Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Cefndir

Mae'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn ategu uchelgeisiau ymyriadau eraill a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yn ehangach, gyda'r nod o ddatgloi potensial datblygu tir ac adeiladau er budd cyhoeddus, yn enwedig er mwyn ateb y galw am dai cymdeithasol a fforddiadwy. Mae'r cynllun yn agored i Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sefydliadau eraill yn y trydydd sector a chyrff y mae eu gwreiddiau mewn gwerth cymdeithasol h.y. ymddiriedolaethau ac elusennau nid er elw. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. 

Mae'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn canolbwyntio ar ryddhau tir ac adeiladau lle mae gwaith adeiladu ar stop neu lle mae angen ymyrryd er mwyn sicrhau bod prosiect yn mynd yn ei flaen. Bwriedir iddi alluogi ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau i ddatblygu h.y. pontio'r “bwlch dichonoldeb” a chyflawni newid. Gellir ei defnyddio hefyd i brynu parseli tir neu adeiladau strategol lle y cânt eu defnyddio i ddatblygu cartrefi fforddiadwy. 

Er bod pwyslais ar ddatblygu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gall y rhaglen ystyried manteision ehangach i gymunedau h.y. arbedion effeithlonrwydd, mynediad gwell i wasanaethau ac amwynderau lleol yn fframwaith cyffredinol diwygio defnydd tir. 

Gall cynigion wneud cais am gyllid grant o hyd at 100% ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gael eu cwblhau o fewn dwy flwyddyn ariannol. Rhaid i geisiadau i ymestyn cyfnod y cynnig gael eu gwneud yn ysgrifenedig. Caiff llythyrau cynnig ar gyfer cyllid eu hanfon yn unol ag argaeledd grant ac, felly, gellir eu gwneud "mewn egwyddor" ar gyfer prosiectau hirdymor. Caiff ymgeiswyr sy'n cefnogi cynigion â'u harian eu hunain, ffrydiau cyllido eraill, cyfraniadau mewn nwyddau (amser ymgeisydd ac ati) eu trin yn fwy ffafriol na'r rhai sy'n ceisio cyllid grant o 100%. Gellir defnyddio'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau ar y cyd â Grant Tai Cymdeithasol. Ni fydd model dichonoldeb Grant Tai Cymdeithasol yn ystyried grant y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau. 

Mae'n annhebygol iawn y caiff grant ei ddyfarnu o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau lle y bydd tai'r farchnad yn cael eu datblygu oni fydd yr angen i ddatblygu tai'r farchnad yn rhan annatod o'r pecyn cyllido h.y. ni ellir datblygu'r tir yn ymarferol heb yr incwm a gynhyrchir gan ddatblygiadau o'r fath.

Cofiwch fod y cynllun hwn yn seiliedig ar wneud y peth iawn i bobl Cymru. Ni ddylid defnyddio'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau i unioni penderfyniadau hanesyddol gwael ynghylch prynu tir/adeiladau h.y. prynu strwythur rhestredig lle mae'r statws rhestredig yn ychwanegu at broblemau o ran hyfywedd. Mewn achosion o'r fath, dylai'r ymgeisydd gysylltu â'r Is-adran Tir er mwyn trafod y cynnig. 

Mae'r canlynol yn rhestr o weithgareddau y gellid eu hystyried ar gyfer cyllid. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr: 

  • gwaith arolygu 
  • gwaith dylunio
  • cymorth arbenigol
  • uwchgynllunio
  • cynllunio
  • ecoleg
  • addasu neu wella strwythurau presennol er mwyn diwallu anghenion cymdeithasol 
  • cydosod safle 
  • cydosod tir/asedau
  • mynediad
  • seilwaith safle
  • mesurau lliniaru perygl llifogydd
  • dihalogi

Ceidw Llywodraeth Cymru yr hawl i ddyfarnu cyllid mewn modd addas ac, felly, ddyfarnu cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladu yn rhannol neu'n llawn fel grant ad-daladwy. Ystyrir mai grantiau ad-daladwy yw'r “norm” lle mae prosiectau yn rhyddhau derbyniadau neu arbedion sylweddol neu lle mae ased sy'n cynhyrchu incwm yn cael ei ddarparu. 

I gael cyngor ac arweiniad ar broses gwneud cais, cysylltwch â'r Is-adran Tir.

YrIs-adranTir.LandDivision@gov.wales

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r meini prawf cymhwyso ac yn egluro wrth ymgeiswyr sut i baratoi cais, gan gwmpasu pob rhan o'r ffurflen gais. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn darllen y ddogfen ganllaw yn llawn, gan gynnwys yr atodiadau, cyn gwneud cais.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canllawiau hyn yn rheolaidd ac yn eu diweddaru fel y bo angen. Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn parhau i ddilyn y canllawiau hyn, drwy dalu sylw i unrhyw ddiwygiadau.

I gael cyngor ac arweiniad ar y broses gwneud cais, cysylltwch â'ch Rheolwr Rhaglen enwebedig.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i brosesu data personol mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, yn bennaf y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Fodd bynnag, ni ragwelir y bydd y cynllun yn casglu unrhyw ddata personol.

Mae ffurflen gais y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn cynnwys Hysbysiad Preifatrwydd sy'n amlinellu ein sefyllfa mewn perthynas â deddfwriaeth diogelu data a'r data y gallech chi eu rhoi i ni mewn perthynas â'ch cais am grant. Ewch i Hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU

At hynny, os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd y llythyr dyfarnu cyllid yn amlinellu'r allbynnau y cytunir arnynt. Fel rhan o'n prosesau monitro grantiau, bydd yn ofynnol i chi roi gwybod i ni am yr allbynnau prosiect a gyflawnwyd. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gasglu a chadw'r dystiolaeth i ddilysu'r allbynnau hynny y rhoddwyd gwybod amdanynt, y gallwn ofyn am gael eu gweld o bryd i'w gilydd. 

Nodir ein gofynion o ran casglu a chadw data yn ATODLEN 6 i lythyr dyfarnu'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau; mae copi o Atodlen 6 wedi'i gynnwys yn Atodiad 5 i'r canllawiau hyn. 

Fel arfer, ni fydd Pridiant Cyfreithiol ar y tir/adeiladau yn ofynnol fel un o amodau'r grant hwn ond bydd yn ofynnol os bydd Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd angen diogelu ei buddsoddiad, h.y. grant a ddyfernir i sefydliad nid er elw i brynu tir. Fodd bynnag, caiff adfachiad cytundebol caeth ei orfodi bob amser os torrir amodau neu os na fydd gwaith datblygu parhaus wedi digwydd. 

Os yw'r ymgeisydd yn awdurdod lleol a bod y cais am gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn ymwneud ag ased sydd yn y “Cyfrif Cyffredinol”, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ad-dalu'r grant o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn llawn, ddwy flynedd ar ôl i'r grant gael ei gynnig. 

