Y gronfa cymorth dewisol: Ionawr i Mawrth 2024
Ystadegau’r gronfa cymorth dewisol, wedi’u dadansoddi yn ôl oedran ac awdurdod lleol am y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw’r gronfa cymorth dewisol?
Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi taliadau i bobl mewn argyfwng neu bobl sydd angen cymorth i fyw yn annibynnol. Mae’r taliadau yn cael eu rhannu’n ddau fath, yn dibynnu ar ba gategori y mae pobl yn perthyn iddo.
- Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.
- Mae Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maen nhw’n symud i mewn iddo.
Mae'r data diweddaraf ar y DAF, yn ogystal â dadansoddiadau misol ychwanegol, i'w gweld ar StatsCymru. I helpu defnyddwyr i ddehongli’r data, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd data yn adroddiad ansawdd DAF.
Prif ganfyddiadau
- Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 rhoddwyd 244,675 o daliadau DAF, gyda gwerth cyfunol o £33,561,931
- Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024, rhoddwyd 72,510 o daliadau, gwerth cyfanswm o £8,711,585
- Roedd 69,102 o’r taliadau hyn yn daliadau EAP gwerth £5,542,152
- Roedd 3,408 o’r taliadau hyn yn daliadau IAP gwerth £3,169,433
- Gwerth cyfartalog (cymedr) taliad EAP oedd £80 a gwerth cyfartalog taliad IAP oedd £930.
Ffigur 1: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP ym mhob chwarter o fis Ebrill 2023 ymlaen
Disgrifiad o ffigur 1: Mae’r siart far hon yn dangos gwerth taliadau EAP ac IAP, yn ôl chwarter, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023 a rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024. Gwerth y ddau EAP ac IAP oedd rhwng 3.5 a 4.5 miliwn o bunnoedd ar gyfer tri chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol. Yn y chwarter olaf (Ionawr i Fawrth 2024) newidiodd y gwerthoedd gydag EAP yn cynyddu i 5.5 miliwn o bunnoedd ac IAP yn gostwng i 3.2 miliwn o bunnoedd.
Ffynhonnell: Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.
Mae'r gwahaniaethau yng nghyfanswm gwerthoedd EAP ac IAP yn y chwarter diweddaraf yn cael eu gyrru gan newid yn nifer y taliadau. Ar gyfer EAP roedd cynnydd o 26% yn nifer y taliadau ym misoedd Ionawr i Fawrth 2024 o'i gymharu â Hydref i Ragfyr 2023. Roedd gostyngiad o 8% ar gyfer IAP dros yr un cyfnod. Mae nifer y taliadau ar gyfer pob chwarter (a mis) ar gael ar StatsCymru.
Dylid trin cymariaethau â data DAF cyn mis Ebrill 2023 yn ofalus oherwydd newidiadau yn y meini prawf ar gyfer gwneud cais i DAF ac effeithiau pandemig COVID-19. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn adroddiad ansawdd DAF.
Awdurdodau lleol
Ffigur 2: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024
Disgrifiad o ffigur 2: Mae’r siart far hon yn dangos cyfanswm gwerth taliadau EAP ac IAP a dalwyd ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024. Amrywiodd gyfanswm gwerth taliadau EAP rhwng £700,044 yng Nghaerdydd a £46,170 yng Ngheredigion. O ran taliadau IAP, amrywiodd gyfanswm gwerth y taliadau rhwng £515,430 yng Nghaerdydd i £44,297 yng Ngheredigion. Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng awdurdodau lleol.
Ffynhonnell: Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.
Amrywiodd werth cyfartalog taliad o £84 yn Sir Gaerfyrddin a Wrecsam i £76 yn Sir Fynwy ar gyfer taliadau EAP ac o £1,098 ym Merthyr Tudful i £681 yng Ngheredigion ar gyfer taliadau IAP.
Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul mis, ar gyfer pob awdurdod lleol ar StatsCymru.
Oedran y derbynnydd
Ffigur 3: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP yn ôl grŵp oedran rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024
Disgrifiad o ffigur 3: Mae’r siart far hon yn dangos gwerth taliadau EAP ac IAP a ddyrannwyd yn ôl grŵp oedran rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024. Y grŵp oedran 30 i 39 oed a gafodd y gwerth uchaf o daliadau EAP a thaliadau IAP, a’r grŵp oedran 16 i 29 oed a gafodd y gwerth ail uchaf. Ar gyfer grwpiau oedran hŷn, gostyngodd yr arian a gafwyd o daliadau EAP ac IAP gydag oedran.
Ffynhonnell: Data a gasglwyd gan NEC ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.
Cafodd y rhai 30 i 39 oed daliadau EAP gwerth £2,224,905 a thaliadau IAP gwerth £939,331. Cafodd y rhai yn y grŵp oedran 16 i 29 oed daliadau EAP a thaliadau IAP gwerth £1,475,865 a £886,720 yn y drefn honno a chafodd y rhai 70 oed a hŷn daliadau EAP gwerth £38,376 a thaliadau IAP gwerth £57,892. Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng grwpiau oedran.
O ran taliadau EAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £88 i’r rhai 30 i 39 oed a £65 i’r rhai sy’n oed 60 i 69. O ran taliadau IAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £1,020 i’r rhai 16 i 29 oed a £643 i’r rhai sy’n 70 oed a hŷn.
Gwybodaeth ansawdd a methodoleg
Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r bunt agosaf. Nid yw’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y caiff y data ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylid ei gofio wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar gael yn yr adroddiad ansawdd DAF.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Richard Murphy
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 38/2024