Neidio i'r prif gynnwy

Ariannwyd yr ymchwil hon trwy Gronfa Syniadau Newydd Llywodraeth Cymru.

Mae’n ystyried y cynnig’ ystyrir Undebau Credyd fel ‘banc y dyn tlawd, er hynny, nid ydynt yn cyrraedd y rhai tlotaf’ ac yn edrych at sut y gallwn newid hyn.

Mae’r ymchwil hwn yn nodi model ar gyfer cynyddu’r nifer o aelodau incwm isel oddi fewn i un gymuned benodol yng Nghaernarfon, Gogledd Orllewin Cymru. Fe brofwyd y model yma gyda thrigolion, grwpiau cymunedol ac asiantaethau. Mae’n cynnig templed y gellir ei addasu ar gyfer cymunedau a grwpiau eraill.

Mae’r prosiect hwn yn cadarnhau nifer o’r canfyddiadau oddi fewn i gyhoeddiadau ymchwil diweddar ac yn dod i’r canlyniad – er mwyn galluogi undebau credyd i gystadlu gyda benthycwyr carreg drws llog uchel traddodiadol rhaid iddynt flaenoriaethu’r nodweddion canlynol:  Hyblygrwydd, Hygyrchedd, Hwylustod, Buddion Cymdeithasol.

Adroddiadau

Cadwa fö’n ddistaw! , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.