Ni chaniateir i Gyfrif Refeniw Tai Awdurdod Lleol wneud cais am gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau i “brynu” asedau a nodir yn y “Cyfrif Cyffredinol”. Fodd bynnag, os bydd y Cyfrif Refeniw Tai yn prynu asedau o'r cyfrif cyffredinol, gall gofnodi pryniannau o'r fath fel cyfraniadau “mewn nwyddau” at y prosiect. Mae'r Is-adran Tir yn cydnabod y bydd penderfyniad i brynu asedau o'r cyfrif cyffredinol yn dibynnu, weithiau, ar lwyddiant cais am gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau. Mewn achosion o'r fath, bydd yr Is-adran Tir yn derbyn cais am gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau pan fydd prynu ased yn dibynnu ar sicrhau cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau. Fodd bynnag, rhaid i'r ased gael ei brynu o fewn tri mis i'r grant gael ei gynnig (nid ei dderbyn gan yr ymgeisydd). 

Cais

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn asesu ceisiadau cyn gynted â phosibl ond bydd hyn yn dibynnu ar faint o geisiadau byw a ddaw i law. 

Adfachu grant

Oni chytunir â'r Is-adran Tir, bydd angen ad-dalu'r grant yn llawn o dan yr amgylchiadau canlynol:-

a, ddwy flynedd ar ôl y taliad grant olaf neu dair blynedd o ddyddiad y llythyr cynnig, os na fydd y safle yn cynnal y datblygiad, fel y disgrifir yn adran 5 o'r ffurflen gais, h.y. os dyfarnwyd grant ar gyfer gwaith dihalogi cyn adeiladu anheddau ac nad oes gwaith ar yr anheddau hynny wedi dechrau ddwy flynedd ar ôl y taliad grant, caiff y grant ei adfachu. 

b, Os bydd y disgrifiad o'r prosiect (Adran 4) a/neu'r datblygiad a ddisgrifir yn Adran 5 (allbynnau) yn wahanol i'r cais am gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau.

c, Ddwy flynedd ar ôl cael y grant, os dyfernir cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau ar gyfer asedau yn y “Cyfrif Cyffredinol”. (ALlau yn unig)

d, Os bydd cyfnod o fwy na thri mis yn mynd heibio pan fo'r prosiect arfaethedig yn cynnwys ased yn y “Cyfrif Cyffredinol” ac nad yw'r ased hwnnw wedi'i brynu eto. (ALlau yn unig) 

2. Sut i wneud cais

Rheolir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru. Os bydd yr ymgeisydd yn neilltuo cyllid i'r prosiect cyn i grant o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau gael ei gymeradwyo, bydd yn gwneud hynny ar ei fenter ei hun. Rhaid i ffurflen gais y prosiect gael ei chwblhau gan Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, sefydliadau eraill yn y trydydd sector a chyrff y mae eu gwreiddiau mewn gwerth cymdeithasol h.y. ymddiriedolaethau ac elusennau nid er elw. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. 

Dylai'r ffurflen gael ei chwblhau a'i chyflwyno'n electronig. 

Mae'r siart proses yn Atodiad 1 i'r canllawiau hyn yn amlinellu'r weithdrefn asesu a ddilynir gan Lywodraeth Cymru pan fydd yn asesu cais prosiect am gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau.

Bydd panel buddsoddi yn ystyried pob cais a ddaw i law gan ddefnyddio'r meini prawf asesu yn Atodiad 2 i'r canllawiau hyn. 

Bydd y Panel Buddsoddi yn gwneud argymhellion i ddeiliad y gyllideb i'w cymeradwyo yn yr Is-adran Tir. 

Rhaid i brosiectau fodloni'r meini prawf cyn cymhwyso canlynol cyn y gellir eu cyflwyno i'r Panel:

  • Mae'r tir/adeiladau dan sylw ym mherchenogaeth, neu bwriedir iddo/iddynt fod ym mherchenogaeth, sefydliad yn y sector cyhoeddus/sefydliad yn y trydydd sector/elusen ac ati.
  • Mae cynllun datblygedig ar gyfer y tir/adeiladau a gaiff ei gyflawni 
  • Bydd angen i waith datblygu ar ôl cael cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau gael ei gwblhau o fewn dwy flynedd i hawlio'r grant olaf o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau.

3. Sut i Hawlio

Mae ffurflen gais ar gael gan yr Is-adran Tir. Rhaid cyflwyno prawf o wariant (anfonebau a dalwyd) neu ddetholiadau o system gyllid y sefydliad sy'n dangos gwariant ar gyfer prosiect y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau, gyda'r ffurflen gais.

Fel arfer, gwneir taliadau ar ôl mynd i wariant ond, mewn rhai achosion, gellir gwneud taliadau ymlaen llaw. Cysylltwch â'r Is-adran Tir er mwyn trafod taliadau ymlaen llaw os bydd eu hangen.

4. Ffurflen gais y prosiect

Adran 1: Yr Ymgeisydd a Chrynodeb o'r Prosiect

Rhanbarth - nodwch ym mha un o'r pedwar rhanbarth y mae eich prosiect - dewiswch o blith y de-ddwyrain, y de-orllewin, y canolbarth neu'r gogledd.

Corff Arweiniol a derbynnydd y grant – dyma enw'r sefydliad a wnaiff reoli unrhyw gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau a gymeradwyir mewn perthynas â'r prosiect a hwn fydd y sefydliad sy'n gyfrifol am gyflwyno hawliadau, adroddiadau ar brosiectau ac ati i Lywodraeth Cymru.

Partner ar y cyd – os byddwch yn cyflawni'r prosiect hwn ar y cyd â phartner arall nodwch pwy yw'r partner hwn.

Teitl y Prosiect – darparwch yr enw unigryw a ddewiswyd ar gyfer eich prosiect.

Cyfanswm Cost y Prosiect – dyma gyfanswm cost y prosiect gan gynnwys, er enghraifft, Ffioedd Proffesiynol, Costau Dichonoldeb, Costau Rheoli, Dymchwel, Costau Adeiladu, ac ati. Dylai'r ffigur ar gyfer cyfanswm y gost a roddir yma gyfateb i'r wybodaeth am gyfanswm y gost a roddir yn Adran 8 o'r ffurflen gais. 

Arian Cyfatebol y Tu Allan i Lywodraeth Cymru – dyma'r cyllid rydych yn disgwyl ei gael gan sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru, cyllid gan y sector preifat, a chyllid gan y trydydd sector y gellir ei briodoli'n glir i'r prosiect. Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, gall amser/ffioedd staff gael eu cynnwys fel arian cyfatebol ond rhaid i hyn fod yn briodol a chael ei briodoli'n glir i'r prosiect, a rhaid gallu dangos tystiolaeth ohono a'i hawlio yn y flwyddyn ariannol yr aed iddynt. 

Arian Cyfatebol arall Llywodraeth Cymru – dyma'r cyllid rydych yn disgwyl ei gael gan Lywodraeth Cymru, er enghraifft Grant Tai Cymdeithasol, Grant Trafnidiaeth, Cronfa Trafnidiaeth Leol.

Mae'r rhestrau canlynol yn rhoi enghreifftiau o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid y tu allan i Lywodraeth Cymru ond nid ydynt yn gynhwysfawr ac, felly, os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â ffynonellau cyllid eraill nas rhestrir, dylech drafod hyn â'r Is-adran Tir.

