Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad heddiw am Gronfa Triniaethau Newydd Llywodraeth Cymru, chwe mis ar ôl iddi agor yn swyddogol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Gronfa Triniaethau Newydd yn neilltuo £80 miliwn dros dymor y llywodraeth hon, £16m yn flynyddol, i gyflymu mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf sy'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Dan y system newydd, rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE neu AWMSG ar gael o fewn deufis i ddyddiad cyhoeddi'r canllawiau terfynol, gan fyrhau'r cyfnod gofynnol o draean.

Ar 9 Mehefin, roedd 17 o feddyginiaethau perthnasol ar gael dan y Gronfa Triniaethau Newydd. 

Mae chwe bwrdd iechyd wedi sicrhau bod pob un o'r 17 meddyginiaeth ar gael. Llwyddodd un bwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, i sicrhau bod 15 o'r 17 meddyginiaeth ar gael o fewn deufis, ond mae pob un o'r 17 bellach ar gael.

Wrth groesawu'r cynnydd hyd yma, dywedodd Vaughan Gething: 

“Rwy'n falch iawn bod ein cronfa triniaethau newydd yn gweithio, gan helpu pobl sy'n dioddef o gyflyrau sy'n bygwth eu bywydau i gyrraedd at feddyginiaethau newydd arloesol yn gyflym.

"Ym mis Ionawr, wrth lansio'r Gronfa Triniaethau Newydd, dywedais fod angen ymdrech gadarn ar y cyd rhwng y diwydiant fferyllol, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu dull cynaliadwy ac ymatebol o gyflwyno meddyginiaethau newydd.

"Gwelwyd enghraifft effeithiol o hyn y mis diwethaf, pan lwyddwyd i gyflwyno'r driniaeth newydd ar gyfer canser y fron, Kadcyla™, yn gyflym wrth i'r cynhyrchwyr drafod gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i ddod i gytundeb cynnar. 

"Mae'n dda gweld ein bod ni'n symud ymlaen, ond rwy'n disgwyl gweld hyn yn parhau dros gyfnod pum mlynedd y gronfa. 

"Yn ystod y deufis cyntaf, gwelwyd rhywfaint o amrywiaeth yng nghydymffurfiaeth byrddau iechyd gyda'r gofynion i sicrhau bod meddyginiaethau a oedd yn cael eu hargymell ar gael. Rwy'n falch iawn o weld bod hyn bellach wedi'i gywiro, a bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud fel y gall pobl Cymru fanteisio ar y polisi hwn, a all newid bywydau."