Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r gronfa cymorth dewisol?

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi taliadau i bobl mewn argyfwng neu bobl sydd angen cymorth i fyw yn annibynnol. Mae’r taliadau yn cael eu rhannu’n ddau fath, yn dibynnu ar ba gategori y mae pobl yn perthyn iddo:

  • Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.
  • Mae Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maen nhw’n symud i mewn iddo.

Mae'r data diweddaraf ar y DAF, yn ogystal â dadansoddiadau misol ychwanegol, i'w gweld ar StatsCymru. I helpu defnyddwyr i ddehongli’r data, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd data yn adroddiad ansawdd DAF.

Prif ganfyddiadau

  • Rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024, rhoddwyd 68,500 o daliadau, gwerth cyfanswm o £7,965,000.
  • Roedd 65,900 o’r taliadau hyn yn daliadau EAP gwerth  £5,160,000.
  • Roedd 2,600o’r taliadau hyn yn daliadau IAP gwerth £2,804,000.
  • Gwerth cyfartalog (cymedr) taliad EAP oedd £78 a gwerth cyfartalog taliad IAP oedd £1,070.

Ffigur 1: Gwerth EAP ac IAP ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023 a 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart bar hwn yn dangos gwerth EAP ac IAP rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023 ac ar gyfer yr un cyfnod yn 2024. Roedd 5.2 miliwn o bunnoedd o EAP ym misoedd Ebrill i Fehefin 2024, cynnydd o 0.8 miliwn o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023 a 2.8 miliwn o bunnoedd mewn IAP, gostyngiad o 1.4 miliwn.

Ffynhonnell: Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024.

Mae'r gwahaniaethau yng nghyfanswm gwerthoedd EAP ac IAP yn y chwarter diweddaraf yn cael eu gyrru gan newid yn nifer y taliadau. Ar gyfer EAP roedd cynnydd o 17% yn nifer y taliadau ym misoedd Ebrill i Fehefin 2024 o'i gymharu â’r un cyfnod yn 2023. Roedd gostyngiad o 40% ar gyfer IAP.

Mae nifer y taliadau ar gyfer pob chwarter (a mis) ar gael ar StatsCymru.

Mae ffigurau EAP yn dangos amrywiad tymhorol ac felly dylid trin cymariaethau rhwng chwarteri dilynol yn ofalus. Nid oes darlun clir ar amrywiad tymhorol ar gyfer IAP. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn adroddiad ansawdd DAF.

Awdurdodau lleol

Ffigur 2: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart far hon yn dangos cyfanswm gwerth taliadau EAP ac IAP a dalwyd ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024. Amrywiodd gyfanswm gwerth taliadau EAP rhwng £685,000 yng Nghaerdydd a £46,000 yng Ngheredigion. O ran taliadau IAP, amrywiodd gyfanswm gwerth y taliadau rhwng £397,000 yng Nghaerdydd i £46,000 yng Ngheredigion. Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng awdurdodau lleol. 

Ffynhonnell: ‌‌Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024. 

Roedd gwerth cyfartalog taliad yn amrywio rhwng £78 a £79 (Ar gyfer pob awdurdod lleol,) i EAPs ac o £1,170 ym Merthyr Tudful i £910 yng Ngheredigion ar gyfer taliadau IAP. 

Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul mis, ar gyfer pob awdurdod lleol ar StatsCymru.

Oedran y derbynnydd

Ffigur 3: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP yn ôl grŵp oedran rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart far hon yn dangos gwerth taliadau EAP ac IAP a ddyrannwyd yn ôl grŵp oedran rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024. Y grŵp oedran 30 i 39 oed a gafodd y gwerth uchaf o daliadau EAP a thaliadau IAP, a’r grŵp oedran 16 i 29 oed a gafodd y gwerth ail uchaf. Ar gyfer grwpiau oedran hŷn, gostyngodd yr arian a gafwyd o daliadau EAP ac IAP gydag oedran.

Ffynhonnell: ‌‌Data a gasglwyd gan NEC ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Ebrill a mis Fehefin 2024.

Cafodd y rhai 30 i 39 oed daliadau EAP gwerth £1,758,000 (gyfanswm) a thaliadau IAP gwerth £1,031,000. Cafodd y rhai yn y grŵp oedran 16 i 29 oed daliadau EAP a thaliadau IAP gwerth £1,462,000  a £697,000 yn y drefn honno a chafodd y rhai 70 oed a hŷn daliadau EAP gwerth £46,000 a thaliadau IAP gwerth £3,000. ‌Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng grwpiau oedran.

O ran taliadau EAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £79 i’r rhai 16 i 29 oed a £77 i’r rhai sy’n 70 oed a hŷn. O ran taliadau IAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £1,120 i’r rhai 60-69 oed a £820 i’r rhai sy’n 70 oed a hŷn.

Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul cwarter a mis, ar gyfer pob grŵp oedran ar StatsCymru.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae'r gwerthoedd EAP cyfartalog wedi'u talgrynnu i'r bunt agosaf, mae’r IAP cyfartalog wedi'u talgrynnu i'r 10 bunt agosaf ac mae'r holl werthoedd ariannol eraill wedi'u talgrynnu i'r 1,000 bunt agosaf. Mae nifer y taliadau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf. Nid yw’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y caiff y data ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylid ei gofio wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 68/2024