Enghreifftiau o gyllid Llywodraeth Cymru 

Grant Tai Cymdeithasol

Safon Ansawdd Tai Cymru

Grantiau Busnes Cymru

Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth

Grantiau datblygu cyfalaf ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd

Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

Cyngor Celfyddydau Cymru

Chwaraeon Cymru 

Cadw

Grantiau amgylcheddol

Trefi Taclus

Cynllun grant Cymraeg 2050

Y Gronfa Tai Arloesol 

Enghreifftiau o gyllid y tu allan i Lywodraeth Cymru:

Cyllid sefydliadau yn y sector cyhoeddus/trydydd sector eu hunain

Arian y Loteri

Y Gronfa Cymunedau Arfordirol 

Cyllid o'r sector preifat

Benthyciad gan Lywodraeth Cymru neu fenthyciad arall

Cais am Grant o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau – dywedwch wrthym faint o gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau rydych yn gofyn amdano ar gyfer eich prosiect ac esboniwch sut y gwnaethoch gyfrifo'r swm hwnnw. Caiff prosiectau sy'n gofyn am lai o gyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru eu trin yn fwy ffafriol na phrosiectau hebddo.

Dylai cyfanswm y pecyn cyllido, gan gynnwys y grant o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau y gofynnir amdano, gyfateb i gyfanswm cost y prosiect. 

Dyddiad Dechrau Arfaethedig – dywedwch wrthym yn fras pryd rydych yn disgwyl i'r prosiect/gwaith ddechrau.

Dyddiad cwblhau ymarferol disgwyliedig – dywedwch wrthym pryd rydych yn disgwyl i'r prosiect gael ei gwblhau? Derbynnir y gall y dyddiad cwblhau ariannol, pan gaiff yr holl gostau eu talu (gan gynnwys symiau cadw), fod ar ôl y dyddiad cwblhau ffisegol. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r prosiect nes iddo gael ei gwblhau'n llawn a nes i'r holl allbynnau gael eu nodi. 

Adran 2: Prif Fanylion Cyswllt

Yma gofynnwn am fanylion cyswllt y prif swyddog a fydd yn gweithredu fel y prif gyswllt â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r prosiect hwn.

Adran 3: Partner(iaid) Cyflawni ar y Cyd

Yn yr adran hon, mae angen i chi restru'r partner(iaid) sydd ynghlwm wrth y prosiect a dweud wrthym ba fath o sefydliad(au) ydyw neu ydynt. Er enghraifft, ai sefydliad o'r sector preifat, awdurdod lleol neu sefydliad o'r trydydd sector e.e. elusen, menter gymdeithasol, sydd dan sylw. Rhowch y prif fanylion cyswllt ar gyfer y prosiect ym mhob sefydliad. Mae lle i roi manylion dau bartner cyflawni yn y ffurflen gais, ond ychwanegwch resi os oes mwy na hynny.

Adran 4: Disgrifiad o'r Prosiect

4.1 Disgrifiad 

Rhowch ddisgrifiad manwl o'ch prosiect a'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.

Darparwch gynllun o'r lleoliad gyda lluniau o'r safle/adeiladau lle maent yn ymddangos cyn i unrhyw waith ddechrau.

Dywedwch wrthym am gerrig milltir allweddol y prosiect, ynghyd â'i amcanion CAMPUS (cyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol, uchelgeisiol, synhwyrol).

4.2 Perchenogaeth 

Dywedwch wrthym pwy sy'n berchen ar y tir/adeiladau ar hyn o bryd, ac ar ba sail h.y. rhydd-ddaliad neu brydles, gan gynnwys trosglwyddo asedau. Os mai prydles a geir, beth yw ei thelerau? Ers faint rydych wedi bod yn berchen arno?

Os nad ydych chi na'ch partner yn y prosiect eisoes yn berchen ar y tir/adeiladau, pa drefniadau sydd ar waith i'w caffael, gan gynnwys natur hynny h.y. rhydd-ddaliad neu brydles (gyda manylion ei thelerau) a'r amserlen ar gyfer hyn? Mae hyn hefyd yn berthnasol i drosglwyddo asedau. 

Os bydd angen cyflawni mwy nag un caffaeliad ar gyfer y prosiect, rhowch fanylion pob un.

Pa gyfamodau, os o gwbl, sydd ynghlwm wrth y rhydd-ddaliad neu'r brydles a sut y bydd hyn yn effeithio ar gyflawni'r cynllun arfaethedig ar ôl cael cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau?

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddatgan unrhyw dir cyfagos a allai fod yn rhan o unrhyw weithgarwch yn y dyfodol ar ôl cael cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau.

4.3 Cyllid hanesyddol 

Os ydych wedi sicrhau cyllid arall gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cais hwn, rhowch fanylion h.y. enw'r prosiect, manylion costau a faint o gyllid a ddyfarnwyd.

Adran 5: Buddiannau ac Effeithiau

Allbynnau ac effeithiau

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at helpu i ddatblygu economi ffyniannus i Gymru a all gyflawni twf economaidd cynaliadwy cryf drwy roi cyfleoedd i bawb ledled y wlad. Rhaid i brosiectau a gaiff arian cyhoeddus gyfrannu at amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfydol. Y nod yw creu cymunedau cryfach, gostwng lefelau allgáu cymdeithasol a thlodi ac annog datblygiad yr economi.

Dywedwch wrthym sut y bydd datblygu'r ased hwn yn arwain at ddatblygu tir ar gyfer tai cymdeithasol/fforddiadwy.

Adran 6: Cyd-destun Strategol a Rhanbarthol

6.1 Tystiolaeth o angen

Pa dystiolaeth sydd gennych i ddangos bod angen y prosiect yn ei leoliad arfaethedig? Pam nad yw'r tir wedi cael ei ddatblygu? Gallai tystiolaeth gynnwys data ymchwil, data cyhoeddedig, ymgynghoriadau a/neu arolygon, dadansoddiadau/asesiadau o'r farchnad, rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau/cyfleusterau ac ati. Dylai copïau o'r dystiolaeth gael eu cadw gan y corff arweiniol a'u darparu i Lywodraeth Cymru os gofynnir amdanynt.

6.2 A fu'r tir yn fraenar neu a yw'r adeilad yn wag?

Os bu'n tir yn fraenar neu os yw'r adeilad yn wag, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos pam mae ei ddatblygu nawr er budd y cyhoedd. Bydd angen i chi ddangos bod datblygu'r tir/adeilad yn well na chwilio am safle arall â llai o gyfyngiadau. Ni chaiff cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau ei ddyfarnu er mwyn helpu sefydliadau i ddatblygu tir nac adeiladau gwael pan fydd opsiynau amgen gwell ar gael.

6.3 Rhestrwch asedau eraill rydych yn berchen arnynt y gellid eu cyflwyno ar gyfer datblygu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy. 

