Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cefndir

Yn dilyn yr ymrwymiad i adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru, sefydlwyd y Grŵp Cydlyniant Cenedlaethol i roi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch a yw'r newidiadau a gynigir i'r system gwella ysgolion yng Nghymru yn gydlynol ac yn gadarn.

Cylch gorchwyl

Y Cyd-destun

Comisiynwyd yr 'Adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion' ym mis Gorffennaf 2023, dan arweiniad yr Athro Dylan Jones, gyda chefnogaeth Partneriaeth ISOS. 

Ym mis Rhagfyr, rhoddodd y tîm adolygu y newyddion diweddaraf i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd ynghylch eu cynnydd a'r themâu a'r canfyddiadau allweddol a ddaeth i'r amlwg, a oedd yn amlygu negeseuon cyson gan arweinwyr ysgolion a safbwyntiau clir gan y mwyafrif o bartneriaid awdurdodau lleol. Roedd yr adborth yn glir ynghylch y cyfeiriad a ffafrwyd ymhlith arweinwyr ysgolion a'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol o ran y prif elfennau hyn:

  • Cynnig cyfle i arwain ar faterion gwella ysgolion drwy gael mwy o ffocws ar gydweithio'n lleol a gwaith partneriaeth rhwng arweinwyr ysgolion a'u hawdurdodau lleol.
  • Partneriaethau rhwng mwy nag un awdurdod lleol gan symud i ffwrdd o fodel rhanbarthol ehangach o gymorth.
  • Arweinyddiaeth genedlaethol gryfach gyda blaenoriaethau cenedlaethol cliriach i ysgolion.

Yn dilyn hynny, cytunodd y Gweinidog y byddai cam nesaf yr adolygiad yn canolbwyntio ar lunio a chyd-awdura trefniadau gwella ysgolion diwygiedig mewn manylder. Cytunodd y Cabinet ar y dull hwn ar 15 Ionawr 2024 ac fe'i gyhoeddwyd mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 31 Ionawr. Dyma'r Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion (y Rhaglen). 

Yng ngham presennol y Rhaglen, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio â phartneriaid addysg i lunio dull symlach o gefnogi ysgolion yng Nghymru, ac yn dilyn hynny bydd y newidiadau i'r system y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni (cyfnod pontio) a'r buddion yn cael eu gwireddu trwy weithredu yn y tymor hwy (cyfnod manteision).

Diben

Roedd y Datganiad Ysgrifenedig yn cynnwys cynigion ar gyfer Grŵp Cydlynu Cenedlaethol (y Grŵp). Bydd y Grŵp yn rhoi cyngor uniongyrchol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg drwy Gadeirydd y Grŵp.

Bydd y Grŵp yn cefnogi ac yn cysylltu safbwyntiau Llywodraeth Cymru a phartneriaid addysg strategol gan gynnwys awdurdodau lleol, partneriaethau a chonsortia rhanbarthol, Estyn a'r tîm partner allanol er mwyn symud ymlaen mewn ffordd drefnus. 

Yn benodol, bydd y Grŵp yn rhoi cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch a yw'r holl newidiadau i Lywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn gydlynol ac yn gadarn ar lefel system gyfan. 

Disgwylir i'r Grŵp hefyd fod â rôl barhaus gan gynnwys goruchwylio hyfywedd y trefniadau arfaethedig a phriodoldeb trefniadau pontio.

Cyfrifoldebau

Bydd y Grŵp yn darparu sicrwydd a swyddogaeth gwirio synnwyr ar draws y rhaglen lawn gan gynnwys y tair prif ffrwd waith sy'n canolbwyntio ar swyddogaethau a strwythurau lleol, partneriaeth a chenedlaethol i gefnogi'r system addysg yn y dyfodol:

  1. Y ffordd orau i awdurdodau lleol helpu eu hysgolion i gydweithio ar lefel leol.
  2. Y ffordd orau o sicrhau bod cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion yn parhau i gael ei gefnogi ar draws awdurdodau lleol. 
  3. Y ffordd orau o gefnogi ac arwain ar y gwaith o wella ysgolion ar lefel genedlaethol. 

Bydd y Grŵp, sydd y tu allan i strwythurau rheoli rhaglenni gwneud penderfyniadau hierarchaidd, yn rhan hanfodol o'r strwythur llywodraethu cyffredinol ar gyfer y rhaglen. Bydd y Grŵp yn cynrychioli'r sector addysg ac yn gwirio'r cynigion ar gyfer newid i gadarnhau eu bod yn gwneud synnwyr cyn eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Aelodau

Bydd aelodaeth o'r Grŵp ar lefel uwch i ddarparu cyngor, her a sicrwydd rhaglenni. 

Er mwyn galluogi'r Grŵp i weithredu'n effeithiol, disgwylir i aelodau ddod i bob cyfarfod. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol:

  • arweinwyr yr Awdurdodau Lleol 
  • Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Estyn
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Bydd swyddogion polisi Llywodraeth Cymru yn darparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp ac yn cefnogi yn ôl yr angen.

Cadeirydd: Kirsty Williams CBE

Aelodau:

  • Y Cynghorydd: Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Y Cynghorydd: Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg
  • Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd
  • Stephen Vickers, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Blaenau Gwent
  • Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Estyn
  • Dr Chris Llewellyn, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Claire Homard, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Dull gweithredu

Disgwylir i'r GrŵpNCG ymgynnull o leiaf ddwywaith cyn diwedd 2024 yn ystod cam 2 y Rhaglen. Bydd y Grŵp yn parhau i gwrdd yn dymhorol wedi hynny tan fis Medi 2026 i fonitro cynnydd yn ystod y cyfnodau pontio a manteision.

Gellir cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ar-lein neu gyfuniad o'r ddau, yn dibynnu ar ddewis yr aelodau ac a ydynt ar gael.

Lle nad yw'n bosibl cynnull mwyafrif yr aelodau naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, gellir dosbarthu papurau ar gyfer sylwadau drwy e-bost i ofyn am adborth ar gynigion a datblygu polisi.