Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Gronfa Gynghori Sengl.
Cynnwys
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid grant o tua £12 miliwn y flwyddyn ar gael i ddarparwyr Gwasanaethau Cynghori yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2025 hyd at 31 Mawrth 2028. Gwnaed hynny gan ei bod yn bwysig bod pobl Cymru, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed, yn cael eu gwasanaethu gan rwydwaith o ddarparwyr o safon o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, sy'n gweithio gyda'i gilydd yn ddi-dor i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau cynghori diduedd sy'n rhad ac am ddim.
Yn fras, mae'r gwasanaethau sy'n cael eu hariannu yn cyflawni dau brif nod:
- Hyrwyddo mynediad cynnar at wybodaeth a chyngor ymhlith yr unigolion sydd fwyaf agored i niwed mewn cymunedau lleol.
- Rhoi cymorth o ran darparu gwasanaethau cynghori arbenigol (cynrychiolaeth gerbron Tribiwnlysoedd a Llysoedd) drwy Gymru.
Mae'r grant hwn yn ei gwneud yn ofynnol i brosesu data personol ar ran Llywodraeth Cymru. At ddibenion y grant hwn, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data.
Bydd darparwyr gwasanaethau cynghori, fel proseswyr data, yn casglu data personol yn uniongyrchol gan unigolyn gyda chaniatâd i weithredu ar ei ran er mwyn dod o hyd i'r cyngor mwyaf priodol i'w ddarparu. Dim ond pan fo rheswm penodol, cyfreithlon dros wneud hynny y caiff darparwyr gwasanaethau cynghori gasglu data personol.
Mae'r wybodaeth bersonol y gall darparwr gwasanaeth cynghori ei chasglu gan gleient i'w gweld isod.
Personol
- Enw
- Cyfeiriad Cartref
- Cyfeiriad Busnes
- Cod post
- Cyfeiriadau e-bost
- Rhifau Ffôn
- Dyddiad geni
- Rhif Trwydded Yrru
- Rhif Pasbort / Cerdyn Adnabod
- Lluniau / Delweddau (y gellid eu defnyddio i adnabod unigolyn)
- Rhif adnabod unigryw e.e. cerdyn ffyddlondeb siop, cerdyn llyfrgell etc.
Sensitif
- Cefndir Hiliol / Ethnig
- Barn wleidyddol
- Credoau crefyddol
- Aelodaeth mewn Undeb Llafur
- Iechyd neu gyflwr corfforol / meddyliol
- Bywyd rhywiol
- Cofnodion troseddol a llys (gan gynnwys troseddau honedig)
- Cofnodion addysgol
- Data biometrig e.e. DNA, olion bysedd
- Gwybodaeth ariannol bersonol e.e. manylion banc neu gerdyn credyd
- Enw morwynol mam
- Rhif Yswiriant Gwladol (neu gyfatebol)
- Cofnodion trethi, budd-daliadau neu bensiynau
- Cofnodion iechyd neu wasanaethau cymdeithasol e.e. ym maes Tai neu Ddiogelu Plant
Cofnodion cyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth a gwaith gwirfoddol)
At ba ddiben y defnyddir eich data / Gyda phwy y byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth?
Fel rheolydd data, ni fydd angen i Lywodraeth Cymru gael unrhyw wybodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau a allai gael ei ddefnyddio i adnabod yr unigolyn sydd eisiau mynediad at y gwasanaeth cynghori.
Bydd gwybodaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru ond yn dangos ‘nifer’ y bobl sydd wedi derbyn cyngor a natur y cyngor a roddwyd. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig (sy'n defnyddio'r gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru) sydd hefyd yn cael ei gasglu yn gyson gan y darparwyr gwasanaethau cynghori wrth iddynt wneud eu gwaith ac nid yn benodol ar gyfer y prosiect hwn.
Yng nghylch gwaith Llywodraeth Cymru fel rheolydd data, caiff gwybodaeth ddienw a dderbynnir am unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau cynghori ei defnyddio at y dibenion canlynol.
- i fonitro cynnydd y prosiectau
- i brosesu ffurflenni hawlio cyllid grant
- dibenion ystadegol ac ymchwil
- i gysylltu gyda meysydd polisi eraill Llywodraeth Cymru
- cyhoeddiadau (Ffeithlun) – defnyddir data dienw pan geir data gan ddarparwyr gwasanaethau cynghori
- bydd astudiaethau achos dienw yn cael eu rhannu a Gweinidogion Cymru pan ddaw'r astudiaethau hynny i law.
- rhannu â chwmni gwerthuso a gaiff y gwaith o werthuso'r prosiect ar ran Llywodraeth Cymru
Yn ôl ein cylch gwaith fel rheolydd data, bydd Llywodraeth Cymru yn cael data personol, sy'n cynnwys enw a chyfeiriad e-bost rheolwr prosiect y gwasanaeth cynghori sy'n gysylltiedig â'r dyfarniad cyllid llwyddiannus. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth honno at y dibenion canlynol:
- i ddyfarnu’r cyllid grant
- i gysylltu â'r rheolwr prosiect at ddiben monitro cynnydd y prosiect
- i gysylltu â'r rheolwr prosiect at ddiben prosesu taliadau mewn cysylltiad â'r prosiect
Mae Llywodraeth Cymru, fel rheolydd data, yn ymwybodol y gallai darparwyr gwasanaethau cynghori, fel proseswyr data, anfon manylion am unigolyn at ddarparwyr gwasanaethau cynghori eraill er mwyn rhoi cyngor arbenigol neu gyngor ychwanegol i unigolyn. Mae disgwyl iddynt hefyd anfon manylion am gostau a thystiolaeth at ddibenion archwilio atynt. Mae'n rhaid i bolisïau darparwyr gwasanaethau cynghori ar ddiogelu data ac ar reoli data sensitif gydymffurfio â’r egwyddorion diogelu data perthnasol.
Eich hawliau a'ch dewisiadau
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawl:
- i gael gafael ar y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch chi
- i ofyn inni gywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny
- i wrthwynebu'r gwaith o brosesu - ac o dan amgylchiadau penodol - i dynnu eich cais yn ôl cyn iddo gael ei brosesu a chyn i benderfyniad gael ei wneud ynghylch dyfarnu cyllid neu i beidio â rhoi cyllid
- i ofyn am ddileu eich data - mewn rhai amgylchiadau
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data, (gweler y manylion cyswllt isod)
Am faint fydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data am 7 mlynedd ar y mwyaf wedi i'r flwyddyn ariannol y mae'r data'n ymwneud â hi ddod i ben, yn unol â gofynion archwilio. Ar ôl hynny, bydd eich data'n ddienw a gellir eu defnyddio mewn astudiaethau achos a/neu eu dinistrio.
Cysylltiadau
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays,
CAERDYDD
CF10 3NQ
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer.
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun grant hwn drwy gysylltu â rhwydweithiaucynghori@llyw.cymru.
Rhoi gwybod am y newidiadau
Os ydym am ddefnyddio eich data mewn ffordd sy'n wahanol i'r un sy'n cael ei nodi ar adeg casglu'r data, byddwn yn rhoi gwybod i chi.