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i nodi pa asedau tir cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer hwyluso adeiladu cartrefi fforddiadwy/cymdeithasol. Bydd yr adran hon yn galluogi'r Is-adran Tir i fesur asedau tir a'u hardal leol. Defnyddir y wybodaeth hon i lywio penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol. Dylech gynnwys yr holl asedau a allai gyflawni'r agenda ar gyfer cartrefi fforddiadwy/cymdeithasol. Nodwch hefyd a yw'r ased yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Fel un o'r amodau grant, efallai y bydd yr Is-adran Tir yn gofyn am wybodaeth ychwanegol am eich daliadau a sut rydych yn bwriadu eu datblygu yn y dyfodol. 

Adran 7: Cyflawni

Yn yr adran hon, nodwch sut rydych yn bwriadu rheoli'r broses o gyflawni'r prosiect a disgrifiwch y strwythurau sydd ar waith er mwyn ymdrin â materion beunyddiol fel rheoli problemau a risgiau, gwneud hawliadau grant a sicrhau cydsyniadau priodol.

7.1 Llywodraethu a Rheoli Prosiect

Amlinellwch y trefniadau llywodraethu prosiect, gan gynnwys eich strwythur llywodraethu, rolau a chyfrifoldebau, Cylch Gorchwyl, aelodau, strategaeth ar gyfer ymdrin â rhanddeiliaid a chwsmeriaid ac ati.

Cadarnhewch y bydd rheolaeth ariannol y prosiect yn cydymffurfio â rheoliadau ariannol y sefydliad.

Bwriedir i'r grant hwn gael ei reoli gan yr ymgeisydd ac ni ddylai gael ei drosglwyddo o'r ymgeisydd i drydydd parti oni fydd yr Is-adran Tir yn cytuno ar hynny h.y. Awdurdod Lleol sy'n gweithredu ar ran Ymddiriedolaeth Gymunedol. Caiff unrhyw broses adfachu ei chychwyn yn erbyn y corff arweiniol a derbynnydd y grant.

7.2 Diwydrwydd Dyladwy mewn perthynas â Sefydliadau Partner

Mae angen cynnal proses diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â phartneriaid nad ydynt yn awdurdod lleol/landlord cymdeithasol cofrestredig.

Os oes gan eich cais bartneriaid nad ydynt yn awdurdod lleol/landlord cymdeithasol cofrestredig, cadarnhewch fod yr ymgeisydd arweiniol wedi cynnal proses diwydrwydd dyladwy briodol mewn perthynas â phob trydydd parti a bod canlyniad pob un yn foddhaol.

7.3 Rheoli Risg

Nodwch y risgiau a'r dibyniaethau sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn a dynodwch ba fesurau yr ydych wedi'u nodi er mwyn lliniaru'r risgiau hynny. 

Adran 8 – Costau'r Prosiect a Phecyn Cyllido

Pecyn Cyllido

Nodwch y pecyn cyllido ar gyfer y gwaith hwn. Bydd hyn yn cynnwys pob ffynhonnell o gyllid.

Gwariant Arfaethedig 

Mae'r adran ganlynol yn nodi'r mathau o gostau prosiect a allai gael eu cynnwys. Os nad ydych yn siŵr ynglŷn ag unrhyw elfen o gost, trafodwch hyn â'ch swyddog cyswllt enwebedig yn Llywodraeth Cymru. Er mwyn sicrhau'r cyfraniad o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau, rhaid ei hawlio yn y flwyddyn ariannol yr aed i'r gost. Ni ellir hawlio cyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau nes i ddyfarniad cyllid ffurfiol gael ei wneud.

Gwariant Rhagarweiniol 

Ni fydd unrhyw gostau yr aed iddynt cyn i'r grant gael ei ddyfarnu yn gymwys i gael cymorth ariannol. 

Ffioedd Proffesiynol

Mae ffioedd ymgynghorwyr allanol yn gymwys, lle gellir dangos y prynwyd y gwasanaethau hynny drwy ymarfer caffael cystadleuol. Fodd bynnag, nid ydym yn disgwyl i ymgynghorwyr gael eu defnyddio yn lle gwasanaethau mewnol.

Gall costau rheoli prosiect a goruchwylio ymgeisydd gael eu hystyried ar yr amod mai dim ond ar y prosiect yr eir iddynt, ac y gellir darparu tystiolaeth o hyn. Fel uchod, bydd hyn yn gwanhau'r cais am ein bod yn disgwyl i wasanaethau mewnol gael eu darparu “mewn nwyddau”.

Gall ffioedd sydd wedi bod yn destun proses dendro gymeradwy gael eu cynnwys ar sail cyfradd y farchnad a ddeilliodd o'r ymarfer hwnnw, ar yr amod nad oedd terfyn amser i'r ymarfer hwn.

Rhaid i ffioedd ymgynghori gael eu caffael yn briodol yn unol â chanllawiau'r sector cyhoeddus. Os eir i gostau y tu allan i broses dendro, mae'n bosibl y byddant yn gymwys o hyd os ydynt yn rhesymol ym marn Llywodraeth Cymru. Mae'r Is-adran Tir yn argymell yn gryf bod unrhyw gostau o'r fath yn cael eu trafod cyn dyfarnu gwaith.

Diswyddo

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymhwystra ar gyfer materion o'r fath yn y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau.

Prynu Tir ac Eiddo

Mae prynu tir ac eiddo yn gost gymwys, ar yr amod bod y tir neu'r eiddo a brynir yn rhydd-ddaliadol ac y caiff y tir ei ddefnyddio i gyflawni amcanion y Prosiect h.y. bydd prynu tir ar safle cyfagos yn rhyddhau datblygiad mwy o faint.

Mae angen tystysgrif gan y Swyddfa Brisio er mwyn cadarnhau nad yw'r pris prynu yn fwy na gwerth y farchnad. Os caiff y tir/adeiladau eu prynu am bris sydd uwchlaw gwerth y farchnad, yna mae'n bosibl y caiff y grant ei gapio ar werth y farchnad. Bydd yr Is-adran Tir yn barnu pob cais yn ôl ei deilyngdod.

Paratoi Safle 

Gall gwariant cymwys gynnwys archwilio'r safle, clirio'r safle a gwasanaethu'r safle, gan gynnwys gwaith rhagarweiniol a nodir yn y Rhestr Feintiau. Gellir ariannu gwaith i ddihalogi'r safle hefyd. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu rhesymeg dros sail y costau.

Gwaith Contract 

Gall gwariant cymwys gynnwys gwaith amgylcheddol a thriniaethau arbennig. Os bydd amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau cais i gynnwys gwasanaeth penodol nad yw'n un syml, bydd angen i chi drafod hyn gyda Llywodraeth Cymru. 

Prynu Cyfarpar 

Nid yw prynu cyfarpar yn gymwys fel arian cyfatebol ar gyfer y prosiect.

Taliadau Cadw

Nid yw taliadau cadw yn wariant cymwys.

