Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gronfa wedi cwtogi'r amserlen ar gyfer sicrhau bod meddyginiaeth newydd ar gael o 90 diwrnod i 60 diwrnod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynwyd y Gronfa Triniaethau Newydd ym mis Ionawr 2017 er mwyn cyflymu mynediad at y meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Mae'r Gronfa wedi cwtogi'r amserlen ar gyfer sicrhau bod meddyginiaeth newydd ar gael o 90 diwrnod i 60 diwrnod. Yn sgil ei lwyddiant, mae'r amser y mae'n ei gymryd i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael wedi syrthio ar gyfartaledd i 17 diwrnod.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £16 miliwn yn flynyddol i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre dros bum mlynedd y Llywodraeth hon - cyfanswm o £80m - ar gyfer y Gronfa Triniaethau Newydd. 

Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion yn cael y triniaethau diweddaraf i gael eu hargymell yn gyflym, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.

Un o'r cyffuriau newydd sydd ar gael diolch i'r Gronfa Triniaethau Newydd yw'r cyffur canser y fron Palbociclib, a gafodd ei argymell gan NICE i'w ddefnyddio'n gyffredinol ym mis Tachwedd 2017. Mae'r cyffur yn atal y canser rhag tyfu a lledaenu.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae 73 o fenywod Cymru bellach yn derbyn Palbociclib ac mae disgwyl i'r nifer gynyddu.

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Mae'n Cronfa Triniaethau Newydd yn gwella ac yn ymestyn bywydau ar draws Cymru.

"Yn sgil llwyddiant y Gronfa, mae cyfartaledd yr amser y mae’n ei gymryd i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael wedi syrthio'n sylweddol. Mae cyrraedd a rhagori ar ein targed o 60 niwrnod yn dipyn o gamp ac yn gwneud gwahaniaeth o bwys i fywydau pobl.  

"Rydyn ni'n gweld ein cleifion yn cael mynediad cyflymach at yr amrywiol feddyginiaethau newydd sy'n cael eu cymeradwyo gan NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau i drin arthritis, sglerosis ymledol, epilepsi, asthma a chanser y fron, a llawer mwy.

"Roedd y cyffur Palbociclib, sy'n cael ei ystyried fel ffordd arloesol o drin a rheoli canser metastatig y fron, ar gael yn sydyn iawn ac yn enghraifft ardderchog o'r ffordd mae'r Gronfa Triniaethau Newydd yn cyflawni'r hyn roedd Llywodraeth Cymru wedi ei fwriadu. 

"Rwy'n hynod o falch o'r hyn a gyflawnwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac am weld y Gronfa yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae pobl Cymru yn haeddu'r gorau."