon, ac mai man gwirio ydyw yn hytrach na man gorffen.
Ar 4 Rhagfyr, bu’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn trafod â thîm y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion y cynigion ar gyfer y system gwella ysgolion yn y dyfodol yng Nghymru.
Mae’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion y dull gweithredu a gynigir ac yn cytuno â’i fwriad i egluro a symleiddio’r system gwella ysgolion yng Nghymru. Mae’r Grŵp yn nodi y bydd cynnydd parhaus yn bosibl wrth i eglurder cyllidebol ddod i’r amlwg.
Rydym yn cydnabod bod y cyfrifoldeb am wella ysgolion yn gyfrifoldeb i bob awdurdod lleol, ond rydym hefyd yn cydnabod yr angen am hyblygrwydd ynglŷn â’r modd y caiff y cynigion eu gweithredu mewn ardaloedd lleol. Fodd bynnag, dylid canolbwyntio ar sicrhau eglurder ynghylch y canlyniadau a ddisgwylir o’r broses hon. Bydd hynny’n ei gwneud yn bosibl cydlynu’r system ar draws y wlad, ond bydd angen monitro hynny’n barhaus. Rydym yn cydnabod bod yna risgiau posibl i’r gwaith o gyflwyno’r newidiadau, o ran cyllid a chapasiti proffesiynol i ymgysylltu a chyflawni ac o ran parhau i ganolbwyntio ar yr amcan o wella safonau addysg. Byddem yn annog pobl i barhau i reoli’r risgiau hynny’n briodol.
Bydd cydweithio yn allweddol i lwyddiant y newidiadau i’r system gwella ysgolion, a rhaid sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ystyr a diben cydweithio ar draws y system: mae cydweithio go iawn yn cefnogi eraill ac yn galluogi gwelliant. Rydym yn cydnabod y bwriedir cyflawni gwaith pellach i sicrhau’r ddealltwriaeth gyffredin honno, a hoffem ychwanegu ein barn ni, sef bod hynny’n hollbwysig i’n llwyddiant wrth symud ymlaen. Rydym yn croesawu creu’r Tîm Gwella Addysg yn Llywodraeth Cymru. Mae angen i’r Tîm hwnnw fod yn ystwyth ac yn ymatebol i anghenion y gwasanaeth, a bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau cydlyniant rhwng y Rhaglenni Cymorth Cenedlaethol, y sefydliad Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth a’r model cydweithio.
Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn parhau i sgwrsio â’i gilydd am eu dulliau arfaethedig o wella ysgolion, a’u bod yn rhannu gwybodaeth ag eraill ac yn dysgu oddi wrth eraill. Mae’n amlwg y bydd angen data da i ategu’r system, felly dylid annog awdurdodau lleol a threfniadau cydweithio rhwng ysgolion i rannu gwybodaeth a thystiolaeth ansoddol a meintiol. Rydym yn cydnabod bod heriau’n perthyn hefyd i’r angen am ddata, felly mae angen egluro mai diben y data yw sicrhau gwelliant ar lefel leol a chenedlaethol.
Rydym yn cydnabod hefyd na all addysg wella drwy waith ysgolion yn unig, ac rydym yn awgrymu bod angen sgwrs ehangach â holl swyddogaethau awdurdodau lleol ac â gwasanaethau cyhoeddus eraill ynghylch sut y gallant gynorthwyo dysgwyr ac ysgolion.
Mae’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol o’r farn bod sicrhau dealltwriaeth glir ar draws y system a gwybod beth yw rôl unigolion a’r rhannau cyfansoddol yn hollbwysig. Yn benodol, bydd yn hanfodol bod yr holl bartneriaid yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau yng nghyswllt ei gilydd. Bydd angen cael a gweithredu strategaeth gyfathrebu gadarn ac effeithiol er mwyn sicrhau’r ddealltwriaeth gyffredin honno.
Mae’r trefniadau llywodraethu presennol i gefnogi’r newidiadau a gynigir yn rhoi sicrwydd i’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol. Rydym o’r farn bod y cynigion yn mynd i’r cyfeiriad cywir a bod amryw lefelau sicrwydd yn y system.
Mae’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y cynigion ar gyfer system newydd i wella ysgolion yng Nghymru yn iawn, oherwydd bydd yn newid diwylliant mawr i lawer o bartneriaid yn y system addysg. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu â thîm y Rhaglen ac at fod yn rhan o’r siwrnai hon tuag at fwy o gydweithio ar bob lefel er mwyn gwella ysgolion.
Yr eiddoch yn gywir,
Kirsty Williams CBE