Gwariant Anghymwys

Cytunir bod y costau canlynol yn anghymwys i gael cymorth ac na ellir eu defnyddio fel arian cyfatebol:

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a chaiff ei diwygio o bryd i'w gilydd:

  • llog ar ddyled 
  • taliadau banc ar gyfrifon 
  • costau gwarantau a ddarperir gan fanc neu sefydliad ariannol arall;
  • taliadau am drafodion ariannol, comisiynau a cholledion cyfnewid arian tramor, a threuliau eraill sy'n rhai ariannol yn unig; 
  • taliadau benthyciadau; 
  • llog neu daliadau gwasanaeth – ar lesoedd a threfniadau hur-brynu; 
  • costau yn deillio o ohirio talu credydwyr;
  • costau sy'n ymwneud â dirwyn cwmni i ben; 
  • drwg-ddyledion yn deillio o fenthyciadau i gyflogeion, perchenogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr neu randdeiliaid; 
  • dirwyon, cosbau ariannol a threuliau ymgyfreitha; 
  • costau staff na ellir eu priodoli'n uniongyrchol i gyflawni'r prosiect; 
  • hyfforddiant sy'n orfodol o dan ddarpariaeth statudol; 
  • taliadau am roddion; 
  • costau adloniant;
  • gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, oni fydd yn uniongyrchol gysylltiedig â chyflawni'r prosiect; 
  • costau annibynnol gwaith a wneir fel gofyniad statudol;
  • costau tybiannol; 
  • taliadau am weithgareddau sydd o natur wleidyddol uniongyrchol; 
  • difidendau i gyfranddeiliaid; 
  • costau y mae unigolion yn mynd iddynt wrth sefydlu cynlluniau pensiwn preifat a chyfrannu atynt, neu wrth i sefydliadau a gaiff gronfeydd strwythurol sefydlu cynlluniau o'r fath; 
  • taliadau pensiwn nas ariennir; 
  • gostyngiadau 

Cyllid 

Gall dyfarniad cyllid Llywodraeth Cymru o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau fod yn amodol ar dystiolaeth o sicrhau ymrwymiadau arian cyfatebol.

Rhaid i'r arian cyfatebol a nodir ar y ffurflen gais gael ei ategu gan ddatganiad wedi'i lofnodi o ymrwymiad neu ymrwymiad dangosol gan y corff cyllido sy'n darparu'r adnoddau. Pan ddefnyddir amser staff mewn arian cyfatebol, rhaid i'r corff sy'n darparu'r adnoddau roi blaenoriaeth i'r adnodd hwn. 

Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, dylai ymgeiswyr ddarparu cadarnhad sydd wedi'i lofnodi gan y corff cyllido gyda'r cais, sy'n nodi enw'r prosiect, faint o gyllid a gyfrannir a datganiad yn nodi bod yr arian ar gael yn hawdd. Os na fydd llythyrau dyfarnu gan gyllidwyr eraill ar gael ar adeg cyflwyno eich cais yn ffurfiol, mae'n bosibl na chaiff eich cais ei ystyried, 

Nodwch y bydd dyfarniad cyllid Llywodraeth Cymru o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn nodi dyraniadau blynyddoedd ariannol ar gyfer y prosiect yn ogystal â dyddiad hawlio terfynol pan fydd angen i chi fod wedi defnyddio dyraniad y prosiect. Rhaid i hawliadau grant o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau yn erbyn gwariant y prosiect gael eu gwneud yn y flwyddyn ariannol y caiff yr arian ei wario ynddi. Felly, bydd angen i swyddog arweiniol y prosiect sicrhau y gall y prosiect gyflawni'r gwariant blynyddol angenrheidiol er mwyn cyflawni'r dyraniad grant penodol ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw. Byddai angen i Lywodraeth Cymru gymeradwyo unrhyw amrywiad i brosiect neu ei broffil cyllido.

Adran 9: Cydymffurfiaeth

Rhaid i brosiectau gael eu rheoli a'u caffael mewn modd cydymffurfiol.

9.1 Caffael

Rhaid i nwyddau, gwasanaethau, gwaith ymgynghori, gwaith ymchwil, ac unrhyw waith arall sydd ei angen er mwyn cyflawni'r prosiect gael eu caffael yn briodol a rhaid sicrhau bod yr holl ymarferion caffael yn deg, yn agored ac:

  • wedi'u cyflawni mewn ffordd foesegol, gynaliadwy ac atebol ac sy'n cydymffurfio â rhwymedigaethau gweithdrefnol, cyfreithiol a rhyngwladol;
  • cyflawni gwell gwerth am arian yn barhaus, yn seiliedig ar gost ac ansawdd gydol oes nwyddau a gwasanaethau; 
  • helpu i wneud cyflenwyr yn fwy cystadleuol;

Dylai'r broses o gaffael gwasanaethau dylunio arbenigol ac asiantiaid cyflawni priodol gael ei chynnal yn unol â pholisïau a gweithdrefnau caffael safonol eich sefydliad. 

Mae'r defnydd o gytundebau fframwaith presennol yn dderbyniol ar yr amod eu bod wedi'u dyfarnu'n briodol.

Mae'n bosibl na fydd gwariant ar nwyddau, gwasanaethau, gwaith ymgynghori, gwaith ymchwil neu waith arall nas caffaelwyd yn unol â'r canllawiau hyn yn gymwys i gael cymorth.

Rhaid i Awdurdodau Arweiniol fabwysiadu eu gweithdrefnau cydymffurfio eu hunain mewn perthynas â chaffael ar gyfer sefydliadau trydydd parti/partner. Rhaid iddynt sicrhau bod sefydliadau trydydd parti/partner yn dilyn prosesau caffael cadarn a chydymffurfiol

Bydd ymgeiswyr yn cynnal yr ymarfer caffael priodol cyn gwneud cais i Lywodraeth Cymru. Bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth o'r broses gaffael wrth arfarnu'r cais os bydd yn briodol.

Dylai'r dogfennau tendro, gan gynnwys adroddiad tendro, gael eu cyflwyno gyda'ch cais.

9.2 Rheoli Cymorthdaliadau 

Noder mai er arweiniad y darperir y canlynol yn unig a rhaid i bob ymgeisydd gynnal asesiad Rheoli Cymorthdaliadau/Cymorth Gwladwriaethol o'i brosiect ei hun a phrosiectau trydydd parti. 

Mater i chi yw penderfynu a yw'r cymorth ariannol a ddarperir gennych yn cael ei ystyried yn ‘gymhorthdal’. Ystyrir bod cymorth ariannol yn gymhorthdal os yw'n bodloni pob un o bedair ‘cangen’ y prawf a geir yn Neddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. 

Y prawf pedair cangen

  1. A yw'r cymorth ariannol yn cael ei roi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o adnoddau cyhoeddus gan awdurdod cyhoeddus?
  2. A yw'r cymorth ariannol yn rhoi mantais economaidd i un neu fwy o fentrau?
  3. A yw'r cymorth ariannol yn benodol? Hynny yw, a yw'r fantais economaidd wedi'i rhoi i un (neu fwy nag un) fenter, ond nid i eraill?
  4. A gaiff y cymorth ariannol effaith, neu a allai gael effaith, ar gystadleuaeth neu fuddsoddiad yn y DU, neu fasnach neu fuddsoddiad rhwng y DU a gwlad neu diriogaeth arall?

