Mae’r Gronfa Triniaethau Newydd yn golygu bod cleifion yn gallu cael gafael yn gynt ar driniaethau sy’n gwella ac yn achub bywydau.
Mae’r Gronfa Triniaethau Newydd yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael yn gynt ar feddyginiaethau sy’n cael eu hargymell gan:
- Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
- Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG)
Mae’r gronfa yn galluogi byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i wneud yn siŵr bod meddyginiaethau newydd ar gael cyn gynted â phosibl.
Mae gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ddyddiad targed o 60 diwrnod i sicrhau bod meddyginiaeth a argymhellir o'r newydd ar gael i'w rhagnodi.
Bydden nhw yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar yr amser a gymerwyd i ychwanegu meddyginiaeth newydd at eu rhestr ragnodi.