Fodd bynnag, mae system Rheoli Cymorthdaliadau newydd y DU yn cydnabod bod angen cymorthdaliadau/arian cyhoeddus ar wasanaethau penodol sydd o fudd cyffredinol megis tai cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r system rheoli cymorthdaliadau newydd yn cyfeirio at y rhain fel gwasanaethau o fudd economaidd cyhoeddus. Mae gwasanaethau o fudd economaidd cyhoeddus y tu allan i gwmpas y gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau.

Adran 10: Dogfennau Ategol

Mae'r rhan hon o'r cais yn rhestru'r dogfennau y gellid eu cyflwyno gyda'ch cais gorffenedig. Os oes dogfennau ychwanegol yr hoffech eu cynnwys i gefnogi eich cais am gyllid, dylid eu rhestru yn yr adran hon. Rhifwch y ddogfen a'i henwi, a dynodwch pa ran o'r cais y mae'n ymwneud â hi.

Adran 11: Llofnod a Dyddiad

Mae Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i weinyddu eu materion ariannol yn briodol a phenodi Prif 

Swyddog Ariannol i fod yn gyfrifol am y trefniadau hynny. Fel rheol, Cyfarwyddwr Adnoddau'r Cyngor fydd y Swyddog Adran 151, neu'r Prif Swyddog Ariannol fel y'i gelwir hefyd, a bydd yn gyfrifol am weinyddu materion ariannol y cyngor yn briodol.

Rhaid i'r Swyddog Adran 151 lofnodi'r ffurflen gais i gadarnhau bod y wybodaeth a roddwyd ynddi yn gywir a bod y prosiect strategol wedi cael cymeradwyaeth ranbarthol.

Atodiad 1: Map o Broses Y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau

Image
Map o Broses Y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau

Atodiad 2: Panel Buddsoddi'r Is-adran Tir

Bydd y panel asesu yn edrych ar y prosiect yn ei gyfanrwydd, sut mae'n diwallu anghenion lleol ac a yw'n cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru. Caiff allbynnau meintiol eu croesawu ond rhoddir mwy o werth ar ganlyniad y cynnig, h.y. Bydd gwneud cais am £ABC i ddatblygu 10 cartref cymdeithasol mewn ardal â galw isel yn sgorio llai na hyrwyddo pump mewn ardal â galw mawr. 

Atodiad 3: Diffiniadau o Allbynnau

Disgwylir i bob prosiect a gaiff gyllid o'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau gyflawni allbynnau a chanlyniadau fel tystiolaeth o elw ar fuddsoddiad. Oherwydd natur cynllun y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau, mae'n debygol y bydd i allbynnau ansoddol le blaenllaw yn y cais.

Atodiad 4: Adfachu Cyllid Grant

Cyflwyniad

  1. Bwriedir i'r cynllun grant hwn sicrhau bod gwaith datblygu sydd ar stop yn mynd yn ei flaen. I'r perwyl hwnnw, dim ond os bydd rhyddhau'r tir yn arwain at ei ddatblygu y dylai'r ymgeisydd fwrw ymlaen â chais. 
  2. Yn y rhan fwyaf o achosion caiff yr holl grant a dalwyd ynghyd â llog eu hadfachu gan yr ymgeisydd ni waeth pwy sydd ar fai.

Atodiad 5: ATODLEN x o lythyr dyfarnu'r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau

Gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 

Rhan 1

Bydd angen prosesu data personol ar ein rhan er mwyn cyflawni'r Dibenion. Ni fydd y Rheolydd Data ac mae'r tabl isod yn nodi'r gweithgarwch prosesu y caniateir iddo fynd rhagddo wrth gyflawni'r Dibenion. 

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig pellach a roddir gennym mewn perthynas â gweithgarwch prosesu ar ein rhan. Caiff unrhyw gyfryw gyfarwyddiadau pellach eu cynnwys yn y tabl:

Gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
DisgrifiadManylion
Sail Gyfreithiol dros y Gweithgarwch Prosesu

Y pwerau cyfreithiol perthnasol yw:

 

Erthyglau 6(e) o'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data

 

Manylion y Gweithgarwch Prosesu

Data allbynnau mewn perthynas â dyfarnu'r Cyllid

 

Hyd y Gweithgarwch Prosesu

O [                                20XX]

 

I [                 31 Mawrth 20XX]

 

Lleoliad y Gweithgarwch Prosesu

 

Rhaid i'r data gael eu prosesu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

 

Cymru

 

Natur y Gweithgarwch Prosesu

Defnyddio'r ffurflen gais, casglu, cofnodi, storio, ailbrofi, defnyddio, datgelu, lledaenu, alinio, cyfuno, dileu a dinistrio

 

Dibenion y Gweithgarwch Prosesu

Gwerthuso'r cyllid a chynnal manylion cyswllt

 

Y Math o Ddata Personol i'w Prosesu

enw, cyfeiriad cartref, cyfeiriad busnes, cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn, dyddiad geni

 

Categorïau Gwrthrychau Data

cyflogeion awdurdodau lleol, myfyrwyr, disgyblion, hyfforddeion a chontractwyr

 

Cynlluniwch sut y bydd y data yn cael eu dychwelyd a/neu eu dinistrio unwaith y cwblheir y gweithgarwch prosesu ONID yw'n ofynnol o dan gyfraith yr undeb neu'r aelod-wladwriaeth i gadw'r math hwnnw o ddata

Dylid cadw data personol tan 20XX ac yna eu dinistrio

 

Dylid cadw gwybodaeth am allbynnau ond nid data personol tan 20XX 

 

Rhan 2 

1. Caiff y diffiniadau a nodir isod ar gyfer y termau canlynol eu defnyddio yn yr Atodlen 6 hon:

Diffiniadau GDPR
DisgrifiadDiffiniad
Digwyddiad Colli Data

unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain neu a all arwain at fynediad diawdurdod i Ddata Personol a ddelir gennych o dan y Dyfarniad Cyllid, a/neu achos gwirioneddol neu bosibl o golli a/neu ddinistrio Data Personol sy'n groes i'r Dyfarniad Cyllid hwn gan gynnwys unrhyw achos o gael mynediad diawdurdod at Ddata Personol (fel y'i diffinnir yn y GDPR);

 

Asesiad Effaith Diogelu Data

asesiad gan y Rheolwr o effaith y gweithgarwch Prosesu a ragwelir ar ddiogelwch Data Personol;

 

Deddfwriaeth Diogelu Data

y GDPR, y DPA, yr LED ac unrhyw Ddeddfwriaeth weithredu genedlaethol gymwys fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd, DPA 2018 (yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol) i'r graddau y mae'n berthnasol i weithgarwch Prosesu Data Personol a phreifatrwydd a phob deddf a rheoliad cymwys sy'n ymwneud â Phrosesu Data Personol a phreifatrwydd gan gynnwys, lle y bo'n gymwys, y canllawiau a'r codau ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth;

 

Cais am Fynediad at y Data gan y Testun

cais a wneir gan neu ar ran Gwrthrych Data yn unol â hawliau a roddwyd o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data i gael mynediad i'w Ddata Personol;

 

DPA 2018

Deddf Diogelu Data 2018;

 

GDPR

Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (Rheoliad (UE) 2016/679);

 

LED

Cyfarwyddeb Gorfodi'r Gyfraith (Cyfarwyddeb (UE) 2016/679);

 

Y Gyfraith

 

 

  1. unrhyw statud neu broclamasiwn cymwys neu unrhyw ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu is-ddeddfwriaeth;

     

  2. unrhyw hawl gymunedol orfodadwy o fewn ystyr adran 2(1) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972;

 

  1. unrhyw ganllawiau, cod ymarfer, cyfarwyddyd neu benderfyniad cymwys yr ydym ni a/neu chi yn rhwym i gydymffurfio â hwy i'r graddau y cânt eu cyhoeddi a'u bod ar gael i'r cyhoedd neu yr ydym wedi eich hysbysu am eu bodolaeth neu eu cynnwys; 

 

  1. unrhyw ddyfarniad neu orchymyn cymwys a wneir/a roddir gan lys barn perthnasol sy'n gynsail gyfrwymol yng Nghymru a Lloegr;

 

sydd, ym mhob achos, mewn grym neu'n gymwys yng Nghymru a Lloegr, neu yng Nghymru yn unig;

 

Parti

ni neu chi, gyda'n gilydd ‘y Partïon’;

 

Mesurau Diogelu

mesurau technegol a sefydliadol priodol a all gynnwys gosod ffugenwau ar Ddata Personol neu eu hamgryptio, sicrhau cyfrinachedd, uniondeb, argaeledd a gwydnwch systemau a gwasanaethau, sicrhau bod modd cael gafael ar Ddata Personol yn amserol ar ôl digwyddiad ac asesu a gwerthuso effeithiolrwydd y mesurau a fabwysiedir ganddo yn rheolaidd;

 

Is-brosesydd

unrhyw drydydd parti a benodir i Brosesu Data Personol ar eich rhan mewn perthynas â'r Dyfarniad Cyllid;

 

Diwrnodau Gwaith 

diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.

 

Diogelu data personol

2.1 Yn yr Atodlen 6 hon, bydd i'r termau canlynol yr ystyr a roddwyd iddynt yn y GDPR: Rheolwr, Prosesydd, Gwrthrych Data, Data Personol, Proses, Mynediad Diawdurdod at Ddata Personol, Swyddog Diogelu Data. 

2.2 Mae'r Partïon yn cydnabod, at ddibenion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mai ni yw'r Rheolydd ac mai chi yw'r Prosesydd. 

2.3 Disgrifir yr unig weithgarwch Prosesu Data Personol yr ydych wedi'ch awdurdodi i'w gyflawni yn yr Atodlen 6 hon neu fe'i cymeradwywyd yn ysgrifenedig ymlaen llaw gennym ni ac ni allwch chi ei bennu.

2.4 Rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith os byddwch o'r farn bod unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gennym yn mynd yn groes i'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. 

2.5 Rhaid i chi roi pob cymorth rhesymol i ni mewn unrhyw Asesiad Effaith Diogelu Data sy'n mynd rhagddo cyn ac ar ôl cychwyn unrhyw weithgarwch Prosesu. Gall y cyfryw gymorth, yn ôl ein disgresiwn, gynnwys y canlynol: 

2.5.1 disgrifiad systematig o'r gweithrediadau Prosesu a ragwelir a'u diben; 

2.5.2 asesiad o gymesuredd y gweithrediadau Prosesu a'r angen amdanynt mewn perthynas â'r Dibenion;

2.5.3 asesiad o'r risgiau i hawliau a rhyddid Testunau Data; 

2.5.4 y mesurau a ragwelir er mwyn ymdrin â'r risgiau, gan gynnwys camau diogelu, mesurau diogelwch a systemau ar gyfer diogelu Data Personol. 

2.6 Mewn perthynas ag unrhyw Ddata Personol a Brosesir mewn cysylltiad â'ch rhwymedigaethau o dan y Dyfarniad Cyllid, rhaid i chi wneud y canlynol: 

2.6.1 prosesu'r Data Personol hynny yn unol ag Amod 2.3 o'r Atodlen 6 hon yn unig, oni fydd yn ofynnol i chi wneud fel arall yn ôl y Gyfraith. Os bydd yn ofynnol i chi wneud hynny, rhaid i chi ein hysbysu'n brydlon cyn Prosesu'r Data Personol oni chewch eich gwahardd rhag gwneud hynny yn ôl y Gyfraith;

2.6.2 sicrhau bod Mesurau Diogelwch, sydd wedi'u hadolygu a'u cymeradwyo gennym fel y bo'n briodol, ar waith gennych i ddiogelu rhag Digwyddiad Colli Data wedi ystyried: 

  1. natur y data i'w diogelu;
    1. y niwed y gallai Digwyddiad Colli Data ei gael;
      1. datblygiadau technolegol;
        1. cost gweithredu unrhyw fesurau;

2.6.3 rhaid i chi, os yw'n ofynnol i chi hysbysu Testunau Data am ddiben a manylion y gweithgarwch Prosesu a wneir, gydweithredu â ni er mwyn cytuno ar hysbysiad priodol sy'n cydymffurfio â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Mae'n rhaid i'r hysbysiad gael ei gymeradwyo gennym yn ysgrifenedig ymlaen llaw. 

2.6.4 sicrhau nad yw eich Personél yn Prosesu Data Personol ac eithrio'n unol â'r Dyfarniad Cyllid;

2.6.5 sicrhau eich bod yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw aelodau o'ch Personél sydd â mynediad at Ddata Personol yn ddibynadwy ac yn onest a sicrhau eu bod: 

(i) yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau o dan yr Amodau ac yn cydymffurfio â nhw; 

(ii) yn destun ymgymeriadau cyfrinachedd priodol â chi neu unrhyw Is-brosesydd;

(iii) yn cael eu hysbysu am natur gyfrinachol y Data Personol ac nad ydynt yn cyhoeddi nac yn datgelu unrhyw Ddata Personol i unrhyw drydydd parti oni chânt eu cyfarwyddo i wneud hynny'n ysgrifenedig gennym ni neu fel y caniateir fel arall drwy'r Dyfarniad Cyllid; 

(iv) wedi cael hyfforddiant digonol ar sut i ddefnyddio, diogelu, trin a gofalu am Ddata Personol; 

2.6.6 peidio â throsglwyddo Data Personol y tu allan i'r UE heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw ac oni fodlonir yr amodau canlynol: 

(i) rydym ni neu chi wedi rhoi camau diogelu priodol ar waith mewn perthynas â throsglwyddo'r data (p'un ai'n unol ag Erthygl 46 y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data neu Erthygl 37 Cyfarwyddeb Gorfodi'r Gyfraith) fel y pennir gennym;

(ii) mae gan y Testun Data hawliau gorfodadwy a rhwymedïau cyfreithiol effeithiol; 

(iii) rydych yn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data drwy ddarparu lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer unrhyw Ddata Personol a drosglwyddir (neu, os nad ydych yn rhwym wrth hynny, rhaid i chi ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau); 

(iv) rydych yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol y byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt ymlaen llaw mewn perthynas â Phrosesu'r Data Personol;

2.6.7 Yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gennym, dileu neu ddychwelyd Data Personol (ac unrhyw gopïau ohonynt) atom pan ddaw'r Dyfarniad Cyllid i ben onid yw'n ofynnol i chi gadw'r Data Personol yn ôl y Gyfraith.

2.7 Yn ddarostyngedig i Amod 2.8, rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith os bydd y canlynol yn digwydd mewn perthynas â'r Dyfarniad Cyllid: 

2.7.1 os byddwch yn cael Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (neu Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun honedig); 

2.7.2 os byddwch yn cael cais i gywiro neu ddileu unrhyw Ddata Personol neu atal gweithgarwch prosesu; 

2.7.3 os byddwch yn cael unrhyw gais, cwyn neu ohebiaeth arall sy'n ymwneud â rhwymedigaethau'r naill Barti neu'r llall o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data;

2.7.4 os byddwch yn cael unrhyw ohebiaeth gan y Comisiynydd Gwybodaeth neu unrhyw awdurdod rheoleiddio arall mewn perthynas â Data Personol a Brosesir o dan y Dyfarniad Cyllid;

2.7.5 os byddwch yn cael cais gan unrhyw drydydd parti i ddatgelu Data Personol lle mae angen cydymffurfio â'r cyfryw gais neu lle yr honnir bod angen cydymffurfio â'r cyfryw gais yn ôl y Gyfraith; neu

2.7.6 os byddwch yn dod yn ymwybodol o Ddigwyddiad Colli Data.

2.8 Mae eich rhwymedigaeth i hysbysu o dan Amod 2.7 o'r Atodlen 6 hon yn cynnwys darparu gwybodaeth bellach i ni bob yn dipyn, wrth i fanylion ddod ar gael.

2.9 Gan ystyried natur y gweithgarwch Prosesu, rhaid i chi roi cymorth llawn i ni mewn perthynas â rhwymedigaethau'r naill Barti neu'r llall o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data ac unrhyw gŵyn, gohebiaeth neu gais a wneir o dan Amod 2.7 o'r Atodlen 6 hon (ac i'r graddau y mae'n bosibl o fewn yr amserlenni rhesymol sy'n ofynnol gennym) gan gynnwys rhoi'r canlynol i ni'n brydlon: 

2.9.1 manylion llawn a chopïau o'r gŵyn, yr ohebiaeth neu'r cais;

2.9.2 y cyfryw gymorth ag y gallwn ofyn amdano'n rhesymol er mwyn ein galluogi i gydymffurfio â Chais am Fynediad at Ddata gan y Testun o fewn y terfynau amser perthnasol a nodir yn y Ddeddfwriaeth Diogelu Data;

2.9.3 yn dilyn cais gennym, unrhyw Ddata Personol a ddelir gennych mewn perthynas â Thestun Data;

2.9.4 cymorth y gallwn ofyn amdano'n rhesymol yn dilyn unrhyw Ddigwyddiad Colli Data; 

2.9.5 cymorth y gallwn ofyn amdano'n rhesymol mewn perthynas ag unrhyw gais gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu unrhyw ymgynghori gennym â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

2.10 Rhaid i chi gadw cofnodion a gwybodaeth gyflawn a chywir i ddangos eich bod yn cydymffurfio ag Amod 2 o'r Atodlen 6 hon. Nid yw'r gofyniad hwn yn berthnasol os byddwch yn cyflogi llai na 250 aelod o staff heblaw o dan yr amgylchiadau canlynol: 

2.10.1 rydym yn penderfynu nad gweithgarwch achlysurol yw'r gweithgarwch Prosesu;

2.10.2 rydym yn penderfynu bod y gweithgarwch Prosesu yn cynnwys categorïau arbennig o ddata fel y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(1) o'r GDPR neu Ddata Personol sy'n ymwneud â chollfarnau a throseddau y cyfeirir atynt yn Erthyglau 10 o'r GDPR; 

2.10.3 rydym yn penderfynu bod y gweithgarwch Prosesu yn debygol o arwain at risg i hawliau a rhyddid Testunau Data.

2.11 Rhaid i chi ganiatáu i ni neu ein harchwilydd dynodedig archwilio eich gweithgarwch Prosesu Data. 

2.12 Rhaid i chi benodi swyddog diogelu data os yw'n ofynnol gan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. 

2.13 Cyn caniatáu i unrhyw Is-brosesydd brosesu unrhyw Ddata Personol sy'n gysylltiedig â'r Dyfarniad Cyllid, rhaid i chi wneud y canlynol: 

2.13.1 ein hysbysu'n ysgrifenedig o'r Is-brosesydd a'r gweithgarwch Prosesu bwriadedig;

2.13.2 cael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw;

2.13.2 ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig â'r Is-brosesydd sy'n dwyn i rym y telerau a nodir yn yr Amod 2 hwn o'r Atodlen 6 hon fel y maent yn berthnasol i'r Is-brosesydd; 

2.13.3 rhoi'r cyfryw wybodaeth i ni ag y gall fod ei hangen yn rhesymol arnom am yr Is-brosesydd.

2.14 Byddwch yn parhau'n gwbl atebol am holl weithredoedd neu hepgoriadau unrhyw Is-brosesydd. 

2.15 Gallwch ar unrhyw adeg drwy roi o leiaf 30 Diwrnod Gwaith o rybudd ddiwygio'r Amod 2 hwn o'r Atodlen 6 hon drwy ei ddisodli ag unrhyw gymalau rheolydd i brosesydd safonol cymwys neu delerau tebyg sy'n rhan o gynllun ardystio perthnasol (a fydd yn gymwys pan gânt eu cynnwys drwy eu hatodi i'r Dyfarniad Cyllid). 

2.16 Mae'r Partïon yn cytuno i ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Drwy roi o leiaf 30 Diwrnod Gwaith o rybudd i chi, gallwn ddiwygio'r Dyfarniad Cyllid er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. 

2.17 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd unrhyw beth yn y Dyfarniad Cyllid yn eich rhyddhau o'ch cyfrifoldebau a'ch rhwymedigaethau uniongyrchol eich hun o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data. 

2.18 Rydych yn cytuno i'n hindemnio ac i sicrhau ein bod yn parhau i gael ein hindemnio yn erbyn unrhyw hawliadau a gweithrediadau ac unrhyw atebolrwydd, colled, costau a threuliau yr eir iddynt gennym o ganlyniad i unrhyw hawliad a wneir neu a ddygir gan unrhyw unigolyn neu berson cyfreithiol arall mewn perthynas ag unrhyw golled, niwed neu drallod a achosir i'r unigolyn hwnnw neu berson cyfreithiol arall o ganlyniad i weithgarwch prosesu diawdurdod neu anghyfreithlon gennych, neu unrhyw achos o ddinistrio a/neu ddifrod a wneir i unrhyw Ddata Personol a brosesir gennych chi, eich cyflogeion neu eich asiantiaid mewn perthynas â'r Dyfarniad Cyllid neu fel y cytunir fel arall rhwng y Partïon. 

2.19 Bydd darpariaethau'r Amod 2 hwn o'r Atodlen 6 hon yn gymwys tra pery'r Dyfarniad Cyllid ac am gyfnod amhenodol ar ôl iddo ddod i ben.